Derbyn – Gwaith Cartref

E-ddysgu – Ffrainc – 11/5/2020

Cofiwch edrych ar eich cyfrif just2easy yn gyson yn enwedig yr adrannau j2stars, ffeiliau wedi’u rhannu a fy ffeiliau.

Unrhyw gwestiynau neu eisiau cymorth pellach cofiwch gysylltu gyda Mrs E Alaw – alawe@hwbcymru.net

Wythnos arall wedi gwibio heibio a gobeithio eich bod wedi mwynhau’r penwythnos hir yn yr heulwen. Diolch i chi am eich holl waith wythnos ddiwethaf – roedd eich lluniau o gymeriadau stori Branwen yn arbennig!

Mi fyddwn yn parhau ar ein hantur ar y carped hud drwy hedfan draw i Ffrainc!

Gweithgareddau Ffrainc

Newyddion cyffrous – mae’n bosib lawrlwytho llyfrau Cam 1 Tric a Chlic am ddim o’r wefan drwy greu cyfrif. Rydym wedi ychwanegu dolen i wefan Tric a Chlic ar gyfrif j2e eich plentyn.

Rydym yn gobeithio ail ddechrau ar ein sesiynau rhannu newyddion wythnosol drwy gyfrwng fideo wythnos yma. Mi fyddwch yn derbyn diweddariad yn ystod yr wythnos.

Diolch am bopeth,

Staff Mabon, Olwen a Bedwyr

E-ddysgu – Iwerddon – 4/5/2020

Diolch blant am gwblhau llu o weithgareddau dros yr wythnos ddiwethaf. Cofiwch fod croeso i chi rannu lluniau neu glipiau fideo gydag eich athrawes drwy ddefnyddio’r botwm uwchlwytho ar j2e – rydym wrth ein bodd yn gweld beth rydych wedi bod yn wneud.

Ar ôl ymchwilio ein hardal leol wythnos diwethaf mae’r carped hud yn barod i hedfan! Yn gyntaf mi fyddwn yn hedfan dros y môr ond ni fyddwn yn gorfod teithio’n bell iawn cyn cyrraedd Iwerddon. Beth am ddefnyddio Google Earth i esgus hedfan draw i Iwerddon?

Mi fyddwn yn dysgu ffeithiau am Iwerddon ac yn gwrando ar chwedl Branwen. Cofiwch wrando’n astud ar yr enwau yn stori Branwen, efallai bydd ambell un yn gyfarwydd i chi! (enwau dosbarthiadau yn Ysgol Treganna). Mae’n bosib i chi wrando ar stori Branwen yn yr adran ‘ffeiliau wedi’u rhannu’ ar j2e.

Dyma eich gweithgareddau am yr wythnos.

Gweithgareddau Iwerddon

Cofiwch edrych ar eich cyfrif just2easy yn gyson yn enwedig yr adrannau j2stars, ffeiliau wedi’u rhannu a fy ffeiliau.

Unrhyw gwestiynau neu eisiau cymorth pellach cofiwch gysylltu gyda Mrs E Alaw – alawe@hwbcymru.net

Edrychwch ymlaen at weld eich gwaith ar j2e.

Holl staff Mabon, Olwen a Bedwyr

(Neges i blant dosbarth Mabon – mi fydd Mrs Alaw yn gweithio yn yr ysgol dydd Mawrth felly byddaf yn gadael sylwadau ar eich gwaith dydd Mercher )

E-ddysgu – Fy ardal leol 27/4/2020

Helo blant!

Croeso i wythnos newydd! Diolch i chi am eich holl waith dros yr wythnos ddiwethaf, rydym wrth ein bodd yn gweld lluniau o’ch gwaith ar Hwb. Diolch i chi am uwchlwytho lluniau i’ch cyfrif just2easy! Uchafbwynt yr wythnos i staff dosbarth Mabon a dosbarth Olwen oedd cael sgwrsio gyda chi ar fore dydd Gwener, hyfryd oedd gweld eich wynebau unwaith eto! Mae staff Bedwyr yn edrych ymlaen yn arw at sgwrsio gyda chi heddiw.

