Newyddion
Diwedd y Tynmor a 2021
Diogelwch ar lein dros Dolig
Yr adnawdd ar gael yn Saesneg yn unig
Gweithwyr Allweddol Blaenoriaeth Uchel
Bendigeidfran
Swigod Dosbarth a’r clybiau cyn ac ar ol ysgol
Hunan Ynysu gyda Covid19
Hunan Ynysu bl4 a 5 Diweddariad 02/12/2020
Data Lluoedd Arfog
Hunan Ynysu’r Hollies
Ceisiadau am lleoedd mewn ysgolion cynradd ym mis Medi 2021
![]() |
Derbynnir ceisiadau am lleoedd mewn ysgolion cynradd ym mis Medi 2021 heddiw ac mae ymgyrch newydd wedi’i lansio i roi arweiniad i rieni sy’n gwneud cais am le.Mae Tîm Derbyn i Ysgolion Cyngor Caerdydd wedi llunio 7 awgrym da i helpu teuluoedd gan esbonio sut mae’r broses dderbyn yn gweithio, pwysigrwydd defnyddio’r holl ddewisiadau sydd ar gael a pham y dylent wneud cais mewn pryd.
Mae’r ymgyrch yn cynnwys animeiddiad newydd ar gyfer plant a theuluoedd, sy’n helpu i esbonio’r 7 gair o gyngor. Mae’n ymdrin â phethau megis: · Pwysigrwydd gwneud cais yn brydlon, erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig. · Manteision ystyried yr holl ysgolion yn ardal y plentyn trwy edrych ar eu gwefannau a darllen eu hadroddiadau · Yr angen cynnwys rhestr lawn o ddewisiadau ysgol yn y ffurflen gais gyntaf er mwyn cynyddu’r posibilrwydd o gael lle yn ysgol eich dewis gan sicrhau bod y ffurflen gais yn cynnwys gwybodaeth hanfodol megis a oes gan y plentyn frawd neu chwaer yn yr ysgol neu unrhyw anghenion dysgu, meddygol neu gymdeithasol ychwanegol. Ceir gwybodaeth hefyd am sut i wneud apêl os chewch gynnig lle yn ysgol eich dewis. I weld y 7 gair o gyngor a’r animeiddiad ewch i Bydd y cyfnod ceisiadau am le mewn ysgolion cynradd yn dod i ben ddydd Llun 11 Ionawr, 2021. I wneud cais am le mewn ysgol, ewch i: http://www.caerdydd.gov.uk/derbyniysgolion Mae’r wybodaeth hefyd ar gael ar y dudalen we mewn sawl iaith gan gynnwys Arabeg, Tsieceg, Rwmaneg, Portiwgaleg, Pwyleg, Somalïeg a Bengaleg. Diolch yn arbennig i academyddion Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd sydd wedi cefnogi’r ymgyrch drwy drosleisio’r animeiddiad mewn ieithoedd eraill.
|