Blwyddyn 6 – Gwaith Cartref

Gwaith Cartref 18.9.20

Annwyl flwyddyn 6,

Rydym yn blês iawn gyda’ch ymdrech yr wythnos hon wrth i ni ddysgu mwy am ffoaduriaid ac hefyd yn ein gwersi mathemateg wrth i ni adolygu sgiliau adio a thynnu.

Ond roedd yr ymdrech ar gyfer y gwaith cartref penwythnos diwethaf yn ARBENNIG. Braf iawn oedd gweld gwaith safonol iawn fel hyn ar ddechrau’r flwyddyn! ?

Eich gwaith cartref, i’w gwblhau erbyn dydd Mercher nesaf, yw i ysgrifennu bywgraffiad byr am rywun sydd yn bwysig i chi yn eich teulu. Gallai hyn fod yn unrhyw un adref yn eich teulu agos neu rhywun fel mamgu / tadcu / ewythr / modrub.

Hoffwn i chi ysgrifennu’r bywgraffiad yn Saesneg.

Cofiwch y nodweddion bywgraffiad rydym wedi bod yn trafod:

  • Opening paragraph
  • -ed verbs (walked, talked, succeeded, moved)
  • Write in the 3rdperson (talk about he/ she/ they)
  • Key events / interesting facts
  • Time openers. (In 2004… During this time…. After that… Following this… Eventually…)

Mae cymorth fan hyn i chi hefyd: https://www.theschoolrun.com/interviewing-to-write-a-biography 

Hefyd, beth am dreulio ychydig o amser ar TT Rockstars a Bugs Online pan gewch chi gyfle?

Mwynhewch ac ymlaciwch!

Mr Davies, Mr Lewis a Mrs Miles-Farrier.

Gwaith cartref -11.09.2020

Annwyl flwyddyn 6!

Diolch i chi am wythnos wych ym mlwyddyn 6. Mi rydym ni wedi mwynhau’n arw dod i’ch nabod chi. Da iawn chi am ymgyfarwyddo gyda’r trefniadau newydd. Rydym ni wedi bod yn brysur yn darllen ein nofel dosbarth, ysgrifennu am ein harwyr a dysgu am ffoaduriaid.

Eich gwaith cartref yr wythnos hon fydd i ddysgu mwy am yr arwres arbennig – Malala Yousafzai. Pwy yw hi tybed? Casglwch gymaint o wybodaeth amdani hi ac sydd bosib.

Beth am i chi greu Flipgrid, pwerbwynt neu Adobe Spark i’w chyflwyno hi?

Cofiwch i sôn am:

Pwy yw Malala Yousafzai?

Pam mae hi’n arwres?

Ffeithiau diddorol?

Lluniau ohoni?

Sut mae hi wedi cyfrannu i’r gymdeithas?

Dyma erthygl i’ch helpu:

https://www.bbc.co.uk/newsround/46865195

Cyflwynwch y gwaith ar TEAMS os gwelwch yn dda erbyn dydd Mercher (16/09/2020).

Mwynhewch y penwythnos!

Mrs Miles-Farrier, Mr Davies a Mr Lewis

 

 

Dysgu o adref – 13/7/2020

Helo blwyddyn 6!

Wel, dyma ni wedi cyrraedd eich wythnos ola’ yma yn Nhreganna! Hoffwn i ddechrau drwy ddweud pa mor falch ohonoch chi ydyn ni! Chi wedi bod yn flwyddyn 6 arbennig ac wedi gweithio’n ddiwyd dros y cyfnod od ac annisgwyl yma.

Dyma eich gwaith yr wythnos hon:

Rhestr wirio Wythnos olaf Cymraeg

Rhestr Wirio Saesneg Wythnos olaf

Mae 6 gweithgaredd hwyl i chi wneud dros yr wythnos. Unrhyw gwestiynau, gofynnwch! Cofiwch hefyd i anfon eich fidios atgofion a’r fidios ar gyfer y sioe gadael aton ni cyn gynted ag sydd yn bosib os gwelwch yn dda.

 

Rydym ni’n edrych ymlaen yn arw at eich gweld chi ddydd Gwener ar gyfer yr orymdaith ffarwelio. Dewch erbyn 12yp. Bydd disgwyl i chi wisgo gwisg ysgol neu hwdi ysgol.

