Y Llywodraethwyr


Corff Llywodraethu Ysgol Treganna

Mae’r Corff Llywodraethu yn gyfrifol am sicrhau bod yr Ysgol yn cael ei rhedeg yn effeithiol. Rhaid i Dreganna weithredu o fewn y fframwaith a osodir gan ddeddfwriaeth a bod polisïau’r Awdurdod Lleol (ALl) a Llywodraeth Cymru (LlC) yn cael eu dilyn.

Y Pennaeth a’r Uwch Dîm Rheoli sydd yn gyfrifol am redeg yr Ysgol o ddydd i ddydd tra bod y Corff Llywodraethu yn cyflawni rôl strategol.

Mae’r Pennaeth, a’r Uwch Dîm Rheoli yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Corff Llywodraethol er mwyn sicrhau bod disgyblion yr Ysgol yn derbyn yr addysg gorau.

Mae’r Corff Llywodraethu yn cwrdd unwaith neu dwywaith y tymor. Mae gan y Corff Llywodraethu nifer o bwyllgorau sy’n gyfrifol am wahanol agweddau o waith yr Ysgol.

Mae’r ddogfen hon yn gosod allan Prif Gyfrifoldebau’r Corff Llywodraethu.

Cofnodion cyfarfodydd y Corff Llywodraethu – Heb fod ar gael eto

Cysylltu â’r Llywodraethwyr

Os ydych am gysylltu gyda Chadeirydd y Corff Llywodraethu neu lywodraethwr unigol gallwch e-bostio swyddfa’r ysgol, neu’r Clerc i’r Llywodraethwyr

Gweler yma canllawiau Llywodraeth Cymru ar gynnal cyfarfodydd o’r Corff Llywodraethu gyda rhieni.

Ceir manylion pellach ar Gyrff Llywodraethu Ysgolion ar wefan Llywodraethwyr Cymru.

Yn ôl i’r brig

 


TRI PHRIF RÔL Y CORFF LLYWODRAETHU

i) RÔL STRATEGOL

Mae Canllaw i’r Gyfraith ar gyfer Llywodraethwyr Ysgol a’r rheoliadau yn disgrifio’n eglur beth yw rolau a chyfrifoldebau cyrff llywodraethu a phenaethiaid. Mae cyrff llywodraethu’n cyflawni rôl strategol ac ni ddylai amharu ar rediad yr ysgol o ddydd i ddydd – cyfrifoldeb y pennaeth yw hynny. Mae llywodraethwyr yn cyflawni eu rôl strategol trwy benderfynu beth maen nhw eisiau i’r ysgol ei gyflawni a thrwy ddarparu fframwaith strategol i gyrraedd yno. Mae hyn yn golygu:

  1. gosod nod ac amcanion ar gyfer yr ysgol;
  2. cytuno ar bolisïau, targedau a blaenoriaethau ar gyfer cyflawni’r amcanion hyn;
  3. monitro a gwerthuso i weld bod (i) a (ii) yn cael eu cyflawni.

Dylai llywodraethwyr gymryd cyngor bob amser ynglŷn â hyn gan y pennaeth cyn gwneud penderfyniadau

ii) Y FFRIND BEIRNIADOL

(Efallai bod ‘ffrind sy’n holi cwestiynau’ yn fwy addas!)

Dyma ble mae angen i lywodraethwyr gynnig cefnogaeth a chyngor cadarnhaol i’r pennaeth, gwrando ar syniadau ayb. Mae hefyd angen holi’r cwestiynau heriol hynny, i geisio gwybodaeth ac eglurhad, i wella cynigion a gwneud y penderfyniad gorau i bawb.

iii) Y RÔL ATEBOL

Er mai’r pennaeth a staff yr ysgol sy’n atebol i’r corff llywodraethu am berfformiad yr ysgol, rhaid i’r corff llywodraethu fod yn barod i egluro ei benderfyniadau a gweithredoedd i unrhyw un sydd â diddordeb dilys. Gall hyn gynnwys staff, rhieni, disgyblion, y gymuned leol, yr ALl a Llywodraeth Cymru.

Cyfrifoldebau Craidd y Corff Llywodraethu

  • Hyrwyddo safonau uchel o gyflawniad addysgol ac ymddygiad
  • Gosod targedau ar gyfer cyflawniadau disgyblion
  • Sicrhau bod gan bob dysgwr fynediad at gwricwlwm eang a chytbwys
  • Penderfynu ar nodau, polisïau a blaenoriaethau’r ysgol
  • Penderfynu ar gyllideb yr ysgol a’i monitro
  • Staffio – e.e. penodi staff, rheolaeth perfformiad
  • Rhoi gwybodaeth i rieni am yr ysgol
  • Cynhyrchu cynllun gweithredu a monitro cynnydd yn dilyn arolwg gan Estyn
  • Lles a diogelwch y dysgwyr

Sut y mae Llywodraethwr yn cyflawni ei ddyletswyddau?

Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • Mynychu cyfarfodydd, pwyllgorau ac efallai cymryd rhan mewn gweithgorau bychain o dro i dro
  • Ymweld â’r ysgol
  • Bod yn gysylltiedig gyda maes o waith yr ysgol
  • Cymryd rhan ym mhenderfyniadau’r corff llywodraethu
  • Gweithio o fewn cod ymddygiad cytûn e.e. cyfeirio at Egwyddorion Ymddygiad i Lywodraethwyr Ysgolion (gweler Atodiad A)
  • Cadw cyfrinachedd pan fydd angen
  • Derbyn hyfforddiant a datblygiad
  • Bod yn ymwybodol o’r mentrau a’r datblygiadau diweddaraf mewn addysg

Yn ôl i’r brig


Pwyllgorau’r Corff Llywodraethu

Mae’r pwylvlgorau isod yn cwrdd unwaith y tymor:

  • Pwyllgor Cwricwlwm
  • Pwyllgor Cyllid
  • Pwyllgor Personél a Rheoli Perfformiad
  • Pwyllgor Safle, Iechyd a Diogwelwch

Mae’r pwyllgorau isod yn cwrdd pan fo angen:

  • Pwyllgor Cwynion
  • Pwyllgor Cwynion Staff ac Apeliadau Cwynion Staff
  • Pwyllgor Disgyblu a Gwahardd Disgyblion
  • Pwyllgor Disgyblu/Diswyddo Staff ac Apeliadau Disgyblu/Diswyddo Staff

Gwagleoedd i Lywodraethwr yn Nhreganna

Rol Rhiant Lywodraethwr yn Nhreganna

Pwy all wasanaethu fel Llywodraethwr 

Ffurflen Enwebu

Yn ôl i’r brig