Blwyddyn 6 – Gwaith Cartref

Dysgu o adref – 11/05/2020

Helo blant!

Gobeithio eich bod chi wedi cael penwythnos hir hyfryd gyda’ch teuluoedd yn yr haul.

Wythnos arall o waith caled wedi pasio. Da iawn chi.  Diolch am eich cyfraniadau i’r cyfarfodydd fideo ac am gynhyrchu darnau o waith hyfryd ar egni adnewyddadwy a chynaliadwy.

Yr wythnos yma rydym ni’n troi i edrych ar ‘Hawliau’.

Dyma’r cardiau bingo/rhestr wirio ar gyfer yr wythnos:

Cymraeg rhestr wirio 11.5.20

Saesneg Checklist 11.05.2020

Iaith

Tasg Saesneg yr wythnos hon.

Yr wythnos hon, mi fyddwn ni’n ysgrifennu adroddiad papur newydd.

Mae’r dasg a phob cyfarwyddyd ar TEAMS o dan wythnos 6.

Mathemateg

Wythnos hon mi fyddwn yn canolbwyntio ar rifau negyddol. Bydd y fidios a’r adnoddau i gyd ar gael ar TEAMS i chi.

Ac yn olaf…

  

Bwrwch ati gyda’r profion Rhifau Rhagorol, TT rockstars a BUGS Online.

Cofiwch, unrhyw broblemau, gadewch i ni wybod!

Diolch a phob lwc,

Mrs Miles-Farrier, Mr Davies a Mr Lewis

Dysgu o adref – 4/5/20

Helo flwyddyn 6!

Gobeithio bod pawb wedi cael penwythnos ymlaciol.

Roedden ni athrawon mor blês gyda’r ffordd roedd pob un ohonoch chi wedi cyfrannu wythnos ddiwethaf. Hyfryd oedd gweld cymaint o waith lliwgar, diddorol a graenus.

Wythnos hon, rydym yn symud ymlaen i ddysgu am egni adnewyddadwy (renewable energy). Dyma’r cerdyn bingo:

Cymraeg 4.5.20
Saesneg 4.05.2020-2

Iaith

Tasg Cymraeg yr wythnos hon.

Yr wythnos hon, mi fyddwch chi yn edrych ar egni cynaliadwy/adnewyddadwy ac yn mynegi barn amdanynt.

*Mae’n bwysig eich bod chi yn edrych dros y pwerbwynt a’r fideo Loom mae Mrs Miles-Farrier wedi ei wneud er mwyn derbyn cyflwyniad i’r gwaith. Bydd hwn ar TEAMS i chi.*

Yn fras, bydd tair tasg dros yr wythnos:

1) Creu holiadur i aelodau eich teulu ynglŷn ag egni cynaliadwy/adnewyddadwy (manylion ar y fideo loom).

2) Ymchwilio i fanteision ac anfanteision gwahanol fathau o egnïon cynaliadwy/adnewyddadwy (manylion ar y fideo loom).

3) Erbyn diwedd yr wythnos – ysgrifennu darn mynegi barn am eich hoff system egni  i drio perswadio pobl mai’r system egni yma sydd orau i’r sefyllfa (gweler y fideo Loom).

Mathemateg

Ein nod Mathemateg yr wythnos hon yw i ddeall sut i gyfrifo cyfaint ciwb a chyfaint ciwboid. Gan ein bod ni eisioes wedi dysgu sut i gyfrifo arwynebedd a pherimedr, dyma yw’r cam nesaf.

Gallwch wrando ar recordiad Mr Lewis o’r pwerbwynt gan ddefnyddio’r dolenni cyswllt isod. Sori ei fod mewn 2 rhan ond nes i siarad gormod er mwyn ffitio’r cyfan mewn i un.

Rhan 1

https://drive.google.com/file/d/1jiSGtCgjvmqFeUWAMoRH1iLYeayn78Ut/view

Rhan 2

https://drive.google.com/file/d/1lXGkc30ANcQsVIpnN10okta_BS0zUITK/view

Unwaith i chi orffen gyda’r cyflwyniad a’r ymarfer sydd ynddo, dewisiwch os taw coch, oren, gwyrdd neu gwyrdd gwyrdd rydych am geisio ac ewch amdani.