Mrs Miles-Farrier, Mr Davies a Mr Lewis Very Happy Emoji [Free Download IOS Emojis] | Emoji Island Glowing Star Emoji (U+1F31F)

Wythnos Ymweliadau

Bore da ddisgyblion hyfryd blwyddyn 6,

 

Rydym mor gyffrous i’ch croesawu i’r ysgol yr wythnos hon ac yn edrych ymlaen yn fawr at eich gweld. Yn ystod eich diwrnod yn yr ysgol, gallwch ddisgwyl llu o weithgareddau, ychydig o waith caled a chyfle i ddal fyny gyda newyddion eich ffrindiau o’r cyfnod yma. Ar ddiwrnodau’r wythnos lle na fyddwch yn dod i’r ysgol, rydym wedi paratoi wythnos mabolgampau, iechyd a lles ar eich cyfer gyda chystadleuaeth rhwng y cymunedau. Felly, Pwyll, Branwen a Manawydan, mae’n ddyletswydd arnoch i herio’ch gilydd a bod yn bencampwyr rhith fabolgampau blwyddyn 6. Byddwn hefyd yn dewis y bachgen a merch mwyaf amlwg o flwyddyn 6 sydd wedi cyfrannu a dangos ymdrech ym mhob dim a bydd gwobr ar gyfer y bobl yma. Felly, gwyliwch y fideo yma ac yna edrychwch o fewn TEAMS eich dosbarth ar gyfer y pwerbwynt a’r ddogfen PDF.

Fideo o enwogion y byd chwaraeon yn dymuno pob lwc i chi.

 

Pob lwc!

Mr Lewis, Mrs Miles-Farrier a Mr Davies.

 

Gweithio o adre 22/6/20

Bore da bawb,

 

Wythnos lwyddiannus iawn oedd hi o bontio gyda’r holl waith cafodd ei rhannu gyda Glantaf a Phlasmawr. Fel staff blwyddyn 6, rydym yn falch iawn o’r aeddfedrwydd y dangosoch yn ystod yr wythnos. Nol i’r arfer yr wythnos hon gyda gwaith iaith, mathemateg ac yna’r dewislen thema. Felly, bant a ni…

 

Iaith

Wythnos hon, mi fyddwch chi yn ysgrifennu (yn Saesneg) ymson rhywun sydd wedi mudo i gartref neu wlad newydd. Mae’r adnoddau i gyd ar TEAMS. Gwnewch yn siwr i wylio’r fidio gan Mr Davies yn gyntaf.

 

Mathemateg

Yr wythnos hon, mi fyddwch chi’n dadansoddi data o wahanol dablau a graffiau ac ateb amryw o gwestiynau.
Bydd 4 lefel gwahaniaethol – coch, oren, gwyrdd a gwyrdd gwyrdd. Dewiswch y lefel her orau i chi. Pob lwc.

Thema

Mewnfudo sy’n derbyn y sylw yr wythnos hon a sut mae pobl sy’n symud o le i le wedi newid dros amser. Edrychwch dros y rhestr wirio a gobeithio wnewch chi fwynhau gwneud ychydig o waith codio unwaith eto.

Rhestr wirio Cymraeg

Rhestr wirio Saesneg

 

Ac yn olaf…

  

Bwrwch ati gyda’r profion Rhifau Rhagorol, TT rockstars a BUGS Online.

Cofiwch, unrhyw broblemau, gadewch i ni wybod!

Diolch a phob lwc,

Mrs Miles-Farrier, Mr Davies a Mr Lewis

Gwaith yr wythnos – Wythnos Pontio

 

  • Gallwch wneud BUGS Online, TT Rockstars, Big Maths wythnos nesaf hefyd.
  • Bydd dim cyfarfodydd fidio wythnos nesaf i ni.
  • PWYSIG: Gweler y llythyr o Blasmawr am y defnydd o Twitter wrth uwchlwytho gwaith.Llythyr Twitter (1)

Dysgu o adref 8.6.2020

Helo blant!

Gobeithio eich bod chi wedi cael penwythnos hyfryd!

Diolch am eich cyfraniadau i’r cyfarfodydd fideo ac am gynhyrchu darnau o waith hyfryd ar anifeiliaid mewn peryg!

Yr wythnos yma rydym ni’n troi i edrych ar ‘Newidiadau dros amser yn eich ardal leol’.

Byddwn ni hefyd yn gwneud mwy o baratoadau ar gyfer ein sioe gadael.

