Helo blant!
Gobeithio eich bod chi wedi cael penwythnos hir hyfryd gyda’ch teuluoedd yn yr haul.
Wythnos arall o waith caled wedi pasio. Da iawn chi. Diolch am eich cyfraniadau i’r cyfarfodydd fideo ac am gynhyrchu darnau o waith hyfryd ar egni adnewyddadwy a chynaliadwy.
Yr wythnos yma rydym ni’n troi i edrych ar ‘Hawliau’.
Dyma’r cardiau bingo/rhestr wirio ar gyfer yr wythnos:
Iaith
Tasg Saesneg yr wythnos hon.
Yr wythnos hon, mi fyddwn ni’n ysgrifennu adroddiad papur newydd.
Mae’r dasg a phob cyfarwyddyd ar TEAMS o dan wythnos 6.
Mathemateg
Wythnos hon mi fyddwn yn canolbwyntio ar rifau negyddol. Bydd y fidios a’r adnoddau i gyd ar gael ar TEAMS i chi.
Ac yn olaf…
Bwrwch ati gyda’r profion Rhifau Rhagorol, TT rockstars a BUGS Online.
Cofiwch, unrhyw broblemau, gadewch i ni wybod!
Diolch a phob lwc,
Mrs Miles-Farrier, Mr Davies a Mr Lewis