Newyddion

Coronafirws Newydd 18/03/2020

Annwyl Rieni / Gwarcheidwad,

Er nad oes achos firws wedi cadarnhau ymysg staff yr Ysgol, mae nifer wedi gorfod hunan ynysu oherwydd amodau iechyd personol neu’n gweithredu’n ofalus rhag ofn bod ganddynt Coronafirws.

Fe fydd yn rhaid i ni gyfrif yn fanwl yn ddyddiol ,nifer absennoldebau disgyblion cyn penderfynu os oes digon o staff I gynnal dosbarth am y dydd.

Ddoe, gwnaethom benderfynnu bod rhaid I ni gau dosbarth Rhiannon oherwydd prinder staff. Fe aeth, yn anffodus, y neges ar goll yn ein system. Erbyn bore ‘ma byddwn yn ail ystyried ar ol cyfri niferoedd. Mae’n debyg y byddwn yn gorfod ystyried y cam o gau dosbarthiadau eto cyn I gyfnod y firws yma dod I ben.

Ceisiwn ymhob achos gynnig gymaint o rybudd o flaen llaw ag sy’n bosib.

Dosbarth Gwern

Mae un o’r hyfforddwyr seiclo wedi hunan ynysu oherwydd salwch aelod o’r teulu. Yn sgil hyn ni fydd yr ystafell ar gael heddiw nes i’r sir glanhau yn drylwyr.

 

Rh.G.Harries BA MSc

Pennaeth

Head teacher

Coronafeirws Newydd (COVID-19)

Rieni / Gwarcheidwad

Er nad oes unrhyw achosion wedi eu hadrodd yn yr ysgol hyd yn hyn, rydym yn dymuno eich sicrhau bod mesurau yn cael eu cymryd yn unol â chyngor cyfredol gan Brif Swyddog Meddygol y Deyrnas Unedig. Fel ysgol, rydym yn parhau i hybu hylendid dwylo ac hylendid personol anadlu (Defnyddio tisw / penelin. Gofynnir i chi gefnogi hyn gartref hefyd. Gellir dod o hyd i fwy o gyngor a gwybodaeth yn fan hyn.

 

A wnewch chi sicrhau fod eich plentyn yn dod a photel ddwr bersonol wedi ei labelu ac yn ei golchi adref bob nos. Ni fyddwn yn darparu cwpanau plastig yn y dosbarth.

Bydd ein Clwb Brecwast a Chymer Ofal yn gweithredu fel arfer, am y tro. Ry’n ni wedi penderfynu gohirio cyfweliadau rhieni tan y tymor nesaf. Mae’r Urdd, hefyd wedi gohirio’r Eisteddfod am flwyddyn ac fe fydd ymarferion yn dod i ben.

Er ein bod yn glynu wrth gyngor ar hyn o bryd ac yn aros ar agor fel ysgol, rydym yn ymwybodol o’r posibilrwydd y byddwn yn cau yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae gennym ‘Gynllun Parhad Busnes’ cadarn mewn lle ac er mwyn paratoi ar gyfer y fath sefyllfa, rydym yn y broses o gynhyrchu deunyddiau dysgu y gellir cael mynediad hwylus atynt ar-lein drwy lwyfannau megis HWB

Rwy’n siŵr eich bod yn sylweddol bod y protocol o “ymbellhau cymdeithasol” mewn ysgol yn anodd iawn i’w gyflwyno, fodd bynnag, bydd ein rhaglen ar gyfer gwasanaethau yn y neuadd, yn cael eu gohirio am y dyfodol rhagweladwy.

Ar gyfer cyfweliadau CAU rwyf wedi gofyn i staff sicrhau fod yna 2m. rhyngddoch chi ar gyfer y cyfarfodydd. Gofynnwn i chi olchi dwylo yn drylwyr cyn ac ar ôl y cyfweliad. Fe fydd angen pen personol arnoch i lofnodi’r gwaith papur.

Os oes well gennych dderbyn copi electronig o’r gwaith papur yn hytrach na dod i’r cyfarfod, mae croeso i chi gysylltu â’r swyddfa.

 

Diolch i chi am eich dealltwriaeth a’ch cydweithrediad wrth i ni barhau i gydweithio i ddarparu amgylchedd diogel i gymuned ein hysgol.

 

Yn gywir,

Rh.G.Harries BA MSc
Pennaeth
Head teacher