Newyddion
Ethol Rhiant-Lywodraethwyr
Gwybodaeth Rhybuddio Covid-19 (Templed)
Trosglwyddo i’r Ysgol Gyfun
Gwibdaith Blwyddyn 5 i Ganolfan Liddington
Dydd Llun 11/10/2021
Gadael yr Ysgol 7am
Dychwelyd 6:45pm
Lluniau, negeseuon a diweddariadau ar Drydar Bl 5
Dillad
Crys T Addysg Gorfforol Ysgol
Trowsus tracwisg a ‘sgidiau rhedeg
Siwmper neu grys chwys a chot law
Cofiwch labelu gydag enw’r plentyn
Bydd angen cyflwyno unrhyw feddyginiaethau mewn amlen yn dangos
Enw’r disgybl
Maint ac amlder y dôs
Bydd hefyd angen
Cinio ac ychydig o fyrbrydau
Dwr
Llyfr neu bos ar gyfer y siwrnai
Dim ffonau symudol, camerau na offer/gem trydanol os gwelwch yn dda.
Canllawiau Covid-19
Cadw Treganna’n Ddiogel
Mae’n gallu i gadw Treganna ar agor yn dibynnu’n fawr ar ein cymuned. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau gwarchod ein disgyblion a staff rhag Covid-19 ond mae’n rhaid i ni ddibynnu arnoch chi i weithredu’n gall er mwyn cynnal y lefelau isel yn y gymuned sy’n caniatáu i ni agor ein hysgolion. Parchwch ganllawiau’r llywodraeth a chofiwch:
beidio ag anfon eich plentyn i’r ysgol os yw’n sâl, hyd yn oed os ydych chi’n meddwl nad oes ganddyn nhw’r coronafeirws.
Cofiwch os gwelwch yn dda:
Gyrraedd yn brydlon
- Adael yn ddiymdroi
- Sefyll 2m ar wahân
- Mygydau ar gyfer oedolion
Profion COVID-19 i bobl gydag ystod ehangach o symptomau
Rydym yn cynghori prawf coronafeirws os oes ystod ehangach o symptomau gyda chi.
Yn ogystal â thymheredd uchel, peswch parhaus newydd neu golli/newid i’r gallu i arogli neu flasu – gallwch bellach gael prawf gydag unrhyw un o’r symptomau blinder, myalgia (poenau neu wayw yn y cyhyrau), gwddf tost, cur pen, tisian, trwyn yn rhedeg, dim chwant bwyd, cyfog, chwydu, neu ddolur rhydd.
Mae’r newidiadau’n cael eu gwneud er mwyn helpu i ddod o hyd i achosion o amrywiadau newydd o COVID-19 ac i nodi pobl a allai fod mewn perygl o drosglwyddo’r clefyd i bobl eraill heb wybod hynny.
Bydd y Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu hefyd yn cynnig prawf i’r holl unigolion sydd wedi bod mewn cysylltiad agos â’r rheiny sydd wedi cael prawf positif, yn hytrach na gofyn iddynt aros nes iddynt ddatblygu symptomau, ac yn cynnig profion i unrhyw un y mae eu symptomau wedi newid yn dilyn canlyniad prawf negyddol blaenorol.
Gallwch drefnu prawf yma: https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws neu drwy ffonio 119. Wrth drefnu prawf ar-lein, oherwydd y rhestr ehangach o symptomau, dylai trigolion ddewis yr opsiwn “gofynnodd eich cyngor lleol i chi gael prawf”.