Helo blant a chroeso i’ch ystafell ddosbarth newydd!
Pob wythnos, fe fyddwn ni yn cadarnhau’r gwaith ar gyfer yr wythnos fan hon. Fe fydd y gwaith yn cael eu gadarnhau erbyn 10.30yb pob bore Llun, yn llawn gweithgareddau, eglurhad o sut i fynd ati. Cofiwch, os dydych chi ddim yn siŵr sut i fynd ati, neu angen help, yna mae eich athrawon ar gael ar:
Teams: https://hwb.gov.wales/
23.3.2020
Yn cychwyn dydd Llun, 23ain o Fawrth, bydd 12 gweithgaredd amrywiol i chi ddewis o’u plith fan hyn ac ar TEAMS. Ceisiwch gyflawni tua 2/3 gweithgaredd yr wythnos.
Sicrhewch eich bod chi’n gwneud y weithgaredd rhifedd yn gyntaf; creu amserlen dyddiol eich hun.
Dyma enghraifft:
Cofiwch, mae gweithgareddau dyddiol yn dod gyntaf pob tro:
1. TT Rockstars Dyddiol https://ttrockstars.com/
2. BUGS Online Dyddiol http://www.activelearnprimary.co.uk
3. Darllen: Os nad oes gennych chi lyfrau Cymraeg, beth am wrando ar stori fan hyn (Diolch enfawr i Mr Chapell ac Ysgol Pen-Y-Groes am y rhain).
https://www.ysgolpenygroes.cymru/dewch-i-ddarllen/
Yna, unwaith yr wythnos mae angen:
1. Ceisio’r 3 phrawf RHIFAU RHAGOROL; CLIC, SAFE ac Ewch Amdani
https://app.bigmaths.com/login
2. Geiriau Sillafu – Cymraeg am y bythefnos cyntaf (23.3.2020 – 03.4.2020)
Mae llwyth o syniadau am bethau eraill i lenwi’ch amser yn byw fan hyn!
http://www.ysgoltreganna.cymru/cy/gweithgareddau-ychwanegol/
Mwynhewch gyda’ch teuluoedd ac ymlaciwch. Ni’n edrych ymlaen i weld chi’n fuan.
Mrs Miles-Farrier, Mr Lewis & Mr Davies