Llais Disgyblion

Croeso i dudalen Cyngor Ysgol Treganna. Mae gan ddisgyblion Cyngor ac Eco-gyngor Dosbarth , Criw iard a mwy. Yyn ystod y flwyddyn cynhelir sawl cyfarfod ble caiff y disgyblion gyfle i fynegi barn am weithdrefnau’r ysgol a sicrhau bod Ysgol Treganna’n yn ysgol hapus i bawb.

Ar ddechrau pob blwyddyn ysgol cynhelir etholiadau.  Mae’r aelodau hyn yna’n cyfarfod er mwyn trafod syniadau’r Cynghorau Dosbarth cyn pennu blaenoriaethau a rhaglen weithredu. Disgwylir i’r cynrychiolwyr adrodd yn ôl i’w dosbarth yn dilyn pob cyfarfod fel eu bod yn deall ac yn gwybod pa benderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud.

Mae’r grwpiau yma yn rhoi cyfle i’r disgyblion fynegi barn a chydweithio mewn partneriaeth gyda Staff a Llywodraethwyr i wella a datblygu’r ysgol er lles pawb. Mae hefyd yn rhoi cyfle i’r disgyblion ddatblygu amrywiaeth o sgiliau gan gynnwys cyfathrebu, gwrando, mynegi barn, datrys problemau, gwneud penderfyniadau a myfyrio. Gan eu bod hefyd yn cynhyrchu adnoddau, yn cadw cofnodion a chyfathrebu mewn sawl ffordd, maent yn datblygu eu medrau allweddol .
Fe fydd Criw’r iard yn cynorthwyo bob amser egwyl ac yn cydweithio er mwyn archebu offer ar gyfer egwyl.

Mae modd i ddisgyblion E bostio neu ysgrifennu at y Pennaeth yn uniongyrchol os ydynt yn awyddus i weld ddatblygiad neu newid yn nhrefn yr Ysgol. Fe fydd y Pennaeth yn cydweithio gyda’r Cyngor a’r staff er mwyn trafod , hyrwyddo a ( gyda lwc) gweithredu’r syniadau yma.

Gyrru a Thecstio

Mae Maia ym mlwyddyn 4 wedi ysgrifennu ataf i ofyn i mi eich atgoffa am beryglon tecstio wrth yrru.

Cyfrannu at elusen Comic Relief heb wisgo trwynau Coch

Ysgrifennodd Mia ac Emi i ofyn os oedd modd i ni gyfrannu at elusen heb wisgo trwynau Coch

Dyma’r adroddiad ar newyddion y BBC

Roedd llawer o son amdanynt yn y wasg:


Dyma’r erthygl ym mhapur newydd The Independent


Roedd y criw yma eisiau gwneud cyflwyniad i’r Ysgol ar beryglon plastig

 

Cyflwyniad disgyblion i’r Gwasanaeth ar Blastig