Yr wythnos hon, cyn hedfan o amgylch y byd, rydym ni am deithio o gwmpas ein hardal leol ar y Carped Hud.

Dyma eich gweithgareddau am yr wythnos.

Gweithgareddau Fy Ardal Leol

 

Dyma ambell adnodd ychwanegol i’ch helpu.

Tric a Chlic

Cyfri i 15

Cyfri hyd at 10

Chwarae i Ddysgu

Bydd athrawes ddosbarth eich plentyn yn ffilmio neges i’r plant pob bore Llun a bore Iau. Er mwyn gweld y neges ewch i Hwb – just2easy – ffeiliau wedi’u rhannu. Cofiwch edrych i weld os yw eich athrawes wedi adborth i’ch gwaith neu wedi eich gwobrwyo gan ddefnyddio j2stars!

Mae un sypreis ychwanegol i chi yn yr adran ‘Ffeiliau wedi’u rhannu’ yn eich cyfrif just2easy! Diolch enfawr i Rhian, mam Lewsyn o ddosbarth Bedwyr, am recordio ei hun yn darllen straeon Deian a Loli. Byddwn yn ychwanegu 1 stori newydd bob wythnos.

Edrychwn ymlaen yn arw at weld eich gwaith wythnos yma!

Holl staff y Derbyn

E-ddysgu Aeth Mam-gu i’r Farchnad – 20/4/2020

Helo blant!

Diolch o galon i chi am eich holl waith hyd yma a gobeithio eich bod wedi mwynhau gwyliau’r Pasg! Diolch i bawb wnaeth gwblhau’r dasg ar j2homework, roedd eich lluniau o wyau Pasg lliwgar yn arbennig! Cofiwch wasgu’r botwm ‘Complete task’ er mwyn sicrhau bod eich athrawes yn gwybod eich bod wedi gorffen y dasg.

Ein thema am y tymor nesaf fydd “Y Carped Hud” ac rydym yn edrych ymlaen yn arw i deithio o amgylch y byd ar ein carped hud! Sgwn i i ble yr awn?

Aeth Mam-gu i’r Farchnad

Y peth cyntaf hoffem i chi wneud yw gwrando ar y stori ‘Aeth Mam-gu i’r Farchnad’ – cliciwch ar glawr y llyfr i glywed y stori.

Aeth Mam-gu i’r Farchnad

Gofynnwn i chi barhau i annog eich plentyn i ddefnyddio j2e yn gyson er mwyn arbrofi gyda gwahanol raglenni, rydym wrth ein bodd yn gweld y lluniau amrywiol mae’r plant wedi creu gan ddefnyddio Jit5!

Er mwyn sicrhau bod cofnod o’r hyn mae eich plentyn wedi bod yn wneud wrth ddysgu adref hoffem i chi uwchlwytho unrhyw luniau/clipiau fideo i’w tudalen j2easy gan ddefnyddio’r adran ‘Uwchlwytho”. Trwy wneud hyn gall athrawes eich plentyn ymateb i’w gwaith yn unigol drwy recordio clip sain (cofiwch fod croeso i’ch plentyn ymateb i’r sylwad).

Os yw athrawes ddosbarth eich plentyn wedi gadael sylwad ar waith eich plentyn mi fydd swigen siarad yn ymddangos ar eu gwaith o fewn yr adran ‘Fy ffeiliau’. Cliciwch ar y swigen siarad i weld/clywed yr adborth.

Mi fyddwn yn defnyddio j2stars er mwyn gwobrwyo eich plentyn!

Cofiwch gysylltu gyda Mrs Alaw os oes angen unrhyw gymorth defnyddio Hwb arnoch. Mi fydd Mrs Alaw yn ceisio eich ateb cyn gynted â phosib yn ystod oriau gwaith (9yb – 4yp).

AlawE@hwbcymru.net

Dyma eich gweithgareddau am yr wythnos.

