Cyflwyniad
Mae’r polisi Datblygiad Personol a Pherthynas (DPPh) wedi ei seilio ar ddogfen ‘Sex and Relationships Education SRE in schools’ 2010 Llywodraeth Cymru ac ar ganllawiau Deddf Addysg 1996.
Mae’r polisi DPPh yn ymateb i fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7- 19 oed sy’n gosod meysydd datblygu Iechyd a Lles Emosiynol a Datblygiad Moesol ac Ysbrydol.
Bwriedir y polisi i ddatblygu gwybodeth a dealltwriaeth yr ysgol gyfan.
Nôd y polisi
Nôd y polisi yw i baratoi’r disgyblion mewn modd graddol a phriodol ar gyfer bywyd oedolyn ac ar gyfer perthnasoedd cadarnhaol ac iachus.
Mae’r gwersi yn sicrhau fod y disgyblion yn magu hyder i drafod mewn awyrgylch diogel a hapus. Mae’r polisi yn sicrhau fod y disgyblion yn deall datblygiad y corff ac yn dod yn ymwybodol o beth sydd yn briodol ac amhriodol a phwysigrwydd dangos parch.
Ein bwriad yw cynnig rhaglen DPPh sy’n briodol i oedran y disgyblion gan bwysleisio agweddau cymdeithasol ac emosiynol perthnasoedd:
- Pwysigrwydd perthnasoedd sefydlog a chariadus
- Parch at ei hunain a’i gilydd
- Hawliau
- Cyfrifoldebau
- Cydraddoldeb rhyw
- Goddefgarwch amrywiaeth
- Nid yw trais na gorfodaeth byth yn dderbyniol o fewn perthnasoedd
Rheoli a Threfnu
Ymgynghorwyd gyda Llywodraethwyr , Staff a Rhieni/ Gwarcheidwaid wrth lunio’r polisi yma.
Cyfrfifoldeb pob athro ac athrawes yw i sicrhau fod disgyblion yn derbyn addysg sydd yn cydfynd â’r polisi oni bai bod rhiant yn dewis eithrio eu plant o wers.
Byddwn yn neilltuo wythnos o wersi a gweithgareddau drwy’r ysgol gyfan yn flynyddol yn ystod hanner cyntaf tymor yr haf i weithredu’r cynllun. Gwelir isod amlinelliad o wersi yr wythnos sy’n sicrhau datblygiad a dilyniant.
Y Cyfnod Sylfaen
- Fframwaith Cenedlaethol Personol a Chymdeithasol
Blwyddyn 3
- Gwers 1: ‘Perthnasoedd – beth yw ffrind da?’
- Gwers 2: ‘Cyfeillgarwch – Datblygu empathi’
- Gwers 3: ‘Pethau tebyg ac annhebyg rhwng bechgyn a merched.’ Edrych ar ystrydebau bachgen/merch, cyflwyno’r brif wahaniaeth corfforol rhwng ‘bechgyn’ a ‘merched’ drwy luniau o fabanod, heb ddefnyddio iaith ffurfiol am organau rhywiol
- Gwers 4: ‘Cyffwrdd priodol ac amhriodol’
Blwyddyn 4
- Gwers 1: ‘Gwahaniaethau teuluol – Beth yw teulu?’
- Gwers 2: ‘Cylch bywyd pobl’ a chyfrifoldebau’n newid
- Gwers 3: ‘Gwahaniaethau corfforol rhwng bechgyn a merched.’ Enwi rhannau o’r corff. Defnyddio enwau cywir am rannau o’r corff gan gynnwys yr organau rhywiol
- Gwers 4: ‘Tyfu i fyny a bod yn ddiogel’ – mae gan bob plentyn yr hawl i deimlo’n ddiogel, gwybod o le i gael cymorth a chyngor os yw’n teimlo’n anniogel
Blwyddyn 5
Defnyddiwr blwch Cwestiynau yn y dosbarth i ddisgyblion nodi cwestiynau’n ddienw.
- Gwers 1 – ‘Cyfeillgarwch’ – Mae pethau tebyg ac annhebyg rhwng pobl yn cyfrannu at amrywiaeth o ran cyfeillgarwch
- Gwers 2 – ‘Newidiadau corfforol yn y glasoed’
- Gwers 3 – Y Glasoed – Grwpiau Bechgyn/Merched – Y misglwyf, newidiadau i fechgyn. Gwersi ar wahân i fechgyn a merched fel bod modd ateb cwestiynau manylach
- Gwers 4 – ‘Y Glasoed – systemau atgenhedlu’ – Adolygu’r glasoed, rhannau o’r corff yn ymwneud â’r system atgenhedlu
Blwyddyn 6
Defnyddir blwch Cwestiynau yn y dosbarth i ddisgyblion nodi cwestiynau’n ddienw.
- Gwers 1 – ‘Perthnasoedd – Beth yw cariad?’
- Gwers 2 – ‘Y Glasoed – pwysigrwydd hylendid corfforol’. Ystyried newidiadau emosiynol hefyd
- Gwers 3 – ‘Atgenhedlu’ – Adolygu rhannau o’r corff, trafod cenhedlu
- Gwers 4 – ‘Perthnasoedd, cenhedlu a beichiogrwydd’. Gweithgareddau mewn perthnasoedd, adolygu cenhedlu, ystyried datblygiad babanod, bod yn iach yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth a bwydo’r babi
Parch
Mae’n holl bwysig ein bod yn sensitif i bryderon ac anghenion unigolion. Mae’n hanfodol ein bod ni fel ysgol yn cydnabod amrywiaeth perthnasau. Bydd pob aelod o staff yn dangos parch at wahanol deuluoedd ac yn annog disgyblion i drafod mewn dull sensitif a pharchus.
Adnoddau
Yn ystod yr wythnos bydd yr adnoddau hyn yn cael eu defnyddio
- Pecyn cymorth – Ffeil Addysg Rhyw a Pherthnasoedd.
- Tyfu i fyny- adnodd rhyngweithiol ar y cyfrifadur.
- Mat llawr – Y Corff
- DVD ‘Sense’ (Blwyddyn 6 yn unig)
Ymweliadau
Yn ystod yr wythnos gwneler pob ymdrech i sicrhau fod ymwelwyr allanol yn dod i gyfoethogi’r dysgu e.e:
- Doctor
- Deintydd
- Mam a phlentyn / Tad a phlentyn
- Nyrs
Eithrio
Ar ddiwedd tymor yr haf byddwn yn astudio pecyn Iechyd, Rhyw a Pherthynas. Byddwn yn annog pob disgybl i fynychu’r cwrs . Mae gan rieni yr hawl i dynnu ei b/phlentyn o’r gwersi addysg DPPh yn yr ysgol. Mae croeso i rieni gysylltu er mwyn trafod pryderon. Mae’n bosib i ddisgybl gael ei eithrio o rai gwersi ond mynychu eraill.