Newyddion
Gwibdaith Blwyddyn 5 i Ganolfan Liddington
Dydd Llun 11/10/2021
Gadael yr Ysgol 7am
Dychwelyd 6:45pm
Lluniau, negeseuon a diweddariadau ar Drydar Bl 5
Dillad
Crys T Addysg Gorfforol Ysgol
Trowsus tracwisg a ‘sgidiau rhedeg
Siwmper neu grys chwys a chot law
Cofiwch labelu gydag enw’r plentyn
Bydd angen cyflwyno unrhyw feddyginiaethau mewn amlen yn dangos
Enw’r disgybl
Maint ac amlder y dôs
Bydd hefyd angen
Cinio ac ychydig o fyrbrydau
Dwr
Llyfr neu bos ar gyfer y siwrnai
Dim ffonau symudol, camerau na offer/gem trydanol os gwelwch yn dda.
Canllawiau Covid-19
Cadw Treganna’n Ddiogel
Mae’n gallu i gadw Treganna ar agor yn dibynnu’n fawr ar ein cymuned. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau gwarchod ein disgyblion a staff rhag Covid-19 ond mae’n rhaid i ni ddibynnu arnoch chi i weithredu’n gall er mwyn cynnal y lefelau isel yn y gymuned sy’n caniatáu i ni agor ein hysgolion. Parchwch ganllawiau’r llywodraeth a chofiwch:
beidio ag anfon eich plentyn i’r ysgol os yw’n sâl, hyd yn oed os ydych chi’n meddwl nad oes ganddyn nhw’r coronafeirws.
Cofiwch os gwelwch yn dda:
Gyrraedd yn brydlon
- Adael yn ddiymdroi
- Sefyll 2m ar wahân
- Mygydau ar gyfer oedolion
Profion COVID-19 i bobl gydag ystod ehangach o symptomau
Rydym yn cynghori prawf coronafeirws os oes ystod ehangach o symptomau gyda chi.
Yn ogystal â thymheredd uchel, peswch parhaus newydd neu golli/newid i’r gallu i arogli neu flasu – gallwch bellach gael prawf gydag unrhyw un o’r symptomau blinder, myalgia (poenau neu wayw yn y cyhyrau), gwddf tost, cur pen, tisian, trwyn yn rhedeg, dim chwant bwyd, cyfog, chwydu, neu ddolur rhydd.
Mae’r newidiadau’n cael eu gwneud er mwyn helpu i ddod o hyd i achosion o amrywiadau newydd o COVID-19 ac i nodi pobl a allai fod mewn perygl o drosglwyddo’r clefyd i bobl eraill heb wybod hynny.
Bydd y Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu hefyd yn cynnig prawf i’r holl unigolion sydd wedi bod mewn cysylltiad agos â’r rheiny sydd wedi cael prawf positif, yn hytrach na gofyn iddynt aros nes iddynt ddatblygu symptomau, ac yn cynnig profion i unrhyw un y mae eu symptomau wedi newid yn dilyn canlyniad prawf negyddol blaenorol.
Gallwch drefnu prawf yma: https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws neu drwy ffonio 119. Wrth drefnu prawf ar-lein, oherwydd y rhestr ehangach o symptomau, dylai trigolion ddewis yr opsiwn “gofynnodd eich cyngor lleol i chi gael prawf”.
Ynysu Bl 2
Ynysu bl 3
Neges gan y Gwasanaeth Profi ac Olrhain
Rhieni Blwyddyn 5
Gwersi Rhyw a Pherthynas
Blwyddyn 3
- Gwers 1: ‘Perthnasoedd – beth yw ffrind da?’
- Gwers 2: ‘Cyfeillgarwch – Datblygu empathi’
- Gwers 3: ‘Pethau tebyg ac annhebyg rhwng bechgyn a merched.’ Edrych ar ystrydebau bachgen/merch, cyflwyno’r brif wahaniaeth corfforol rhwng ‘bechgyn’ a ‘merched’ drwy luniau o fabanod, heb ddefnyddio iaith ffurfiol am organau rhywiol
- Gwers 4: ‘Cyffwrdd priodol ac amhriodol’
Blwyddyn 4
- Gwers 1: ‘Gwahaniaethau teuluol – Beth yw teulu?’
- Gwers 2: ‘Cylch bywyd pobl’ a chyfrifoldebau’n newid
- Gwers 3: ‘Gwahaniaethau corfforol rhwng bechgyn a merched.’ Enwi rhannau o’r corff. Defnyddio enwau cywir am rannau o’r corff gan gynnwys yr organau rhywiol
- Gwers 4: ‘Tyfu i fyny a bod yn ddiogel’ – mae gan bob plentyn yr hawl i deimlo’n ddiogel, gwybod o le i gael cymorth a chyngor os yw’n teimlo’n anniogel
Blwyddyn 5
- Gwers 1 – ‘Cyfeillgarwch’ – Mae pethau tebyg ac annhebyg rhwng pobl yn cyfrannu at amrywiaeth o ran cyfeillgarwch
- Gwers 2 – ‘Newidiadau corfforol yn y glasoed’
- Gwers 3 – Y Glasoed – Grwpiau Bechgyn/Merched – Y misglwyf, newidiadau i fechgyn. Gwersi ar wahân i fechgyn a merched fel bod modd ateb cwestiynau manylach
- Gwers 4 – ‘Y Glasoed – systemau
Blwyddyn 6
- Gwers 1 – ‘Perthnasoedd – Beth yw cariad?’
- Gwers 2 – ‘Y Glasoed – pwysigrwydd hylendid corfforol’. Ystyried newidiadau emosiynol hefyd
- Gwers 3 – ‘Atgenhedlu’ – Adolygu rhannau o’r corff, trafod cenhedlu
- Gwers 4 – ‘Perthnasoedd, cenhedlu a beichiogrwydd’. Gweithgareddau mewn perthnasoedd, adolygu cenhedlu, ystyried datblygiad babanod, bod yn iach yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth a bwydo’r babi
Cwricwlwm 2022 – Datblygu Gweledigaeth
Datblygu Gweledigaeth
Mae dyluniad cwricwlwm newydd i Gymru yn gofyn inni ystyried:
- Beth ddylen ni ei ddysgu a pham?
- Sut dylen ni ei ddysgu?
- Sut y bydd hyn yn cefnogi ein dysgwyr i wireddu’r pedwar pwrpas?
Dyma rai o’r pethau roedd y staff yn teimlo oedd yn bwysig am Treganna
Dyma rai o’r pethau roedd dysgwyr yn teimlo oedd yn bwysig am Treganna
Trefniadau “Hollington Drive” Dydd Iau 3ydd Mehefin, 0900 & 1400
Blwyddyn 3,4,5 a 6
Daeth lefydd ychwanegol i law ar gyfer ycynhyrchiad yma. Os oes diddordeb gan eich plentyn gymryd rhan dylech gofrestru yn fan hyn
Dyma holiadur iechyd ychwanegol ar gyfer “Hollington Drive” ar gyfer y rhai sydd wedi cofrestru eisoes. Parent health questionnaire
Atebion a cheisiadau i Natasha yn info@beauteouscasting.com