Iaith:

  • Prif dasg – tasg wedi ei gosod ar j2homework
  • Ymarfer ffurfio llythrennau gwyrdd Tric a Chlic yn gywir gan eu ffurfio ar y llinell. Cofiwch allwch ddefnyddio eich dwylo er mwyn adnabod y gwahaniaeth rhwng ‘b’ a ‘d’.
  • Sillafu enw rhif o un i bump (Her: un i ddeg)

un        dau        tri        pedwar        pump        chwech         saith         wyth          naw          deg

Tric a Chlic

Mathemateg:

  • Ffurfio rhifau o 1 i 10 yn gywir Defnyddiwch yr adnodd yma i’ch arwain os oes angen cymorth arnoch.
  • Creu llinell rif o’r stori ‘Aeth Mam-gu i’r farchnad’ gan dynnu lluniau o’r gwrthrychau.
  • Allwch chi greu gêm adio ar y carped hud gan ddefnyddio’r eitemau sydd ar garped hud Mam-gu. e.e 2 beth + 3 pheth = 5 peth

Corfforol:

  • Her rholio carped Mam-gu- pa mor gyflym allwch chi rolio/plygu carped Mam-gu? Defnyddiwch liain sydd gweinyddych yn y tŷ ac amserwch eich hun.
  • Creu cwrs rhwystrau taith y carped hud o amgylch eich tŷ/gardd.

Thema:

  • Prif dasg – tasg wedi ei gosod ar j2homework
  • Creu map o’r byd neu glôb gyda’r pwyslais ar y gwahaniaeth rhwng tir a môr

Diolch am eich holl gefnogaeth yn ystod amseroedd heriol yma, cofiwch os oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnoch rydym yma i roi help llaw.

Diolch,

Miss Thompson, Mrs Alaw a Miss Evans

 

 

Pasg – 6/4/2020

Diolch am eich ymdrechion i gwblhau’r gweithgareddau dysgu cartref. Rydym wrth ein bodd yn derbyn lluniau o’r plant yn cwblhau amrywiaeth o weithgareddau. Diolch am eich cefnogaeth barhaus yn ystod y cyfnod yma o ymgyfarwyddo gyda ffordd newydd o weithio.

Dros y pythefnos Pasg hoffem i’ch plentyn wneud dau beth.

  1. Dewis cymeriad j2stars ar Hwb – ffordd i’r athrawon roi pwyntiau i chi am eich gwaith adref (tebyg i Dojo)
  2. Cwblhau’r gweithgaredd ar j2homework

Dewis cymeriad j2stars  

  • Mewngofnodi i Hwb ar wefan www.hwb.gov
  • Dewis just2easy
  • Dewis j2stars
  • Clicio ar y pensil er mwyn ‘golygu’ eich cymeriad
  • Creu eich cymeriad j2stars
  • Clicio ‘Cadw’ er mwyn arbed eich cymeriad

 

Cwblhau’r gweithgaredd ar j2homework

  • Mewngofnodi i Hwb ar wefan www.hwb.gov    
  • Dewis just2easy
  • Dewis j2homework
  • Dewis y weithgaredd ‘Wy Pasg’
  • Gwrando ar eich athrawes yn esbonio’r dasg drwy wasgu’r botwm meicroffon
  • Cwblhau’r dasg
  • Clicio’r botwm ‘Mark complete’ ar j2homework ar ôl cwblhau’r dasg.

 

Cysylltwch gyda Mrs Alaw ar alawe@hwbcymru.net os oes angen cymorth 

Os hoffwch gwblhau heriau dyddiol rydym wedi creu ‘Calendr Her Pasg’ ar eich cyfer.

Calendr Her Pasg Cymraeg

Cofiwch geisio ymlacio dros y pythefnos nesaf ac edrychwch ar ôl eich hunain.

Diolch,

Mrs Alaw, Miss Evans a Miss Thompson

E-ddysgu Wythnos 2 – 30/3/2020

Helo blant!

Diolch o galon i chi am eich holl waith dros yr wythnos diwethaf. Rydym ni wedi bod wrth ein boddau yn gweld eich lluniau ar Trydar – yn enwedig yr holl enfysau lliwgar! Mae gweld eich wynebau hapus yn codi calon holl staff y dosbarthiadau Derbyn.

Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau’r holl weithgareddau ond dal yn cael digon o amser i ymlacio a chael hwyl yn yr haul!

Ein thema ni yr wythnos yw Trychfilod!

