Mae’r staff yn annog y safonau uchaf mewn disgyblaeth. Mae ethos yr Ysgol a chynllunio’r cwricwlwm eang yn hybu’r agweddau a’r gwerthoedd sy’n angenrheidiol i blant unigol gyfrannu’n adeiladol at eu datblygiad personol eu hunain ac i ddatblygiad yr Ysgol. Anogir yr agweddau a’r gwerthoedd hyn ymhellach drwy system o wobrwyon ac ataliadau. Sylwer yn aml fod trafferthion digyblaeth yn ganlyniad i broblemau o fewn y teulu neu ddiffyg sgiliau cymdeithasol.
Rheolaeth Gyffredinol
- Mae gan bob disgybl yr hawl i weithio mewn awyrgylch tawel, cefnogol a phwrpasol.
- Mae gan bob disgybl yr hawl i ddod i’r ysgol heb ofn cael ei fwlio – (gweler polisi ‘Gwrth-fwlio’).
- Rhoddir canllawiau ac fe’u trafodir ar ddechrau pob blwyddyn ysgol yn amlinellu’r ymddygiad dosbarth disgwyliedig, gan roi rhesymau.
- Mae’r system monitro dosbarth a llinell yn gymorth hefyd i ennyn synnwyr o ymrwymiad a dinasyddiaeth yn y disgyblion
- Mae cofrestr dosbarthiadau a manylion disgyblion, ynghyd â chanllawiau disgyblaeth, ar gael ar gyfer athrawon cyflenwi i adnabod a datrys meysydd problem yn gyflym (Gw. Llyfryn Canllawiau Athrawon Cyflenwi)
- Mae pob oedolyn yn gyfrifol am bob disgybl yn ein hysgol ni. Disgwylir i bob oedolyn drin y disgyblion yn gadarn, yn deg ac yn gwrtais. Yn yr un modd, disgwylir i bob aelod o ddosbarthiadau’r Ysgol ymddwyn yn gwrtais, gan ddangos parch at yr holl oedolion sy’n gweithio ar y safle.
Yr Athro Dosbarth
Yr athro/awes dosbarth yw cyswllt bugeiliol pennaf a chyntaf pob disgybl. Disgwylir i bob dosbarth gynnig awyrgylch positif sy’n cydymffurfio ag egwyddorion cyfiawnder atgynhyrchiol (restorative justice). Er mwyn sicrhau hyn fe fydd rhaid dibynnu yn helaeth ar wybodaeth drwyadl yr athro/awes o’r dosbarth yn ogystal â’n hamynedd a dyfalbarhad wrth drafod a deall gwraidd camymddwyn fwy cymhleth.
Fe fydd athrawon yn cynnig:
- gwobrwyon ac ataliadau
- gwylio am blant sy’n ymddwyn yn groes i’w cymeriad
- edrych am arwyddion o ofid a chynnwrf
- trwy siarad a gwrando ar blant, gellir taro ar ddigwyddiadau amheus o niwed annamweiniol neu gamdriniaeth a rhoi adroddiad i’r Pennaeth ar gyfer archwiliad pellach.
Gwobrwyon
Mae gwobrwyon a chanmoliaeth yn arfau pwerus. Mae’r ymarfer cyffredinol o reolaeth yr ystafell ddosbarth yn cynnwys rhoi nifer o wobrwyon i blant yn ddyddiol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Canmoliaeth lafar, sylwadau ysgrifenedig ynglyn â gwaith da, sticeri, anfon plentyn i’r athro agosaf neu’r Pennaeth/Dirprwy am ganmoliaeth.
- Cymeradwyaeth yn ystod gwasanaeth ddydd Gwener (Disgybl yr Wythnos).
- Cyflwyno tystysgrifau ar ddiwedd pob tymor (Disgybl y Tymor).
- Adroddiadau a welir hefyd fel modd i feirniadu’n adeiladol a chanmol.
- Mae modd i’r ysgol anfon clod / neges i rieni ar ffurf testun ffôn symudol.
Ni fydd gwobrwyon yn cynnwys rhoi losin i ddisgyblion.
Ataliadau
Yn achlysurol ni fydd disgybl yn ymateb i ganmoliaeth a systemau arferol y dosbarth. Mae gan bob athro a chymhorthydd gyfle wythnosol i drafod unigolion a digwyddiadau yn ystod cyfnodau ‘Pryder plant’ y staff. Fe fydd cyngor aelodau eraill o’r staff yn ddefnyddiol iawn ac yn aml yn cynnig strategaeth i ymdrin ag unrhyw ymddygiad annerbyniol cymhleth.
