Newyddion

Sesiwn Aros a Chwarae rhieni Math (Meithrin)

Bydd sesiynau Aros a Chwarae dosbarth Math dydd Llun yr 11eg o Fawrth, dydd Mawrth yr 12fed o Fawrth, Dydd Mercher yr 13eg o Fawrth a dydd Gwener y 15fed o Fawrth. Bydd y sesiynau o 9.30-11.00 y bore a 1.15-2.45 y prynhawn.

Dyma’r linc apwyntiadau sydd angen arnoch i drefnu mynychu sesiwn

https://parents-booking.co.uk/

Bydd y linc yma a’r system apwyntiadau yn cau ar ddydd Gwener yr 8fed o Fawrth.

Os fydd angen cymorth arnoch i wneud apwyntiad, mae croeso i chi gysylltu gyda’r swyddfa.

Diolch am eich cydweithrediad.

Nosweithiau Rhieni Derbyn i Fl 6

Bydd nosweithiau rhieni’r dosbarthiadau Derbyn i Fl6 ar nos Fawrth y 12fed o Fawrth a nos Fercher y 13eg o Fawrth, 3.40-6.20.

Dyma’r linc apwyntiadau. Bydd y linc yma a’r system apwyntiadau yn cau ar ddydd Gwener yr 8fed o Fawrth. Os fydd angen cymorth arnoch i wneud apwyntiad, mae croeso i chi gysylltu gyda’r swyddfa.

 

Diolch am eich cydweithrediad.