Image result for insects clipart

 

I ddechrau, gwrandewch ar stori ‘Y Lindysyn Llwglyd Iawn’ ar wefan yr ysgol.

Dyma eich gweithgareddau am yr wythnos:

Iaith:

  • Ymarfer ffurfio llythrennau glas Tric a Chlic yn gywir gan eu ffurfio ar y llinell – cofiwch fod rhaid ffurfio’r holl lythrennau glas mewn un symudiad – heblaw wrth gwrs am ein llythyren ddwbl y cam glas sef ‘th’. Cofiwch roi coes ‘g’ o dan y llinell.
  • Trafod gydag aelod arall o’ch teulu beth yw eich hoff drychfil! Cofiwch ddefnyddio’r frawddeg ‘Fy hoff drychfil yw…’ ac efallai gofyn i rywun eich ffilmio chi’n dweud y frawddeg hefyd.
  • Paru prif lythyren a llythyren fach rhai o lythrennau’r Wyddor – mae cardiau i’ch helpu chi yma neu gwnewch restr ar ddarn o bapur.

 

Mathemateg:

  • Cwblhau y patrwm ailadroddus ar y Lindysyn Llwglyd Iawn a chreu patrwm sy’n ailadrodd gan ddefnyddio dau liw i greu eich lindys eich hun.  *Her – beth am ddefnyddio 3 neu 4 lliw i wneud patrwm?!*
  • Dysgu dweud dyddiau’r wythnos fel sydd yn y stori gan ddefnyddio cân Cyw
  • Creu pili-pala sy’n gymesur gan ddefnyddio’r daflen hon neu wneud un eich hun gyda phaent!

Image result for Thumbprint Caterpillar

Corfforol:

  • Her paru sanau – sawl hosan fedrwch chi eu paru mewn munud?! Beth am gael cystadleuaeth gyda rhywun arall yn y tŷ?
  • Symud fel gwahanol drychfilod mewn sesiwn ioga trychfilod

 

Thema:

  • Mewngofnodi i wefan Hwb a thynnu llun o amrywiaeth o’ch hoff drychfil gan ddefnyddio rhaglen Jit5 – cofiwch arbed eich gwaith. Gweler canllawiau Hwb isod.
  • Darganfod ffeithiau am drychfilod – sawl coes, lle maent yn byw, sut maent yn symud a.y.y.b.

 

Defnyddio Hwb

  1. Mewngofnodi ar wefan hwb.gov.wales
  2. Teipio eich enw defnyddiwr – *******@hwbcymru.net
  3. Teipio eich cyfrinair – cofiwch fod rhaid defnyddio priflythyren ar ddechrau eich cyfrinair.
  4. Dewis “Just2easy” ar y ddewislen
  5. Dewis “Jit5”
  6. Dewis “paent” (tab glas yng nghornel uchaf dde’r dudalen)
  7. Dewis eich cefndir ac yna tynnu llun
  8. Teipio teitl i’ch gwaith uwchben eich llun
  9. Arbed eich gwaith drwy glicio ar y botwm arbed yng nghornel uchaf chwith y dudalen (cylch oren)

 

Gweithgaredd Arbennig!!

Ein thema nesaf ni fydd ‘Y Carped Hud’.

Image result for child on magic carpet

Rydym felly angen eich help chi i benderfynu beth fyddwn ni yn ei ddysgu yn ystod yr wythnosau nesaf! A wnewch chi roi unrhyw syniadau am y canlynol ar ein trydar ni sef @DerbynTreganna

Unrhyw wledydd/ardaloedd/lleoedd yr ydych chi eisiau dysgu amdanynt.
Unrhyw wybodaeth flaenorol am wlad/lle.
Unrhyw gwestiwn am le/gwlad yr ydych am wybod yr ateb iddo.
Does dim rhaid i’r carped fynd i le go iawn – gall y carped fynd i unrhyw le y dymunwch chi!

Rydym yn edrych ymlaen i glywed eich syniadau!!!

