Dysgu o adref – 4/5/20

Helo flwyddyn 6!

Gobeithio bod pawb wedi cael penwythnos ymlaciol.

Roedden ni athrawon mor blês gyda’r ffordd roedd pob un ohonoch chi wedi cyfrannu wythnos ddiwethaf. Hyfryd oedd gweld cymaint o waith lliwgar, diddorol a graenus.

Wythnos hon, rydym yn symud ymlaen i ddysgu am egni adnewyddadwy (renewable energy). Dyma’r cerdyn bingo:

Cymraeg 4.5.20
Saesneg 4.05.2020-2

Iaith

Tasg Cymraeg yr wythnos hon.

Yr wythnos hon, mi fyddwch chi yn edrych ar egni cynaliadwy/adnewyddadwy ac yn mynegi barn amdanynt.

*Mae’n bwysig eich bod chi yn edrych dros y pwerbwynt a’r fideo Loom mae Mrs Miles-Farrier wedi ei wneud er mwyn derbyn cyflwyniad i’r gwaith. Bydd hwn ar TEAMS i chi.*

Yn fras, bydd tair tasg dros yr wythnos:

1) Creu holiadur i aelodau eich teulu ynglŷn ag egni cynaliadwy/adnewyddadwy (manylion ar y fideo loom).

2) Ymchwilio i fanteision ac anfanteision gwahanol fathau o egnïon cynaliadwy/adnewyddadwy (manylion ar y fideo loom).

3) Erbyn diwedd yr wythnos – ysgrifennu darn mynegi barn am eich hoff system egni  i drio perswadio pobl mai’r system egni yma sydd orau i’r sefyllfa (gweler y fideo Loom).

Mathemateg

Ein nod Mathemateg yr wythnos hon yw i ddeall sut i gyfrifo cyfaint ciwb a chyfaint ciwboid. Gan ein bod ni eisioes wedi dysgu sut i gyfrifo arwynebedd a pherimedr, dyma yw’r cam nesaf.

Gallwch wrando ar recordiad Mr Lewis o’r pwerbwynt gan ddefnyddio’r dolenni cyswllt isod. Sori ei fod mewn 2 rhan ond nes i siarad gormod er mwyn ffitio’r cyfan mewn i un.

Rhan 1

https://drive.google.com/file/d/1jiSGtCgjvmqFeUWAMoRH1iLYeayn78Ut/view

Rhan 2

https://drive.google.com/file/d/1lXGkc30ANcQsVIpnN10okta_BS0zUITK/view

Unwaith i chi orffen gyda’r cyflwyniad a’r ymarfer sydd ynddo, dewisiwch os taw coch, oren, gwyrdd neu gwyrdd gwyrdd rydych am geisio ac ewch amdani.

Pob lwc ac os oes unrhyw broblemau neu chwestiynau, croeso i chi ofyn.

Ac yn olaf…

Bwrwch ati gyda’r profion Rhifau Rhagorol, TT rockstars a BUGS Online.

  

Cofiwch i gysylltu ar TEAMS yn syth os oes problem neu gwestiwn gennych.

Mi fyddwn ni hefyd yn diweddaru gwefannau y dosbarthiadau gyda’ch gwaith campus!

Diolch,

Mr Davies, Mr Lewis a Mrs Miles-Farrier.