Er mwyn ymdrin ag unrhyw ymddygiad annerbyniol, gweithredir system ddisgyblu ‘Gwyrdd Gwych’; system wedi ei graddoli, sy’n rhybuddio disgyblion trwy ddefnyddio pedair carden liw, gan roi cyfle iddynt wella ar eu hymddygiad cyn y gosb derfynol. Y nôd yw i arddel ymddygiad ‘Gwyrdd Gwych’ bob tro.
Gweithredir y system fel a ganlyn:
- Gosodir siart ym mhob dosbarth sy’n arddangos llun o bob disgybl; o dan bob llun gosodir 4 carden mewn trefn – gwyrdd, glas, oren a choch.
- Mae pob disgybl yn dechrau sesiwn fore neu brynhawn ar ‘Wyrdd’.
- Os oes digwyddiad o ymddygiad annerbyniol, yna fe fydd lliw carden y disgybl yn newid i ‘Las’
- Os yw’r ymddygiad yn parhau/neu ddigwyddiad annerbyniol arall, yna fe fydd lliw carden y disgybl yn newid i ‘Oren’
- Os yw’r ymddygiad yn parhau/neu ddigwyddiad annerbyniol pellach, yna fe fydd lliw carden y disgybl yn newid i ‘Goch’
- Os yw’r disgybl yn derbyn carden goch, yna mae’n cael ei ddanfon at y Dirprwy/Pennaeth ac yn cael ei eithrio o’r dosbarth am weddill y sesiwn (bore neu brynhawn)
- Nodir enw’r plentyn yn y ‘Llyfr Coch’ (disgyblaeth) a hysbysir y rhieni trwy alwad ffôn
- Ar ddiwedd y sesiwn fore/brynhawn, mae’r disgybl yn ail-ddechrau ar ‘Wyrdd Gwych’ unwaith eto.
Mae’r system yn caniatau i ddisgybl addasu ei ymddygiad cyn cyrraedd y cam eithaf. Fe fydd athrawon yn ceisio hyrwyddo’r gwelliant yma trwy weithredu strategaethau megis:
- trafod y mater gyda’r disgybl
- symud y disgybl i sedd arall er mwyn hyrwyddo dysgu/ymddygiad da
Noder – os tybir bod ymddygiad disgybl yn ddigon difrifol, yna medrir hepgor y camau uchod a’i symud yn syth i’r Coch.
Mae’r gweithdrefnau disgyblu canlynol yn cael eu gweithredu gan y pennaeth neu aelod o’r uwch dim
Yn y pendraw, os na fydd yr UDR yn teimlo bod y cynnydd yn ymddygiad y digybl yn dderbyniol, caiff ddisgybl ei wahardd am gyfnod byr penodedig (un diwrnod neu ddeuddydd). Ym mhob achos o waharddiad, gofynnir i’r rhieni/gwarcheidwaid ddod â’i mab/merch i drafod amodau cael ei (h)aildderbyn gan y Pennaeth.
Mewn achosion o gamymddwyn difrifol a chyson, fe fydd yr UDR yn gweithredu mewn tri cham. Dylid bob amser ymgynghori â’r Pennaeth cyn gweithredu. Fe fydd llythyr yn cael ei ddanfon i’r rhieni gyda phob cam (gw Appendix 1 – canllaw proforma llythyr).
Y camau yw:
- Sgwrs â rhieni yn amlinellu pryderon.
- Llythyr yn rhybuddio y caiff y plentyn ei wahardd os nad yw ei ymddygiad yn gwella.
- Ail lythyr yn hysbysu gwaharddiad gan wahodd rhieni i’r Ysgol i drafod y mater.
Yn dilyn y cyfarfod uchod, danfonir llythyr yn hysbysu’r rhiant am eithrio’r plentyn am gyfnod penodedig, gan nodi enghreifftiau penodol o gam-ymddwyn a sail yr eithriad, ynghyd â’r gweithdrefn apeliadau.
Eithriad i’r drefn uchod:
Gwaherddir disgybl yn syth os bydd, yn nhŷb yr ysgol, yn fygythiad i les a diogelwch disgyblion/staff yr Ysgol. Os bydd yr ymddygiad yn parhau, argymhellir y caiff ei wahardd am gyfnod penodedig hwy (hyd at bum niwrnod) neu am gyfnod amhenodol.