 

Canllawiau Trydar
Gofynnwn yn garedig i chi beidio cynnwys enw eich plentyn mewn neges os yw’r neges yn cynnwys llun o’ch plentyn. Defnyddiwch flaenlythrennau eich plentyn os gwelwch yn dda.
Cofiwch sicrhau fod unrhyw luniau yn addas i ni eu hail-drydar.

Diolch unwaith eto i holl rieni’r Dosbarthiadau Derbyn am eich holl gefnogaeth yn ystod yr cyfnod anodd yma. Cofiwch fod hyn yn newydd i ni gyd a chofiwch ofyn am gymorth os oes angen drwy e-bostio Mrs Alaw ar alawe@hwbcymru.net. Rydym wrth ein boddau yn gweld lluniau o’r plant yn cwblhau’r gweithgareddau ar ein tudalen trydar.

Diolch eto!
Miss Evans, Mrs Alaw a Miss Thompson

E-ddysgu Wythnos 1 – 23/3/2020

Helo blant, 

Hoffem ddechrau drwy ddweud DIOLCH! Diolch am fod yn blant hyfryd sydd wedi gwneud i ni wenu’n ddyddiol dros y misoedd diwethaf. Rydym wedi cael y pleser o fod yn rhan o’ch datblygiad dros y ddau dymor ac yn gobeithio yn arw y byddwn yn eich gweld yn fuan. 

Gobeithio eich bod wedi cael cyfle i ymlacio dros y penwythnos ac yn barod am eich wythnos gyntaf o ddysgu adref! Cofiwch ei bod hi’n bwysig i chi wrando ar eich rhieni a bod yn amyneddgar. 

Eich tasg gyntaf am yr wythnos yw creu enfys i’w arddangos yn ffenest flaen eich tŷ er mwyn codi calon pawb sy’n cerdded heibio drwy eu hatgoffa y daw enfys wedi’r storm.  

Image

 

Ein thema am yr wythnos yw Anifeiliaid y Fferm

Dyma eich gweithgareddau am yr wythnos 

Iaith 

  • Ymarfer ffurfio llythrennau melyn Tric a Chlic yn gywir gan eu ffurfio ar linell – cofiwch fod rhaid ffurfio’r holl lythrennau melyn (oni bai am ‘t’) mewn un symudiad gan ddechrau o’r top. Cofiwch roi coes ‘y’ o dan y llinell. 
  • Ysgrifennu rhestr siopa wrth chwarae rôl – dysgu sut i ysgrifennu rhestr yn gywir gan ysgrifennu un eitem o dan y llall ar bapur llinellog er mwyn atgyfnerthu ysgrifennu ar linell. 
  • Ymarfer ysgrifennu eich enw a chyfenw – bwlch bys rhwng y ddau enw a sicrhau bod priflythyren ar ddechrau’r ddau enw yn unig. 

Mathemateg 

  • Adnabod darnau arian 1c, 2c, 5c a 10c  
  • Deall sut i ddefnyddio darnau arian drwy chwarae rôl siop/caffi  
  • Dysgu bod 1c + 1c = 2c, 1c + 1c + 1c = 3c ayyb (her: dysgu bod 1c + 2c = 3c). Dyma gem ar wefan Topmarks.

Corfforol/ Sgiliau Modur 

  • Esgus symud fel gwahanol anifeiliaid y fferm – edrych ar glipiau fideo er mwyn darganfod sut mae’r anifeiliaid yn symud. 
  • Rhwygo papur er mwyn creu llun o gartref anifail sy’n byw ar fferm. 
  • Ymarfer creu amrywiaeth o linellau – syth, tonnog, crwm, igam ogam  

Thema 

  • Pa gynnyrch mae anifeiliaid y fferm yn rhoi i ni – ymchwilio i ddarganfod pa fwydydd sydd yn y tŷ a darganfod o le mae’r bwyd wedi dod, tynnu lluniau o’r anifeiliaid a’u cynnyrch, gwylio clipiau fideo ar youtube er mwyn gweld defaid yn cael eu cneifio neu wartheg yn cael eu godro! 
  • Dysgu cân anifeiliaid y fferm ar wefan Cyw 
  • Chwarae gemau Y Fferm ar Hwb 
  • Creu model/collage o anifail y fferm gan astudio llun o’r anifail. 

