Newyddion
Canllawiau Diweddaraf Covid 31/03/2022
Annwyl Rieni/Warcheidwaid
Yn dilyn y newidiadau diweddar mewn deddfwriaeth yn ymwneud â Covid-19, dyma ysgrifennu atoch a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae ein hysgol yn parhau i gwrdd â’r her parhaus a gyflwynir gan y firws.
Mae cyfraddau achosion yn rhanbarth Caerdydd a’r Fro wedi bod yn cynyddu dros yr ychydig wythnosau diwethaf. Mae’r cynnydd mewn achosion yn parhau i gyflwyno heriau o ran staffio ac, fel y dewis olaf, efallai y bydd achosion o gau dosbarthiadau oherwydd hunan-ynysu a salwch ac ati. er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar ddisgyblion.
O ddydd Llun, 28 Mawrth, nid yw’r gofyniad cyfreithiol ar gyfer hunanynysu a defnyddio gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus bellach mewn grym. Fodd bynnag, er bod y ddeddfwriaeth wedi newid, nid yw’r Canllawiau Gweithredol cyfredol i ysgolion wedi newid. Nid yw Covid-19 wedi diflannu ac mae’n parhau i gyflwyno heriau. Er ein bod yn parhau i weithio drwy’r cyfnod pontio yn unol â strategaeth Llywodraeth Cymru o fyw gyda Covid-19, fe’ch cynghorir yn gryf o hyd i unrhyw un sydd â symptomau clasurol Covid-19 barhau i gymryd prawf, a hynny er budd iechyd y cyhoedd, mae unrhyw un sydd â phrawf positif yn parhau i hunan-ynysu. Gellir dod o hyd i fanylion y canllawiau cyfredol mewn perthynas â hunanynysu ar-lein yn www.gov.wales/self-isolation.
Ar hyn o bryd, gofynnir i unrhyw ddisgybl sy’n profi’n bositif gyda Covid-19 beidio â mynychu’r ysgol. Mae hyn oherwydd y bydd haint Covid-19 yn cael ei drin fel unrhyw glefyd trosglwyddadwy arall (e.e., Norofeirws) a gall yr ysgol argymell rhai mesurau i amddiffyn iechyd a diogelwch disgyblion a staff eraill. Nid yw hwn yn waharddiad ond yn absenoldeb awdurdodedig.
Mae ysgolion yn parhau i weithredu yn unol â Fframwaith Penderfyniadau Lleol Covid-19 Llywodraeth Cymru. Byddwn yn parhau i fonitro ac adolygu trefniadau Covid-19 yn rheolaidd ac rydym yn derbyn ymatebion cymesur yn seiliedig ar gyfraddau heintiau lleol, i gydbwyso’r angen am ddysgu wyneb yn wyneb, a chadw ein hysgolion yn amgylchedd diogel.
Gallwch ein helpu i barhau i darfu ar drosglwyddo’r feirws drwy:
- Hunan-ynysu pan fyddwch chi’n teimlo’n sâl
- Gwisgo masgiau mewn lleoliadau llawn a phrysur
- Cadw eich brechiadau yn gy6redol
Mae parhau a threfniadau amddiffynnol yn bwysig a bydd yn helpu i leihau amlygiad a lledaeniad Covid-19, yn ogystal â heintiau anadlol eraill a chlefydau eraill.
Os oes gennych unrhyw un o brif symptomau COVID-19, dylech hunan-ynysu a sefyll prawf llif ochrol (LFT). Gallwch archebu LFTs ar-lein yn www.gov.uk/order-coronavirus-rapid-lateral-flow-tests neu ffoniwch 119 rhwng 7am ac 11pm (mae galwadau am ddim).
Mae prif symptomau COVID-19 yn parhau i fod fel a ganlyn:
- tymheredd uchel
- peswch parhaus
- colli neu newid blas neu arogl
Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf bydd rhagor o waith yn cael ei wneud wrth drosglwyddo i strategaeth Byw gyda Covid-19 Llywodraeth Cymru, a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau amgylchedd ysgol diogel. Rydym yn ddiolchgar am eich cefnogaeth barhaus a byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau wrth iddynt ddod ar gael. Os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol ynghylch presenoldeb, cysylltwch â Threganna
Pel Droed Plasmawr
Canlyniadau Eisteddfod yr Urdd 12/03/2022
Amserlen Eisteddfod yr Urdd
Canlyniadau Eisteddfod Gorllewin Caerdydd
Teledu Boom
Llywodflog
Cogurdd 22
Manylion Tramgwyddau Parcio y tu allan i ysgolion
Casgliad Proforma Covid Ionawr 2022
Canllawiau Newydd Covid-19 01/11/2021
Crynodeb o Ganllawiau Newydd Covid-19 01/11/2021
CARTREF
Wedi brechu’n llawn neu rhwng 5 ac 17 oed
Os bydd unrhywun yn y cartref â symptomau neu wedi profi’n bositif, rhiad hunanynysu a chymryd prawf PCR. Os yw’r prawf yn negatif,daw’r hunanynysu i ben. Bydd angen parhau’n wyliadwrus am unrhyw symptomau newydd, a cheisio osgoi cyswllt yn y tymor byr gyda phobl bregus.
Plant o dan 5 oed sydd â symptomau COVID-19 heb brawf
Mae’r Llywodraeth yn cynghori na ddylai’r plant hynny fynd i’r ysgol neu i leoliad gofal plant hyd nes y byddant yn gwella.
Gall blant 0 -4 oed gael prawf os yw rhieni’n teimlo bod angen prawf PCR
Rhieni
Plentyn sydd â symptomau neu sydd wedi cael canlyniad positif
Dylai rhieni a gwarcheidwaid osgoi symud plentyn sydd â symptomau COVID-19 neu sydd wedi cael canlyniad positif rhwng aelwydydd.
Os yw rhieni a gwarcheidwaid yn rhannu cyfrifoldeb dros y plentyn, dylai’r plentyn aros gydag un teulu am y cyfnod mae angen iddo hunanynysu.