Helo blant a chroeso i wythnos 2 o’ch profiad gweithio o adre. Sut maen mynd gyda chi hyd yn hyn? Gobeithio eich bod chi a’ch teulu yn iawn ac yn cadw’n brysur yn ystod y cyfnod yma.
Rydym wedi syfrdanu gyda’r gwaith rydych wedi bod yn rhannu gyda ni hyd yn hyn. Gwaith o safon uchel yn sicr! Gobeithio eich bod wedi cael cyfle i weld gwefannau newydd ‘Google Sites’ eich dosbarth chi lle byddwn yn rhannu’r gwaith rydym wedi derbyn er mwyn i chi gyd gael gweld.
Rydym wedi paratoi gweithgareddau newydd i chi gyflawni yr wythnos hon, yn ogystal a gwneud TT Rockstars, Bugs Online, darllen Cymraeg dyddiol a Rhifau Rhagorol. Os oes angen y lincs i’r rheini arnoch, mae nhw i’w darganfod isod o’n cofnod ni wythnos ddiwethaf.
Dyma’r gerdyn bingo newydd ar gyfer yr wythnos hon lle bydd 6 weithgaredd amrywiol i chi geisio cwblhau a’i rhannu gyda’ch athro dosbarth.
Gweithgaredd Llythrennedd
*Mi allwch chi ddewis pa Iaith i wneud y gwaith*
Ysgrifennu cerdd am y Blits / Yr Ail Ryfel Byd / Anne Frank
Dewisiwch eich hoff ffurf o gerdd – edrychwch ar y pwerbwynt.
Mae adnoddau gwahanol i’ch helpu – triwch addasu’r cymorth i’ch pwnc chi.
Coch: Taflen gynllunio coch. Cynnwys cyflythrennu, cymariaethau, personoli a onomatopoeia yn eich cerdd. Ansoddeiriau i’ch helpu.
Oren: Taflen gynllunio oren. Cynnwys cyflythrennu, cymariaethau, personoli, onomatopoeia a throsiadau yn eich cerdd. Ansoddeiriau i’ch helpu.
Gwyrdd: Taflen gynllunio gwyrdd. Cynnwys cyflythrennu, cymariaethau, personoli, onomatopoeia, trosiadau a delweddau yn eich cerdd.
Gwefannau i helpu:
https://www.bbc.co.uk/bitesize/topics/z4mmn39
https://resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/welsh/cynghanedd/index.html
https://resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/welsh/creu-cerddi/index-c.html
Gweithgaredd Rhifedd
Mae yna waith mathemateg ar TEAMS hefyd er mwyn i chi adolygu ac ymarfer y 4 gweithred (adio, tynnu, lluosi, rhannu). Mae rhain yn cynnwys cwestiynau ymarfer lefel coch, oren, gwyrdd a gwyrdd gwyrdd i chi ddewis ohonynt, yn ogystal â rhai problemau geiriol i’w datrys ar y diwedd.
Pob hwyl a chofiwch i ofyn os oes angen help.
Dymuniadau gorau,
Mr Lewis, Mr Davies a Mrs Miles-Farrier