 

Dyma restr o aps defnyddiol i’w defnyddio 

  • Tric a Chlic 
  • Byd Cyw 
  • Llyfrau Bach Magi Ann 
  • Llyfrau Hwyl Magi Ann 
  • Bys a Bawd 
  • Betsan a Roco yn y Dref 
  • Dewin a Doti 
  • Alun yr Arth ar y fferm 
  • Cyw Tiwb 
  • Botio 
  • Cyfri gyda Cyw 
  • Cyw a’r Wyddor 
  • Amser stori Cyw 
  • Hoff Ganeuon Selog 
  • Ioga Selog 
  • Symud Selog 
  • Llyfrau Selog 
  • Llyfrau Cymraeg 
  • Ap geiriaduron 
  • Learn Cymraeg 
  • Say Something in Welsh 

Dyma restr o wefannau defnyddiol 

Rydym yn hynod o ffodus yn ystod y cyfnod hwn bod sawl person/cwmni yn cynnig sesiynau canu/ymarfer corff ar lein am ddim i’w defnyddio. Dyma restr o ambell un. 

  • Canu DoReMi  – sesiynau canu a straeon cyn gwely (Facebook: DoReMi Cardiff, Instagram: CanuDoReMi) 
  • Huw Aaron – gwersi arlunio cartŵns, creu comics, gemau ac animeiddio (Trydar: @huwaaron) 
  • The Body Coach – sesiwn ymarfer corff i blant bob bore (Youtube: The Body Coach) 

 

Cofiwch rannu unrhyw syniadau gweithgareddau gyda ni ar ein tudalen Trydar – y ffordd orau o wneud hyn yw rhannu syniadau gyda’n gilydd! Mi fyddwn wrth ein bodd yn gweld lluniau o’r plant yn cwblhau gwahanol weithgareddau. 

Ac yn olaf, diolch i holl rieni’r Dosbarthiadau Derbyn am eich holl gefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd yma. Cofiwch fod hyn yn newydd i bob un ohonom felly byddwch yn amyneddgar a chofiwch ofyn am gymorth os oes angen cymorth arnoch. 

Diolch am bopeth, 

Mrs Alaw, Miss Evans a Miss Thompson 

Deunyddiau Ailgylchu – 6/3/20

06/03/20

Yr wythnos hon rydym ni wedi bod yn edrych ar anifeiliaid y môr. Wythnos nesaf, mi fyddwn ni yn creu creadur y môr o jync felly dewch ac unrhyw focsys cardfwrdd, potiau iogwrt neu unrhywbeth fedrwch chi ei achub o’r bin ailgylchu i’r ysgol gyda chi (wedi eu glanhau wrth gwrs!).


Hefyd fe fyddwn ni yn mynd i weld sioe ‘Chwarae’ yn Chapter Dydd Mercher, Mawrth 11eg. Fe fydd Olwen a hanner dosbarth Mabon yn mynd rhwng 10yb a 12yp, ac fe fydd dosbarth Bedwyr a hanner arall Dosbarth Mabon yn mynd rhwng 1yp a 3yp. Os ydych chi fel rhieni ar gael i helpu, cysylltwch â’r athrawon dosbarth.


Diolch!
Miss Evans, Mrs Alaw a Miss Thompson.

Dydd Gwyl Dewi – 28/2/20

Croeso’n ôl,

Roeddem yn falch o glywed eich bod wedi mwynhau eich gwyliau hanner tymor! Da iawn o holl blant y Derbyn fu’n perfformio yn ein Heisteddfod Ysgol dydd Iau, rydych yn blant dewr a thalentog iawn!

Dros eich penwythnos eich sialens yw dathlu dydd Gŵyl Dewi gydag eich teulu ac eich ffrindiau. Dyma ychydig o syniadau:

 

Mi fydd Miss Celyn yn perfformio ei chân “Arianrhod” ar Cân i Gymru nos Sadwrn am 8 o’r gloch ar S4C. Cofiwch bleidleisio!

Mwynhewch y dathlu a chofiwch yrru lluniau draw at Twitter @DerbynTreganna

Staff y Dosbarthiadau Derbyn