E-ddysgu Wythnos 2 – 30/3/2020

Helo blant!

Diolch o galon i chi am eich holl waith dros yr wythnos diwethaf. Rydym ni wedi bod wrth ein boddau yn gweld eich lluniau ar Trydar – yn enwedig yr holl enfysau lliwgar! Mae gweld eich wynebau hapus yn codi calon holl staff y dosbarthiadau Derbyn.

Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau’r holl weithgareddau ond dal yn cael digon o amser i ymlacio a chael hwyl yn yr haul!

Ein thema ni yr wythnos yw Trychfilod!

Image result for insects clipart

 

I ddechrau, gwrandewch ar stori ‘Y Lindysyn Llwglyd Iawn’ ar wefan yr ysgol.

Dyma eich gweithgareddau am yr wythnos:

Iaith:

  • Ymarfer ffurfio llythrennau glas Tric a Chlic yn gywir gan eu ffurfio ar y llinell – cofiwch fod rhaid ffurfio’r holl lythrennau glas mewn un symudiad – heblaw wrth gwrs am ein llythyren ddwbl y cam glas sef ‘th’. Cofiwch roi coes ‘g’ o dan y llinell.
  • Trafod gydag aelod arall o’ch teulu beth yw eich hoff drychfil! Cofiwch ddefnyddio’r frawddeg ‘Fy hoff drychfil yw…’ ac efallai gofyn i rywun eich ffilmio chi’n dweud y frawddeg hefyd.
  • Paru prif lythyren a llythyren fach rhai o lythrennau’r Wyddor – mae cardiau i’ch helpu chi yma neu gwnewch restr ar ddarn o bapur.

 

Mathemateg:

  • Cwblhau y patrwm ailadroddus ar y Lindysyn Llwglyd Iawn a chreu patrwm sy’n ailadrodd gan ddefnyddio dau liw i greu eich lindys eich hun.  *Her – beth am ddefnyddio 3 neu 4 lliw i wneud patrwm?!*
  • Dysgu dweud dyddiau’r wythnos fel sydd yn y stori gan ddefnyddio cân Cyw
  • Creu pili-pala sy’n gymesur gan ddefnyddio’r daflen hon neu wneud un eich hun gyda phaent!

Image result for Thumbprint Caterpillar

Corfforol:

  • Her paru sanau – sawl hosan fedrwch chi eu paru mewn munud?! Beth am gael cystadleuaeth gyda rhywun arall yn y tŷ?
  • Symud fel gwahanol drychfilod mewn sesiwn ioga trychfilod

 

Thema:

  • Mewngofnodi i wefan Hwb a thynnu llun o amrywiaeth o’ch hoff drychfil gan ddefnyddio rhaglen Jit5 – cofiwch arbed eich gwaith. Gweler canllawiau Hwb isod.
  • Darganfod ffeithiau am drychfilod – sawl coes, lle maent yn byw, sut maent yn symud a.y.y.b.

 

Defnyddio Hwb

  1. Mewngofnodi ar wefan hwb.gov.wales
  2. Teipio eich enw defnyddiwr – *******@hwbcymru.net
  3. Teipio eich cyfrinair – cofiwch fod rhaid defnyddio priflythyren ar ddechrau eich cyfrinair.
  4. Dewis “Just2easy” ar y ddewislen
  5. Dewis “Jit5”
  6. Dewis “paent” (tab glas yng nghornel uchaf dde’r dudalen)
  7. Dewis eich cefndir ac yna tynnu llun
  8. Teipio teitl i’ch gwaith uwchben eich llun
  9. Arbed eich gwaith drwy glicio ar y botwm arbed yng nghornel uchaf chwith y dudalen (cylch oren)

 

Gweithgaredd Arbennig!!

Ein thema nesaf ni fydd ‘Y Carped Hud’.

Image result for child on magic carpet

Rydym felly angen eich help chi i benderfynu beth fyddwn ni yn ei ddysgu yn ystod yr wythnosau nesaf! A wnewch chi roi unrhyw syniadau am y canlynol ar ein trydar ni sef @DerbynTreganna

Unrhyw wledydd/ardaloedd/lleoedd yr ydych chi eisiau dysgu amdanynt.
Unrhyw wybodaeth flaenorol am wlad/lle.
Unrhyw gwestiwn am le/gwlad yr ydych am wybod yr ateb iddo.
Does dim rhaid i’r carped fynd i le go iawn – gall y carped fynd i unrhyw le y dymunwch chi!

Rydym yn edrych ymlaen i glywed eich syniadau!!!

 

Canllawiau Trydar
Gofynnwn yn garedig i chi beidio cynnwys enw eich plentyn mewn neges os yw’r neges yn cynnwys llun o’ch plentyn. Defnyddiwch flaenlythrennau eich plentyn os gwelwch yn dda.
Cofiwch sicrhau fod unrhyw luniau yn addas i ni eu hail-drydar.

Diolch unwaith eto i holl rieni’r Dosbarthiadau Derbyn am eich holl gefnogaeth yn ystod yr cyfnod anodd yma. Cofiwch fod hyn yn newydd i ni gyd a chofiwch ofyn am gymorth os oes angen drwy e-bostio Mrs Alaw ar alawe@hwbcymru.net. Rydym wrth ein boddau yn gweld lluniau o’r plant yn cwblhau’r gweithgareddau ar ein tudalen trydar.

Diolch eto!
Miss Evans, Mrs Alaw a Miss Thompson