Pob lwc ac os oes unrhyw broblemau neu chwestiynau, croeso i chi ofyn.

Ac yn olaf…

Bwrwch ati gyda’r profion Rhifau Rhagorol, TT rockstars a BUGS Online.

  

Cofiwch i gysylltu ar TEAMS yn syth os oes problem neu gwestiwn gennych.

Mi fyddwn ni hefyd yn diweddaru gwefannau y dosbarthiadau gyda’ch gwaith campus!

Diolch,

Mr Davies, Mr Lewis a Mrs Miles-Farrier.

27/4/20

Helo blant!

Gobeithio eich bod wedi mwynhau’r penwythnos heulog gyda’ch teuluoedd ac yn barod ar gyfer wythnos arall o weithgareddau ysgol. Diolch eto am eich cyfraniad at y cyfarfodydd fideo dydd Gwener ddiwethaf. Fel athrawon, roeddem wrth ein boddau yn eich gweld chi eto a chlywed sut mae pethau’n mynd gyda chi.

Yr un drefn unwaith eto bydd ar gyfer yr wythnos gyda 6 weithgaredd i’w cwblhau yn seiliedig ar ein thema newydd: Newid Byd. Bydd y rhain yn cynnwys tasgau Rhifedd a llythrennedd – gweler y cerdyn bingo isod ac ar TEAMS.

 

Cymraeg

Saesneg

Iaith

Wythnos hon, mi fydd yna amrywiaeth o dasgau iaith bach fydd yn arwain at ysgrifennu stori. Bydd y stori yn ymwneud â phorth (drws) i fyd gwahanol! Bydd gweithgaredd fach newydd pob dydd yn arwain at ysgrifennu’r stori ar ddydd Gwener.
Mae’r fidio cyntaf fan hyn: https://www.loom.com/share/be27e7e943ac4a6d879168fbc0bca766
Mathemateg a rhifedd

TROSI UNEDAU METRIG

Eich tasg yr wythnos hon yw i drosi/trawsnewid unedau mesur.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar y cyflwyniad (pwerbwynt) a gwylio’r fideos isod er mwyn cofio sut i drawsnewid mesuriadau. Yna, ewch ati gyda’r heriau sydd wedi eu gosod ar TEAMS.

Mae 4 lefel gwahaniaethol – coch, oren, gwyrdd a gwyrdd gwyrdd o dan TEAMS.

Os ydych chi’n dewis gwneud Gwyrdd Gwyrdd, hoffwn i chi wneud Gwyrdd yn gyntaf.

Mae hefyd tasg mesur ychwanegol i chi gael gwneud. Mae’n cynnwys mesur pethau o gwmpas y tŷ. Bydd angen tâp mesur arnoch chi!

Pob lwc!

Fideos a gwefannau i’ch helpu:

https://www.bbc.co.uk/bitesize/topics/zvgnrj6/articles/zv82f4j

https://www.youtube.com/watch?v=p3pKfbJLsto&list=PLHfv3dxQsYirRbpMM-uDYlXRIh52weO9n&index=147&t=0s

 

Bydd hefyd disgwyl eich bod chi’n ail-afael yn y profion Rhifau rhagorol unwaith yr wythnos hon, gwneud TT rockstars a darllen yn ddyddiol.

  

Mi fyddwn ni ar TEAMS drwy gydol yr wythnos i’ch helpu, i ateb unrhyw gwestiwn ac i roi unrhyw arweiniad pellach ar y gwaith. Mi fyddwn ni hefyd yn diweddaru gwefannau blwyddyn 6 gydag enghreifftiau o’ch gwaith graenus.

Diolch,

Mr Lewis, Mrs Miles-Farrier a Mr Davies

Smiling Face Emoji with Blushed Cheeks | Emoji pictures, Emoji ...

Dysgu o adref – Wythnos 20.04.20

Helo blant! 

Croeso nôl i’n hysgol o bell a chroeso i dymor yr Haf. Gobeithio eich bod chi wedi cael gwyliau Pasg hyfryd gyda’ch teuluoedd a’ch bod chi wedi cael cyfle i ymlacio. Diolch unwaith eto am eich holl waith caled dros yr wythnosau diwethaf. Mae wedi bod yn bleser gweld eich gwaith gwych.

