Llythrennedd a Sillafu

Goresgyn anawsterau llythrennedd yn y dosbarth

Sillafu

Cysill Ar-lein :: Gwirydd Sillafu a Gramadeg Cymraeg

RHAI LLYFRAU DEFNYDDIOL:

Bright Ideas: Spelling (Scolastic)
M. L. Peters – Spelling: Cauthgt or Taught – a New Look (Routledge 1985)
C. Cripps – Catchwords (Harcourt Brace Javanovich)
Mike Torbe – Teaching Spelling (Ward Lock 1977)
Richard Gentry – Spel is a Four Letter Word (Scholastic 1987)
Michael Graves – A Word is a Word … or is it? (Scholastic 1985)


Rhai strategaethau i ddatblygu’r cof

Defnyddio’r synhwyrau:

Golwg –           SACAWAC – Study and Cover and Write and Check

Clyw –             gemau fel “Chinese Whispers” i ddatblygu’r sgil o wrando

Teimladau –   olrhain siâp gair hefo’r bys yn yr awyr/mewn tywod, ymarfer llawysgrifen glwm gyda phatrwm  sillafu arbennig

Bydd hyn yn ymarfer llif y gair ac yn serio’r patrwm yn y cof.

Mnemonics: unrhyw ddywediad neu stori sy’n helpu’r cof. Gallai’r plant wneud rhai i fyny am eiriau, neu ran o air sy’n anodd ei gofio iddynt hwy.

e.e. BEAUtiful “Because Eliphants Aren’t Ugly”
mynydd – mae’n haws dringo mynydd hefo dwy goes (yy)

Gemau: megis Shannon’ game (‘Teaching Spelling’ Mike Torbe) – gêm debyg i Hangman, ond bod angen darganfod y llythrennau yn ôl eu trefn yn y gair. Datblyga hyn gof am ddilyniant llythrennau mewn geiriau.

Mae nifer fawr o gemau yn y llyfr “Bright Ideas: Spelling” (Scholastic)

e.e. gemau rhag-ddodiad ac ôl-ddodiad
gemau Bingo o batrymau arbennig

Mae’r llyfr yn annog defnyddio gemau sy’n addas ar gyfer camau datlbygiad sillafu’r plant – mae pob un wedi’i nodi yn ôl camau Richard Gentry:

semi phonetic > phonetic > transitional > correct

e.e. “MSR” “MONSTR” “MONSTUR” “MONSTER”

fel bod modd dewis gêm i helpu datblygu’r sgiliau arbennig mae plentyn/grwp bach ei angen.