Wythnos Iechyd, Ffitrwydd a Lles y Cyfnod Sylfaen

Un o’n uchafbwyntiau yn ystod tymor yr haf yw ein diwrnod mabolgampau! Yn anffodus, nid yw’n bosib i ni gynnal y diwrnod eleni ond rydym am gynnal wythnos Iechyd, Ffitrwydd a Lles er mwyn dathlu pwysigrwydd edrych ar ôl ein corff ac ein meddwl.

Mae 20 her i chi geisio cwblhau yn ystod yr wythnos ac mi fydd ambell un ychwanegol yn cael ei rannu gyda chi drwy dudalen Teams eich dosbarth (Blwyddyn 2) neu yn eich Ffeiliau wedi’u rhannu (Blwyddyn 1 a Derbyn). Efallai bydd ambell wyneb cyfarwydd yn eich cyfarch neu yn gosod her arbennig y dydd!

Gweithgareddau Iechyd, Ffitrwydd a Lles

Cofiwch yrru lluniau neu glipiau fideo ohonoch yn cwblhau’r heriau i’ch athrawes ddosbarth drwy Teams neu J2e. Byddwn yn paratoi fideo i ddathlu gweithgareddau’r wythnos a rhannu eich doniau.

Gallwch gwblhau’r heriau yn erbyn aelodau eich teulu neu yn erbyn ffrind (drwy ddilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol) yn y parc.

Sgwn i os bydd eich athrawes yn llwyddo i gwblhau rhai o’r heriau?

Pob lwc,

Staff y Cyfnod Sylfaen

o.n Mi fydd ffrydio byw yn parhau wythnos yma.