E-ddysgu – Iwerddon – 4/5/2020

Diolch blant am gwblhau llu o weithgareddau dros yr wythnos ddiwethaf. Cofiwch fod croeso i chi rannu lluniau neu glipiau fideo gydag eich athrawes drwy ddefnyddio’r botwm uwchlwytho ar j2e – rydym wrth ein bodd yn gweld beth rydych wedi bod yn wneud.

Ar ôl ymchwilio ein hardal leol wythnos diwethaf mae’r carped hud yn barod i hedfan! Yn gyntaf mi fyddwn yn hedfan dros y môr ond ni fyddwn yn gorfod teithio’n bell iawn cyn cyrraedd Iwerddon. Beth am ddefnyddio Google Earth i esgus hedfan draw i Iwerddon?

Mi fyddwn yn dysgu ffeithiau am Iwerddon ac yn gwrando ar chwedl Branwen. Cofiwch wrando’n astud ar yr enwau yn stori Branwen, efallai bydd ambell un yn gyfarwydd i chi! (enwau dosbarthiadau yn Ysgol Treganna). Mae’n bosib i chi wrando ar stori Branwen yn yr adran ‘ffeiliau wedi’u rhannu’ ar j2e.

Dyma eich gweithgareddau am yr wythnos.

Gweithgareddau Iwerddon

Cofiwch edrych ar eich cyfrif just2easy yn gyson yn enwedig yr adrannau j2stars, ffeiliau wedi’u rhannu a fy ffeiliau.

Unrhyw gwestiynau neu eisiau cymorth pellach cofiwch gysylltu gyda Mrs E Alaw – alawe@hwbcymru.net

Edrychwch ymlaen at weld eich gwaith ar j2e.

Holl staff Mabon, Olwen a Bedwyr

(Neges i blant dosbarth Mabon – mi fydd Mrs Alaw yn gweithio yn yr ysgol dydd Mawrth felly byddaf yn gadael sylwadau ar eich gwaith dydd Mercher )