Anghenion Dysgu Ychwanegol

Cyflwyniad

Mae gan ddisgyblion wahanol gryfderau a galluoedd, anghenion penodol a meysydd i’w datblygu. Mae rhai disgyblion yn dangos gallu academaidd yn gynnar ac mae angen eu hannog a’u herio’n briodol. Mae angen mwy o amser neu gymorth ar eraill i ddatblygu eu sgiliau darllen, sillafu neu fathemateg neu eu hiechyd a’u lles emosiynol.

Mae pob rhan o fywyd yr ysgol yn gynhwysol ac mae’r addysgu wedi’i deilwra tuag at ddysgu unigol gan ddarparu her a chefnogaeth; annog pawb i gyrraedd eu potensial llawn. Rhoddir ystyriaeth i anghenion unigol trwy wahaniaethu’n briodol y cwricwlwm yn yr ystafell ddosbarth a lle bo hynny’n briodol, mewn sefyllfa unigolyn neu grŵp bach. Mae staff yn darparu ethos cadarnhaol i alluogi’r plant i weithio tuag at ddatblygu ‘sgiliau bywyd’ a meithrin dyheadau dysgu gydol oes i bawb trwy ystod o weithgareddau sy’n hwyl ac yn bleserus.