Dyma’r rhest wirio:

Rhestr wirio Cymraeg 8.6.2020

Saesneg Checklist 8.6.2020

Iaith

Gweithgaredd CYMRAEG

Byddwn yn canolbwyntio ar waith llafar yr wythnos hon gan glymu eich sgiliau digidol hefyd. Hoffwn i chi fod yn dywysyr teithio (tour guides) gan ddangos sut mae’ch ardal leol chi wedi newid dros amser. Mae Mr Lewis wedi paratoi enghraifft ‘cheesy’ ar eich cyfer felly sicrhewch eich bod yn gwylio er mwyn deall y math o beth rydym yn disgwyl. Mae hwn ar TEAMS. Dylech ddefnyddio Adobe Spark, Flipgrid (ar gael trwy hwb) neu meddalwedd creu fideo o’ch dewis chi. Pob lwc!

Mathemateg

Wythnos hon mi fyddwn yn edrych ar wahanol weithgareddau yn ymwneud â siapiau! Mae’r adnoddau i gyd ar TEAMS ar eich cyfer. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwylio’r fidio mae Mr Davies wedi paratoi.

Ac yn olaf…

  

Bwrwch ati gyda’r profion Rhifau Rhagorol, TT rockstars a BUGS Online.

Cofiwch, unrhyw broblemau, gadewch i ni wybod!

Diolch a phob lwc,

Mrs Miles-Farrier, Mr Davies a Mr Lewis

 

Gweithio o adre 2.6.20

Helo flwyddyn 6!

Gobeithio eich bod wedi mwynhau haul hanner tymor! Dyma ni nôl am ein hanner tymor olaf yn Ysgol Treganna! Rydym yn edrych ymlaen i’ch gweld yn ein cyfarfodydd wythnos hon!

Diolch i bawb sydd yn barod wedi cwblhau’r holiadur a’i ddanfon nôl atom ac i’r rhai sydd yn barod wedi dechrau danfon lluniau o’r dosbarth derbyn (ac yn y blaen). Bydd hwn yn ein helpu i greu’r Fidio Gadael! Eleni, rydyn ni’n lwcus iawn oherwydd mae gŵr Mrs Powys yn garedig iawn wedi ysgrifennu geiriau arbennig i gân mae’n siwr bydd nifer ohonoch yn ei hadnabod, ac mae wedi recordio’r gân ar ein cyfer er mwyn ei ddefnyddio yn y Fidio Gadael! Bydd y Fidio Gadael yn atgof melys o’ch amser chi yma yn Ysgol Treganna. Rydym yn awyddus i gynnwys cymaint o blant â sydd gyda diddordeb i recordio’u hunain yn canu rhannu o’r gân er mwyn ei roi yn y fidio. Ewch ati wythnos hon i wrando arni a dysgu’r geiriau! Mae’r ffeil ar TEAMS.

Tasg llythrennedd

Tasg Saesneg yr wythnos hon. Byddwch chi’n ysgrifennu adroddiad ar Orangutans.

Bydd angen ymchwilio a chynllunio yn gyntaf a wedyn ysgrifennu’r adroddiad.

Dyma’r fideo Loom i esbonio:

https://www.loom.com/share/df7d4afc9a684086bf457674c24628f2

Mae cymorth ychwanegol ar TEAMS o dan ffeil yr wythnos hon.

Tasg rhifedd

Onglau sy’n derbyn ein sylw yr wythnos hon. Bydd angen i chi wylio’r fideos y mae Mr Lewis wedi creu a dysygu sut i ddosbarthu ac amcangyfrif onglau yn ogystal a darganfod onglau coll i’r plant sydd am anelu am yr her werdd. Cyn gwneud unrhywbeth, sicrhewch eich bod yn gwylio fideo bitesize yn gyntaf gan ei fod yn gyflwyniad wych i’r pwnc: https://www.bbc.co.uk/bitesize/topics/zbcf47h/articles/zd7prj6

Dyma’r gweithgareddau eraill am yr wythnos. Cofiwch i ofyn os nag ydych yn deall unrhywbeth ar ôl gwylio’r fidios.

Gweithgareddau 2.6.20-2

Saesneg Checklist 2.6.2020

Ac yn olaf…

  

Bwrwch ati gyda’r profion Rhifau Rhagorol, TT rockstars a BUGS Online!

Mr Davies, Mrs Miles-Farrier a Mr Lewis

 

Hanner Tymor!

