Helo blant,
Hoffem ddechrau drwy ddweud DIOLCH! Diolch am fod yn blant hyfryd sydd wedi gwneud i ni wenu’n ddyddiol dros y misoedd diwethaf. Rydym wedi cael y pleser o fod yn rhan o’ch datblygiad dros y ddau dymor ac yn gobeithio yn arw y byddwn yn eich gweld yn fuan.
Gobeithio eich bod wedi cael cyfle i ymlacio dros y penwythnos ac yn barod am eich wythnos gyntaf o ddysgu adref! Cofiwch ei bod hi’n bwysig i chi wrando ar eich rhieni a bod yn amyneddgar.
Eich tasg gyntaf am yr wythnos yw creu enfys i’w arddangos yn ffenest flaen eich tŷ er mwyn codi calon pawb sy’n cerdded heibio drwy eu hatgoffa y daw enfys wedi’r storm.
Ein thema am yr wythnos yw Anifeiliaid y Fferm
Dyma eich gweithgareddau am yr wythnos
Iaith
- Ymarfer ffurfio llythrennau melyn Tric a Chlic yn gywir gan eu ffurfio ar linell – cofiwch fod rhaid ffurfio’r holl lythrennau melyn (oni bai am ‘t’) mewn un symudiad gan ddechrau o’r top. Cofiwch roi coes ‘y’ o dan y llinell.
- Ysgrifennu rhestr siopa wrth chwarae rôl – dysgu sut i ysgrifennu rhestr yn gywir gan ysgrifennu un eitem o dan y llall ar bapur llinellog er mwyn atgyfnerthu ysgrifennu ar linell.
- Ymarfer ysgrifennu eich enw a chyfenw – bwlch bys rhwng y ddau enw a sicrhau bod priflythyren ar ddechrau’r ddau enw yn unig.
Mathemateg
- Adnabod darnau arian 1c, 2c, 5c a 10c
- Deall sut i ddefnyddio darnau arian drwy chwarae rôl siop/caffi
- Dysgu bod 1c + 1c = 2c, 1c + 1c + 1c = 3c ayyb (her: dysgu bod 1c + 2c = 3c). Dyma gem ar wefan Topmarks.
Corfforol/ Sgiliau Modur
- Esgus symud fel gwahanol anifeiliaid y fferm – edrych ar glipiau fideo er mwyn darganfod sut mae’r anifeiliaid yn symud.
- Rhwygo papur er mwyn creu llun o gartref anifail sy’n byw ar fferm.
- Ymarfer creu amrywiaeth o linellau – syth, tonnog, crwm, igam ogam
Thema
- Pa gynnyrch mae anifeiliaid y fferm yn rhoi i ni – ymchwilio i ddarganfod pa fwydydd sydd yn y tŷ a darganfod o le mae’r bwyd wedi dod, tynnu lluniau o’r anifeiliaid a’u cynnyrch, gwylio clipiau fideo ar youtube er mwyn gweld defaid yn cael eu cneifio neu wartheg yn cael eu godro!
- Dysgu cân anifeiliaid y fferm ar wefan Cyw
- Chwarae gemau Y Fferm ar Hwb
- Creu model/collage o anifail y fferm gan astudio llun o’r anifail.
Dyma restr o aps defnyddiol i’w defnyddio
- Tric a Chlic
- Byd Cyw
- Llyfrau Bach Magi Ann
- Llyfrau Hwyl Magi Ann
- Bys a Bawd
- Betsan a Roco yn y Dref
- Dewin a Doti
- Alun yr Arth ar y fferm
- Cyw Tiwb
- Botio
- Cyfri gyda Cyw
- Cyw a’r Wyddor
- Amser stori Cyw
- Hoff Ganeuon Selog
- Ioga Selog
- Symud Selog
- Llyfrau Selog
- Llyfrau Cymraeg
- Ap geiriaduron
- Learn Cymraeg
- Say Something in Welsh
Dyma restr o wefannau defnyddiol
- Hwb (mae’n bosib lawrlwytho Minecraft am ddim. Tutorial ar lein)
- Darllen ar wefan yr ysgol
- Twinkl (adnoddau am ddim i rieni ar hyn o bryd!)
Rydym yn hynod o ffodus yn ystod y cyfnod hwn bod sawl person/cwmni yn cynnig sesiynau canu/ymarfer corff ar lein am ddim i’w defnyddio. Dyma restr o ambell un.
- Canu DoReMi – sesiynau canu a straeon cyn gwely (Facebook: DoReMi Cardiff, Instagram: CanuDoReMi)
- Huw Aaron – gwersi arlunio cartŵns, creu comics, gemau ac animeiddio (Trydar: @huwaaron)
- The Body Coach – sesiwn ymarfer corff i blant bob bore (Youtube: The Body Coach)
Cofiwch rannu unrhyw syniadau gweithgareddau gyda ni ar ein tudalen Trydar – y ffordd orau o wneud hyn yw rhannu syniadau gyda’n gilydd! Mi fyddwn wrth ein bodd yn gweld lluniau o’r plant yn cwblhau gwahanol weithgareddau.
Ac yn olaf, diolch i holl rieni’r Dosbarthiadau Derbyn am eich holl gefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd yma. Cofiwch fod hyn yn newydd i bob un ohonom felly byddwch yn amyneddgar a chofiwch ofyn am gymorth os oes angen cymorth arnoch.
Diolch am bopeth,
Mrs Alaw, Miss Evans a Miss Thompson