Annwyl blant,
Diolch i chi am weithio’n galed trwy’r wythnos. Rydyn ni wedi gwneud llawer iawn, sef efelychu celf Rhiannon Roberts, dysgu am gwmpawd ac onglau a chreu pamffled diddorol am Gaerdydd. Mae eich gwybodaeth am ein dinas yn anhygoel!
Dyma’r gwaith cartref wythnos hon:
Hoffwn ni i chi greu darlun gan ddefnyddio gymaint o onglau lem, sgwâr ac aflem sy’n bosib.
Mae angen sicrhau eich bod chi’n dangos y gwahanol onglau yn y llun felly byddwch yn greadigol!
(Grwp Mathemateg Mrs Davage a Mr Evans:
fe fyddwch yn deall hwn yn well ar ol ein gwers dydd Llun, felly gallwch drio bryd hynny.)
Dyma esiampl i chi:
Geiriau sillafu wythnos Step Star
Essential | Advanced |
catchmatch
itch witch snatch hatch patch pitch fetch
|
watchingitching
stopwatch hatchet dispatch wristwatch catcher scratching stretched fetched
|
Mwynhewch eich penwythnos!
Miss Lewis, Miss Williams, Mr Evans a Mrs Davage.