Newyddion
Cystadleuaeth Celf yr Ifanc Caerdydd
26th November 2019Cystadleuaeth Celf yr Ifanc Caerdydd Llythyr Rhieni
Darllenwch Mwy…Croeso
Cyfarchion a chroeso i’r Ysgol. Gobeithiwn byddwch chi a’ch plentyn yn mwynhau Treganna. Ceisiwn gynnig addysg gyffrous technolegol fodern wedi seilio ar werthoedd cadarn traddodiadol.
Gwerthoedd Treganna
Mewn undod y mae nerth
Drwy bartneriaeth, yn rhieni, staff ysgol a’r gymuned, cydweithiwn er lles y plentyn
Cenedl heb iaith, cenedl heb galon
Craidd pob agwedd o’n bywydau, o fewn a thu hwnt i’r ysgol, yw’r Iaith Gymraeg
Ymdrech a lwydda
Arfogwn ein disgyblion i ymfalchio yn eu llwyddiannau, cofleidio cyfleoedd, a dysgu o’u profiadau
Os wyt ti yn becso am unrhywbeth, mae croeso i ti sôn yn fan hyn. Does dim rhaid i ti gofnodi dy enw – ond mae’n gymorth i ni wybod enw’r dosbarth er mwyn i ni helpu. Mae’r athrawon a finnau wedi hen arfer â gweithio’n dawel, o dan yr wyneb i ddatrys problemau, newid llwybrau bwlis a pheidio datgelu cyfrinachau. Os nad wyt ti am i ni wybod dy enw, cofnoda enw’r dosbarth yn unig.
Mr Harries