Newyddion
Rhaglen Eisteddfod Rhanbarth Cynradd
7th March 2024Rhaglen Eisteddfod Rhanbarth Cynradd
Darllenwch Mwy…Sesiwn Aros a Chwarae rhieni Math (Meithrin)
20th February 2024Bydd sesiynau Aros a Chwarae dosbarth Math dydd Llun yr 11eg o Fawrth, dydd Mawrth yr 12fed o Fawrth, Dydd Mercher yr 13eg o Fawrth… Read more »
Darllenwch Mwy…Nosweithiau Rhieni Derbyn i Fl 6
20th February 2024Bydd nosweithiau rhieni’r dosbarthiadau Derbyn i Fl6 ar nos Fawrth y 12fed o Fawrth a nos Fercher y 13eg o Fawrth, 3.40-6.20. Dyma’r linc apwyntiadau. Bydd… Read more »
Darllenwch Mwy…Croeso
Croeso i Ysgol Treganna.
Mae seiliau ein gweledigaeth ar gyfer Ysgol Treganna yn gorwedd yn yr “ysgol fechan yn y ddinas fawr” lle gychwynnodd ein taith nol yn 1987. Bellach rydym wedi tyfu i fod yn ysgol o 700 o ddisgyblion wedi rhannu yn dair cymuned dan arweiniad ein dirprwyon cynorthwyol. Mae 21 o ddosbarthiadau yn Nhreganna wedi’u trefnu i hyrwyddo’r profiad dysgu gorau posibl i’ch plentyn.
Mae ein cymunedau dysgu yn fodd ymarferol o sicrhau teimlad o berthyn, gofal a natur deuluol gyson ac mae ffyniant disgyblion a’u lles wrth wraidd popeth a wnawn yma yn Nhreganna. Cydweithiwn gyda theulu eang ein cymuned i gynnig profiadau ysbrydoledig i’n disgyblion gan hyrwyddo cwricwlwm byw, cyfredol ac uchelgeisiol sy’n tanio dychymyg ein disgyblion ac yn meithrin eu chwilfrydedd.
Mae Cymreictod, yr iaith, a’r diwylliant Cymreig yn rhan annatod o’n gweledigaeth.Ond credwn yn gryf mae ein dyletswydd yw dysgu mwy nag iaith i’n disgyblion. Mae’n bwysig ein bod yn trochi pob un disgybl yn niwylliant ein gwlad gan sicrhau eu bod yn cael amrediad o brofiadau fydd yn eu galluogi i fod yn Gymry sy’n falch o’u gwlad, eu traddodiadau a’u hiaith.
Fel pennaeth yr ysgol, rwyf am greu diwylliant o bosibilrwydd yn Ysgol Treganna ble mae parodrwydd i ddysgu, i gofleidio syniadau newydd, i anelu am ragoriaeth yn rhan allweddol o weledigaeth yr ysgol. Ond hefyd datblygu’r diwylliant gofalgar a chynhwysol sy’n cynnal ac yn dathlu’r “ysgol fechan yn y ddinas fawr”. Y fechan, sef yr agosatrwydd, yr ymdeimlad o berthyn o fewn y cymunedau, ond yna’r mawredd a’r cydweithrediad pwerus pan ddaw’r cymunedau ynghyd fel un ysgol gref.
Rwy’n hynod falch o fod yn bennaeth Ysgol Treganna ac arwain tîm o staff ymroddedig a brwdfrydig sy’n rhoi anghenion ein plant yn gyntaf.
Mae croeso mawr i chi ymweld â ni yn Ysgol Treganna!
Mrs Catrin Evans