Wel, am hanner tymor a hanner!!

Flwyddyn 6, dydyn ni fel athrawon methu stopio eich canmol am eich ymdrech ac aeddfedrwydd yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn. Rydyn ni mor blês gyda’r ffordd rydych yn gweithio o adref a chyfathrebu gyda ni yn ein cyfarfodydd. ⭐️

Wrth i ni agosau at eich hanner tymor olaf yn Nhreganna, rydyn ni’n teimlo eich bod chi gyd yn dangos eich bod yn barod ar gyfer ysgol uwchradd a cham nesaf y daith. Ond cyn hynny, un rhan bwysig o’r hanner tymor olaf fydd y Sioe Gadael!!

Fel arfer, wrth gwrs, mi fuaswn yn gwneud y sioe ar lwyfan yr ysgol ond mae’r cyfyngiadau presennol yn golygu yr rydym am wneud hyn yn wahanol eleni! Byddwn yn creu fidio Sioe Gadael ar y cyd fel blwyddyn gyfan. Rydyn ni, felly, yn gofyn i chi i’n helpu i greu’r sgript!  Hoffwn eich gwahodd i feddwl am unrhyw atgofion melys (hapus ?  doniol  ? llwyddiannus ?) yr rydych wedi eu creu yn ystod eich amser yn Ysgol Treganna. Os oes gennych syniadau yr hoffech rannu er mwyn i ni geisio eu cynnwys yn y sgript ar gyfer y sioe, ysgrifennwch ar y cwestiwn yn yr holiadur isod. Mae’r holiadur isod hefyd yn gofyn cwestiynau eraill i chi am eich amser ym mlwyddyn 6 ac eich dysgu. Mae’n bwysig eich bod yn llenwi’r holiadur dros hanner tymor gan fydd eich atebion yn ein helpu wrth i ni ysgrifennu eich adroddiad diwedd blwyddyn.

 Holiadur

Yn ogystal ag unrhyw syniadau sydd gennych am y sioe, gofynwch i’ch rhieni os oes gennych unrhyw luniau ? ohonoch yn y dosbarth derbyn / bl.1 / bl.2 neu luniau doniol ohonoch yn y blynyddoedd diwethaf a danfonwch rhai i’ch athro dosbarth er mwyn helpu creu’r fidio.

Yn olaf, bwrwch ati gyda TT Rockstars, Rhifau Rhagorol a BUGS Online, OND, bwysicaf oll, YMLACIWCH a MWYNHEWCH ychydig o saib!

Byddwn yn ail-ddechrau gyda’r dysgu ar-lein ar 2.6.20, sef y dydd Mawrth ar ôl hanner tymor.

Diolch,

Mr Davies, Mr Lewis a Mrs Miles-Farrier

 

 

 

 

Dysgu o adref 18/05/20

Helo blant!

Gobeithio eich bod chi wedi cael penwythnos hyfryd gyda’ch teuluoedd yn yr haul.

Wythnos arall o waith caled wedi pasio. Da iawn chi.  Diolch am eich cyfraniadau i’r cyfarfodydd fideo ac am gynhyrchu darnau o waith hyfryd ar hawliau.

Yr wythnos yma rydym ni’n troi i edrych ar ‘Datblygiad y cyfryngau dros amser’.

 

Iaith

Wythnos hon, mi fyddwch yn ysgrifennu sgript ar gyfer sianel newyddion sydd yn canolbwyntio ar newyddion hapus! Bydd adnoddau a fidio ar TEAMS i’ch helpu.

 

This week, you’ll be writing a script for a news channel that reports happy news! There will be resources and a video on TEAMS to help.

 

Mathemateg

Yr wythnos hon, byddwn ni’n edrych ar gymarebau a chyfrannedd (ratio and proportion).

Bydd pedwar lefel gwahaniaethol yr wythnos hon – coch, oren, gwyrdd, gwyrdd gwyrdd.

Mae popeth o dan files eich dosbarth yn TEAMS.

Dyma’r fideo Loom i’ch helpu:

https://www.loom.com/share/c82ac373de184da29b8957a9649a65e6

 

Ac yn olaf…

Bwrwch ati gyda’r profion Rhifau Rhagorol, TT rockstars a BUGS Online.

Cofiwch, unrhyw broblemau, gadewch i ni wybod!

Diolch a phob lwc,

Mr Lewis, Mrs Miles-Farrier a Mr Davies