Pwysau Gwaith ar Ddisgyblion

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf fe fu pwysau cynyddol ar ddisgyblion i gyrraedd safonau academaidd uchel yn ystod eu hamser yn yr Ysgol Gynradd. Mae profi cynnydd yn rhan annatod o addysg ond mae gôr bwyslais ar gyrhaeddiad yn gallu arwain at gystadleuaeth negyddol a phwysau annheg a dibwrpas ar ein disgyblion.

Tra’n bod ni, wrth gwrs, yn awyddus i ddisgyblion ddyfalbarhau a gwneud eu gorau ymhob dim, mae’n allweddol bwysig ein bod yn cadw persbectif cytbwys ac adeiladol rhwng ein gwaith academaidd a’r holl ddoniau a rhinweddau disglair sy’n rhan o gyfansoddiad pob unigolyn gwych.

 

Dyma lythyr at ein disgyblion

 

Annwyl Blant,

Gwyddom pa mor galed yr ydych yn gweithio, ond mae rhywbeth pwysig iawn y mae’n rhaid i chi ei wybod:

Does yr un prawf yn bodoli sy’n gallu asesu’r holl bethau sy’n gwneud pob un ohonoch chi’n arbennig ac unigryw. Nid yw’r bobl sy’n creu profion ac yn rhoi sgôr neu lefel yn adnabod yr un ohonoch chi yn y ffordd yr ydym ni (ac yn sicr nid yn y ffordd y mae eich teuluoedd yn ei wneud.)

Dydyn nhw ddim yn gwybod eich bod chi’n siarad dwy iaith nac eich bod chi’n hoffi canu neu dynnu lluniau. Dydyn nhw ddim wedi gweld eich talent naturiol wrth ddawnsio neu chwarae offerynnau cerdd. Wyddon nhw ddim y gall eich ffrindiau ddibynnu arnoch ; bod eich chwerthin yn gallu adlewyrchu’n llachar y diwrnod tywyllaf, eich bod chi’n gallu tywallt haf cyfan o frwdfrydedd mewn i un prynhawn neu eich bod y gwrido pan fyddwch chi’n teimlo’n swil. Dydyn nhw ddim yn gwybod eich bod chi’n wych am chwaraeon, yn frwdfrydig ymhob dim neu weithiau’n helpu eich brawd neu chwaer fach ar ôl ysgol. Dydyn nhw ddim yn gwybod eich bod chi’n garedig, yn feddylgar, ac y byddwch chi’n ceisio eich gorau glas ymhob dim, bob dydd.

Mae sgôr neu lefelau yn gallu adrodd ar rywbeth, ond dim popeth o bell ffordd. Mae nifer o lwybrau yn arwain i gopa’r mynydd ac mae miloedd ar filoedd o fynyddoedd i chi ddewis yn y byd . Peidiwch ag anghofio fod pob un ohonoch yn anhygoel ac yn unigryw a does dim mesur na phrawf na chystadleuaeth yn y byd yn gallu mesur eich holl rinweddau.

Yn ddiffuant,

 

Rhys Harries