Clybiau
Fe fydd clybiau yn cychwyn 13/01/2020. Rhaid bwcio llefydd ar lein.
Mae nifer fawr o weithgareddau allgyrsiol ar gael i ddisgyblion yr Ysgol. Dyma’r arlwy ar gyfer y tymor yma :
Chwaraeon
Am dymor gyffrous o ran chwaraeon! Llongyfarchiadau i dîm pêl-droed y bechgyn am ennill rownd terfynol Chwaraeon Caerdydd. Llongyfarchiadau i dîm pêl-droed y merched am eu perfformiad anhygoel yn rownd derfynol Chwaraeon Caerdydd! Braf hefyd oedd gweld y criw rygbi yn chwarae yn nhwrnamaint yr Urdd ar ddydd Llun.
Cofiwch ddilyn ni ar @chwaraeonTreg er mwyn derbyn mwy o wybodaeth am y criw talentog uchod.
Yn ogystal a’r clybiau, mae nifer o weithgareddau ychwanegol yn digwydd ar safle’r Ysgol yn ystod yr wythnos:
Clwb Brecwast 8:10 – 8:40 Llun – Gwener
Cymer Ofal – Clwb gofal Plant 3:30 – 6pm Llun-Gwener
Dance Fit – Nos Wener
Clwb Drama PQA – Dydd Sadwrn
Clwb Gwyliau Menter – Llun-Gwener yn ystod gwyliau’r Ysgol.