E-ddysgu Aeth Mam-gu i’r Farchnad – 20/4/2020

Helo blant!

Diolch o galon i chi am eich holl waith hyd yma a gobeithio eich bod wedi mwynhau gwyliau’r Pasg! Diolch i bawb wnaeth gwblhau’r dasg ar j2homework, roedd eich lluniau o wyau Pasg lliwgar yn arbennig! Cofiwch wasgu’r botwm ‘Complete task’ er mwyn sicrhau bod eich athrawes yn gwybod eich bod wedi gorffen y dasg.

Ein thema am y tymor nesaf fydd “Y Carped Hud” ac rydym yn edrych ymlaen yn arw i deithio o amgylch y byd ar ein carped hud! Sgwn i i ble yr awn?

Aeth Mam-gu i’r Farchnad

Y peth cyntaf hoffem i chi wneud yw gwrando ar y stori ‘Aeth Mam-gu i’r Farchnad’ – cliciwch ar glawr y llyfr i glywed y stori.

Aeth Mam-gu i’r Farchnad

Gofynnwn i chi barhau i annog eich plentyn i ddefnyddio j2e yn gyson er mwyn arbrofi gyda gwahanol raglenni, rydym wrth ein bodd yn gweld y lluniau amrywiol mae’r plant wedi creu gan ddefnyddio Jit5!

Er mwyn sicrhau bod cofnod o’r hyn mae eich plentyn wedi bod yn wneud wrth ddysgu adref hoffem i chi uwchlwytho unrhyw luniau/clipiau fideo i’w tudalen j2easy gan ddefnyddio’r adran ‘Uwchlwytho”. Trwy wneud hyn gall athrawes eich plentyn ymateb i’w gwaith yn unigol drwy recordio clip sain (cofiwch fod croeso i’ch plentyn ymateb i’r sylwad).

Os yw athrawes ddosbarth eich plentyn wedi gadael sylwad ar waith eich plentyn mi fydd swigen siarad yn ymddangos ar eu gwaith o fewn yr adran ‘Fy ffeiliau’. Cliciwch ar y swigen siarad i weld/clywed yr adborth.

Mi fyddwn yn defnyddio j2stars er mwyn gwobrwyo eich plentyn!

Cofiwch gysylltu gyda Mrs Alaw os oes angen unrhyw gymorth defnyddio Hwb arnoch. Mi fydd Mrs Alaw yn ceisio eich ateb cyn gynted â phosib yn ystod oriau gwaith (9yb – 4yp).

AlawE@hwbcymru.net

Dyma eich gweithgareddau am yr wythnos.

Iaith:

  • Prif dasg – tasg wedi ei gosod ar j2homework
  • Ymarfer ffurfio llythrennau gwyrdd Tric a Chlic yn gywir gan eu ffurfio ar y llinell. Cofiwch allwch ddefnyddio eich dwylo er mwyn adnabod y gwahaniaeth rhwng ‘b’ a ‘d’.
  • Sillafu enw rhif o un i bump (Her: un i ddeg)

un        dau        tri        pedwar        pump        chwech         saith         wyth          naw          deg

Tric a Chlic

Mathemateg:

  • Ffurfio rhifau o 1 i 10 yn gywir Defnyddiwch yr adnodd yma i’ch arwain os oes angen cymorth arnoch.
  • Creu llinell rif o’r stori ‘Aeth Mam-gu i’r farchnad’ gan dynnu lluniau o’r gwrthrychau.
  • Allwch chi greu gêm adio ar y carped hud gan ddefnyddio’r eitemau sydd ar garped hud Mam-gu. e.e 2 beth + 3 pheth = 5 peth

Corfforol:

  • Her rholio carped Mam-gu- pa mor gyflym allwch chi rolio/plygu carped Mam-gu? Defnyddiwch liain sydd gweinyddych yn y tŷ ac amserwch eich hun.
  • Creu cwrs rhwystrau taith y carped hud o amgylch eich tŷ/gardd.

Thema:

  • Prif dasg – tasg wedi ei gosod ar j2homework
  • Creu map o’r byd neu glôb gyda’r pwyslais ar y gwahaniaeth rhwng tir a môr

Diolch am eich holl gefnogaeth yn ystod amseroedd heriol yma, cofiwch os oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnoch rydym yma i roi help llaw.

Diolch,

Miss Thompson, Mrs Alaw a Miss Evans