Ein thema newydd: Newid Byd

Yr wythnos hon, fel rhan o’n thema newydd, mi fyddwn ni yn canolbwyntio ar ddyfeiswyr (inventors) a dyfeisiau (devices).

Yr un fydd y drefn yr wythnos hon – 6 gweithgaredd i chi gael dewis gan gynnwys tasg llythrennedd a rhifedd – gweler y cerdyn bingo at TEAMS.

Cymraeg 20.4.2020

Saesneg 20.04.2020

Eich tasg iaith yr wythnos hon yw ysgrifennu adroddiad ffeithiol am eich hoff ddyfais. Ceisiwch gynnwys gymaint o wybodaeth â phosib am y ddyfais yn eich adroddiad ac efallai hoffech drafod:
  • Beth oedd y byd fel cyn i’ch dyfais cael ei greu?
  • Pa effaith mae’r ddyfais yma wedi ei gael ar eich bywydau chi neu sut mae’r ddyfais wedi newid y byd?
  • Pwy oedd y dyfeisiwr a beth wnaeth ei ysbrydoli i geisio newid y byd?
Mae adnoddau i’ch helpu, gan gynnwys syniadau ar gyfer dyfeisiau gwahanol, ar gael ar TEAMS.
Hoffwn i chi ysgrifennu’r adroddiad yn Gymraeg yr wythnos hon.
Arwynebedd a pherimedr yw ein cyd-destun mathemateg ar gyfer yr wythnos hon. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwylio’r fideos isod er mwyn cofio beth yw’r rhain a sut i’w cyfrifo. Yna, ewch ati gyda’r heriau sydd wedi eu gosod ar TEAMS.

Fideos i helpu gyda Gwaith Coch/Oren/Gwyrdd

https://www.youtube.com/watch?v=EaXyssHUdgM – Arwynebedd Petryalau

https://www.youtube.com/watch?v=u_ANZUjCaUA – Perimedr Petryalau a siapau gyda llinellau syth

Fideo i helpu gyda Gwaith Gwyrdd gwyrdd

https://www.youtube.com/watch?v=uArtx_xA9Cs – Perimedr ac arwynebedd Gwyrdd Gwyrdd hyd at 3 munud 45 eiliad heblaw bo chi wir eisiau gwneud rhywbeth heriol iawn.

Bydd hefyd disgwyl eich bod chi’n ail-afael yn y profion Rhifau rhagorol unwaith yr wythnos hon, gwneud TT rockstars a darllen yn ddyddiol.

Mi fyddwn ni ar TEAMS drwy gydol yr wythnos i’ch helpu, i ateb unrhyw gwestiwn ac i roi unrhyw arweiniad pellach ar y gwaith. Mi fyddwn ni hefyd yn diweddaru gwefannau blwyddyn 6 gydag enghreifftiau o’ch gwaith graenus.

Diolch,

Mrs Miles-Farrier, Mr Davies & Mr Lewis     Smiling Face Emoji with Blushed Cheeks | Emoji pictures, Emoji ...

Gwyliau’r Pasg 3.4.20

Helo Flwyddyn 6!

Wel, mae wedi bod yn wych gweld cymaint o waith graenus a safonol eto wythnos hon. Rydym wir wedi mwynhau darllen eich barddoniaeth pwerus, ffeil ffeithiau am enwogion yr Ail Ryfel Byd a sawl cwis gwych am bob fath o wahanol bynciau!

Mae gwyliau’r Pasg o’n blaenau a chroesi bysedd fydd y tywydd braf yma yn parhau fel ein bod yn gallu mwynhau ychydig o awyr iach unwaith y dydd!

Dros y pythefnos nesaf, rydym yn gosod prosiect iechyd & llês i chi gwblhau. Hoffwn i chi greu cylched ymarfer corff eich hunain (tebyg i Joe Wicks). Cynlluniwch y gweithgareddau yn ofalus er mwyn ceisio gweithio rhannau gwahanol o’r corff a fel bod y sesiwn yn para tua hanner awr. Yna, beth am arwain y sesiwn i’ch teulu?

