Croeso’n ôl,
Roeddem yn falch o glywed eich bod wedi mwynhau eich gwyliau hanner tymor! Da iawn o holl blant y Derbyn fu’n perfformio yn ein Heisteddfod Ysgol dydd Iau, rydych yn blant dewr a thalentog iawn!
Dros eich penwythnos eich sialens yw dathlu dydd Gŵyl Dewi gydag eich teulu ac eich ffrindiau. Dyma ychydig o syniadau:
- Canu Dwi’n Gymro, dwi’n Gymraes ar Rimbojam
- Bwyta neu goginio Picau ar y Maen
- Mynd ar helfa Cennin Pedr yn y parc
- Dysgu geiriau Cymraeg i’ch teulu ac eich ffrindiau
- Dechrau sgwrs yn Gymraeg yn y siop/caffi
- Mynd i ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn yr Amgueddfa
- Mynd i wylio’r orymdaith Dydd Gŵyl Dewi yn y dref
Mi fydd Miss Celyn yn perfformio ei chân “Arianrhod” ar Cân i Gymru nos Sadwrn am 8 o’r gloch ar S4C. Cofiwch bleidleisio!
Mwynhewch y dathlu a chofiwch yrru lluniau draw at Twitter @DerbynTreganna
Staff y Dosbarthiadau Derbyn