Diffiniad : Plant sydd angen mwy o gyfle i gyfoethogi ac ymestyn eu galluoedd nag a ddarperir i’r rhan fwyaf o ddisgyblion. Mae’r term yn cwmpasu disgyblion sydd yn fwy galluog ym mhob rhan o’r cwricwlwm yn ogystal â’r rhai sy’n dangos talent mewn un maes penodol neu fwy.
Cynnwys a Chynorthwyo Disgyblion (Llywodraeth Cenedlaethol Cymru) Tachwedd 2006
Adran 1 Cyflwyniad:
Cyfyngir y cysyniad arferol o ‘Mwy Abl a Thalentog’ yn ôl seicoleg addysg i ganran llawer llai o blant – o bosibl mor isel â 2%. Mae’n rhaid felly ystyried y ffigwr 20% fel un sy’n gorfod cynnwys y disgyblion hynny a ddynodwyd yn flaenorol fel rhai disglair/galluog ac nid oes angen sylw arbennig ar lawer o’r plant hyn yn y cwricwlwm eang, cytbwys a gwahaniaethol a ddarperir gan Dreganna a Than yr Eos.
Gellir gweld llawer o’r polisi hwn felly fel un sy’n benodol berthnasol i’r 2% uchaf o’r boblogaeth disgyblion ysgol a’u rhieni a’u hathrawon. Gellir defnyddio’r meini prawf canlynol i wahaniaethu rhwng y plentyn disglair/galluog â’r plentyn gwirioneddol ddawnus neu dalentog:
Plentyn Disglair | Plentyn Mwy Abl a Thalentog |
---|---|
Yn ymddiddori | Yn chwilfrydig iawn |
Gyda syniadau da fel arfer | Gyda syniadau da bob amser ac weithiau syniadau ochrol a all ymddangos ar y dechrau i fod yn rhai dwl. |
Yn gwybod y rhan fwyaf o’r atebion | Yn gwybod y rhan fwyaf o’r atebion ac yn dechrau gofyn cwestiynau |
Yn ateb cwestiynau yn briodol | Yn gofyn cwestiynau ond yna’n dechrau ymhelaethu |
Angen ailadrodd mynych ar gyfer meistroli sgil | Dim ond un neu ddau ailadrodd sydd eu hangen ar gyfer meistroli |
Deall syniadau | Adeiladu haniaethau |
Mwynhau cwmni cyfoedion | Yn fwy hoff o gwmni oedolion |
Deall ystyron | Tynnu casgliadau |
Copio’n gywir | Creu gwaith a dyluniadau gwreiddiol |
Technegydd/gweithredydd | Creuwr/dyfeisiwr |
Amsugno gwybodaeth | Trin gwybodaeth |
Yn gallu cofio’n dda | Yn gallu cofio’n dda a thybio yn ddeallus |
Gwneud sylwadau ar weld sut mae gwneud | Yn eithriadol o graff |
Yn fodlon gyda’r gwaith a wna | Yn hunanfeirniadol iawn ac yn gosod safonau uchel eithriadol. |
Yn mwynhau problemau uniongyrchol dilyniannol | Ffynnu ar gymhlethdod |
Dywed Nodau ac Amcanion yr Ysgol ein bod yn ceisio:
- Annog pob disgybl i adnabod a chyrraedd ei wir botensial, h.y. bod ag agwedd gadarnhaol at ddysgu gydol oes ac yn gallu dangos menter.
- Er mwyn cyrraedd y nod hwn mae angen adnabod gwir natur a photensial plentyn Mwy Abl a Thalentog cyn y gellir gwneud darpariaeth briodol. Fodd bynnag, nid yw’n hawdd adnabod pob plentyn dawnus a thalentog. At ddibenion eu hadnabod a’u cynorthwyo gellir grwpio disgyblion mwy abl a thalentog fel a ganlyn : –
- Yn ddawnus yn gyffredinol – yn rhagori ym mhopeth a wna ac yn mwynhau eu llwyddiant – hawdd eu hadnabod.
- Talentog yn meddu ar allu arbennig mewn un maes, e.e. mathemateg neu wyddoniaeth, yn gymharol hawdd eu hadnabod gan eu bod hefyd yn tueddu i fod yn alluog a llwyddiannus yn academaidd.