Working out with kids – 2 awesome strategies! | Homegrown Nutrition

Gallwch hefyd gwblhau profion Rhifau Rhagorol (Big Maths) a gyda BUGS online dros y pythefnos nesaf ac mae croeso i chi barhau gydag unrhyw o’r tasgau nag ydych wedi cwblhau eto o’r pythefnos ddiwethaf ond dydy hyn ddim yn orfodol.

Mi fyddwn ni fel athrawon yn cadw llygad ar TEAMS ein dosbarthiadau yn achlysurol dros wyliau’r Pasg.

Diolch am eich holl waith y tymor hwn. Mi rydych chi wedi dangos brwdfrydedd ac aeddfedrwydd wrth ddysgu am thema dwys a phwysig ac mi rydyn ni wir yn blês gyda phob un ohonoch.

Ymlaciwch a mwynhewch y gwyliau,

Mr Davies, Mrs Miles-Farrier & Mr Lewis

 

Gweithio o adre 30.3.20

Helo blant a chroeso i wythnos 2 o’ch profiad gweithio o adre. Sut maen mynd gyda chi hyd yn hyn? Gobeithio eich bod chi a’ch teulu yn iawn ac yn cadw’n brysur yn ystod y cyfnod yma.

Rydym wedi syfrdanu gyda’r gwaith rydych wedi bod yn rhannu gyda ni hyd yn hyn. Gwaith o safon uchel yn sicr! Gobeithio eich bod wedi cael cyfle i weld gwefannau newydd ‘Google Sites’ eich dosbarth chi lle byddwn yn rhannu’r gwaith rydym wedi derbyn er mwyn i chi gyd gael gweld.

Rydym wedi paratoi gweithgareddau newydd i chi gyflawni yr wythnos hon, yn ogystal a gwneud TT Rockstars, Bugs Online, darllen Cymraeg dyddiol a Rhifau Rhagorol. Os oes angen y lincs i’r rheini arnoch, mae nhw i’w darganfod isod o’n cofnod ni wythnos ddiwethaf.

Dyma’r gerdyn bingo newydd ar gyfer yr wythnos hon lle bydd 6 weithgaredd amrywiol i chi geisio cwblhau a’i rhannu gyda’ch athro dosbarth.

Cerdyn Bingo wythnos 2

Bingo Card Week 2

 

Gweithgaredd Llythrennedd

*Mi allwch chi ddewis pa Iaith i wneud y gwaith* 

 

Ysgrifennu cerdd am y Blits / Yr Ail Ryfel Byd / Anne Frank 

Dewisiwch eich hoff ffurf o gerdd – edrychwch ar y pwerbwynt.  

Mae adnoddau gwahanol i’ch helpu – triwch addasu’r cymorth i’ch pwnc chi. 

Coch: Taflen gynllunio coch. Cynnwys cyflythrennu, cymariaethau, personoli a onomatopoeia yn eich cerdd. Ansoddeiriau i’ch helpu.  

Oren: Taflen gynllunio oren. Cynnwys cyflythrennu, cymariaethau, personoli, onomatopoeia a throsiadau yn eich cerdd. Ansoddeiriau i’ch helpu. 

Gwyrdd: Taflen gynllunio gwyrdd. Cynnwys cyflythrennu, cymariaethau, personoli, onomatopoeia, trosiadau a delweddau yn eich cerdd.  

Gwefannau i helpu: 

https://www.bbc.co.uk/bitesize/topics/z4mmn39 

https://resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/welsh/cynghanedd/index.html 

https://resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/welsh/creu-cerddi/index-c.html 

Gweithgaredd Rhifedd

Mae yna waith mathemateg ar TEAMS hefyd er mwyn i chi adolygu ac ymarfer y 4 gweithred (adio, tynnu, lluosi, rhannu). Mae rhain yn cynnwys cwestiynau ymarfer lefel coch, oren, gwyrdd a gwyrdd gwyrdd i chi ddewis ohonynt, yn ogystal â rhai problemau geiriol i’w datrys ar y diwedd.

Ymarferion Mathemateg 30.3.20

 

Pob hwyl a chofiwch i ofyn os oes angen help.

Dymuniadau gorau,

Mr Lewis, Mr Davies a Mrs Miles-Farrier

Gweithio o adref 20.3.2020

Helo blant a chroeso i’ch ystafell ddosbarth newydd!

