Fan hyn y dewch chi o hyd i becynnau Rhifau Rhagorol ar gyfer cefnogi rhieni. Mae’r pecynnau yn cynnig arweiniad ar sut i ateb y cwestiynau, y dulliau yr ydyn ni’n eu defnyddio a’r ffordd orau o ymarfer.
Sut i’w Defnyddio
Tra’n bod yn deall y tynfa i helpu’r plant wrth iddyn nhw gwblhau’r profion, gofynnwn yn garedig i chi beidio. Bwriad y sytem yw i weld pa sgiliau sy’n cael eu cofio dros gyfnod hir ac o un wythnos i’r nesaf, felly mae’r asesiad yn gyfle pwysig i weld pa fylchau sydd. Dydy helpu ar y pryd ddim o reidrwydd yn golygu bydd y plentyn yn deall y sgil yn yr hir dymor.
Yn hytrach, gadewch iddyn nhw gwblhau’r profion yn annibynnol ac fe wnawn ni eich hysbysu pa sgiliau sydd dal angen gwaith a mwy o ymarfer.
E-bost Wythnosol
Yn wythnosol, bydd athro/athrawes eich plentyn yn eu e-bostio gyda chanlyniadau’r prawf CLIC. Fe fydd e’n edrych fel hyn:
Mae’r rhifau yn cyd fynd â’r cwestiwn. Felly, os mae 10 yn goch, cerwch ati i ymarfer cwestiwn 10 o’r pecyn ymarfer. Os maen nhw i gyd yn wyrdd, mae eich plentyn yn barod i ddechrau ymarfel y lefel nesaf.
Pa Becyn? Pa Ddull?
- Yn yr e-bost fe welwch lefel CLIC eich plentyn (o 1 i 20) – dyma’r pecyn y mae angen i chi ei ddefnyddio.
- Wedi i chi ddewis y pecyn mae’n hawdd. Mae 10 rhan i bob pecyn, un ar gyfer pob cwestiwn
- Gyda phob un o’r cwestiynau, mae:
- Eglurhâd o’r dull
- Taflen dysgu wrth ail-adrodd
- Cwestiynau er mwyn defnyddio’r dull mewn cyd-destun.
CLIC Y Pecynnau
A Guide For Parents And Carers
Ar hyn o bryd, rydyn ni’n dal i aros i’r cwmni gyhoeddi pecynnau CLIC 18-20 a SAFE.