Pob wythnos, fe fyddwn ni yn cadarnhau’r gwaith ar gyfer yr wythnos fan hon. Fe fydd y gwaith yn cael eu gadarnhau erbyn 10.30yb pob bore Llun, yn llawn gweithgareddau, eglurhad o sut i fynd ati. Cofiwch, os dydych chi ddim yn siŵr sut i fynd ati, neu angen help, yna mae eich athrawon ar gael ar:

Teams: https://hwb.gov.wales/

23.3.2020

Yn cychwyn dydd Llun, 23ain o Fawrth, bydd 12 gweithgaredd amrywiol i chi ddewis o’u plith fan hyn ac ar TEAMS. Ceisiwch gyflawni tua 2/3 gweithgaredd yr wythnos.

Gweithgareddau bl 6 Saesneg

gweithgareddau bl 6 cymraeg

Sicrhewch eich bod chi’n gwneud y weithgaredd rhifedd yn gyntaf; creu amserlen dyddiol eich hun.

Dyma enghraifft:

Cofiwch, mae gweithgareddau dyddiol yn dod gyntaf pob tro:

1. TT Rockstars Dyddiol    https://ttrockstars.com/

2. BUGS Online Dyddiol     http://www.activelearnprimary.co.uk

3. Darllen: Os nad oes gennych chi lyfrau Cymraeg, beth am wrando ar stori fan hyn (Diolch enfawr i Mr Chapell ac Ysgol Pen-Y-Groes am y rhain).

https://www.ysgolpenygroes.cymru/dewch-i-ddarllen/

Yna, unwaith yr wythnos mae angen:

1. Ceisio’r 3 phrawf RHIFAU RHAGOROL; CLIC, SAFE ac Ewch Amdani

https://app.bigmaths.com/login

2. Geiriau Sillafu – Cymraeg am y bythefnos cyntaf (23.3.2020 – 03.4.2020)

Mae llwyth o syniadau am bethau eraill i lenwi’ch amser yn byw fan hyn!

http://www.ysgoltreganna.cymru/cy/gweithgareddau-ychwanegol/

Mwynhewch gyda’ch teuluoedd ac ymlaciwch. Ni’n edrych ymlaen i weld chi’n fuan.

Mrs Miles-Farrier, Mr Lewis & Mr Davies

Gwaith cartref 06.03.2020

Helo blant!

Am wythnos gyffrous tu hwnt! Buom ni mor ffodus i gwrdd â seren byd enwog ddydd Mawrth – Luke Evans! Am wledd o brynhawn. Da iawn chi am ofyn cwestiynau mor aeddfed. Yn ogystal, buom ni’n dathlu Diwrnod y Llyfr ddydd Iau a chael y cyfle i wrando ar bobl ysbrydoledig ac i addysgu’r Cyfnod Sylfaen am ein hoff lyfrau.

Plant dawnsio creadigol: Hoffwn i ddiolch am eich holl waith caled! Rydych chi wedi gweithio mor wych. Cofiwch i ddod a’ch gwisgoedd mewn dydd Llun i gael ymarfer gyda’r wisg ac i roi caniatâd ar ParentPay. Mi fydd y gystadleuaeth yn dechrau am 2 o’r gloch. Ni yw’r ail gystadleuaeth felly mi fyddwn ni wedi gorffen tua 3 o’r gloch ar yr hwyraf fyddwn i’n tybio. Gadewch i ni wybod os oes problem ynglŷn â chasglu o Neuadd Goffa’r Barri.

Eich gwaith cartref fydd i ddysgu’r geiriau sillafu Saesneg – bydd prawf yr wythnos nesaf.

Mwynhewch y penwythnos.

Athrawon blwyddyn 6

Wythnos 10

Essential

Advanced
g

mixed prefixes

giant

ginger

giraffe

general

genius

gentle

geometry

gym

damage

danger

angel

digest

emergency

energy

engineer

energy

engineer

imagine

intelligent

legend

magic

register

stranger

tragic

illegal

illegible

illiterate

illogical

irrational

irregular

irresistible

irresponsive

irreversible

antibiotic

antiseptic

anticlockwise

misadventure

miscalculate

misfortune

misinform

misinterpret

misjudge

mismanage

misunderstand

co-education

coincidence

co-operate

co-ordinator

co-starring

co-writer