- Dawnus gwrthryfelgar – yn meddu ar ystod o broblemau ymddygiad sydd i’w gweld fel ymddygiad aflonydd a thangyflawni – yn aml fe’u dynodir yn anghywir fel bod yn hollol aflonyddr a /neu o allu isel.
- Creadigol ddawnus, meddylwyr dwys sy’n aml yn amhoblogaidd gyda’u cyfoedion oherwydd y canfyddiad o ddiffyg sgiliau cymdeithasol a nodweddion cyffredin yn aml fe’u dynodir yn anghywir fel rhai aflonydd.
- Cudd-ddawnus – tangyflawnwyr sydd ddim am fod yn wahanol i’w cyfoedion ac felly ymdoddant i’w grŵp cyfoedion – yn aml fe’u dynodir yn anghywir fel rhai sy’n tangyflawni neu yn syml yn rhai llai galluog.
Mae ffactorau amgylcheddol ac etifeddol yn dylanwadu ar fynegiant gallu a chyflawniad uchel. Gyda gwir gefnogaeth rhieni a’r ysgol, bydd y rhan fwyaf o blant yn datblygu hunan hyder a byddant yn ymgyrraedd i gyflawni eu potensial cynhenid.
Oherwydd eu natur, mae’n bosib i ddisgyblion MATh ddioddef o ddiffyg hunan werth a phwysau gwaith. Mae Llawlyfr yr Ysgol yn cynnwys arweiniad i Rieni a disgyblion .
Pam Fentro ?
Sylwadau Blwyddyn 6
Adran 2 – Nodau:
Nodau’r Ysgol yw:
- Sicrhau bod polisi’r ysgol yn cynnwys ffocws ar anghenion plant Mwy Abl a Thalentog
- Datblygu strategaethau ysgol gyfan i adnabod, addysgu a chefnogi’r Mwy Abl a Thalentog er mwyn meithrin eu gallu ar gyfer dysgu a meddwl yn greadigol heb gyfyngiad.
- Sicrhau bod y dulliau hyn yn cael eu defnyddio, neu eu haddasu ym mhob dosbarth/maes pwnc
- Sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau clir ar gyfer plant Mwy Abl a Thalentog oddi fewn i’r ysgol a’r AALl gan roi sylw arbennig i’r
i) Uwch Dîm Reoli (UDR);
ii) Athrawon dynodedig (Sian Powys) gyda chyfrifoldeb penodol am y rhai Mwy Abl a Thalentog;
iii) Llywodraethwr dynodedig (Dr Kathryn Walters) gyda chyfrifoldeb penodol am y rhai Mwy Abl a Thalentog.
Adran 3 Yr Angen am Adnabod yn Gynnar:
Mae gan blant dawnus awch mawr am wybodaeth ac mae’n hanfodol adnabod yr angen hwn cyn gynted â phosibl fel bod rhieni ac athrawon yn gallu rhoi’r lefel o gefnogaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn iddynt allu datblygu eu talentau. Gall gyfeirio, asesu a dynodi disgyblion Mwy Abl a Thalentog ddod o amryw o ffynonellau, e.e.
- Cais gan athrawon yn dilyn arsylwadau, asesiadau neu’r defnydd o restrau gwirio;
- Cais gan y disgybl ei hun;
- Cais gan riant;
- Cais grŵp cyfoedion;
- Cais rheolwyr;
- Cais DHA neu Feddyg Teulu;
- Yn dilyn gwybodaeth o ysgol flaenorol (e.e. ysgol feithrin);
- Yn dilyn profi cyffredinol disgyblion y Cyfnod Sylfaen a phrofion allanol a mewnol yr Adran Iau;
- Yn dilyn profion diagnostig;
- Yn dilyn cyfweliadau, holiaduron unigol;
- Yn dilyn tystiolaeth o weithgareddau y tu allan i’r ysgol;
- Yn dilyn tracio ac arsylwi disgyblion unigol.
Fel llawer o blant eraill gall plant Mwy Abl a Thalentog yn aml fethu cyflawni eu potensial ac o ganlyniad gael llawer o anawsterau. Mae dynodiad, asesiad a darpariaeth gynnar felly yn bwysig iawn ar gyfer unrhyw blentyn abl/talentog am y rhesymau canlynol:
Gall leihau’r anawsterau y gellir dod ar eu traws pan fydd ymyrraeth a darpariaeth yn digwydd. Yn nodweddiadol dyma yw’r anawsterau hyn:
- Hyder a hunan barch isel;
- Lefel uchel o rwystredigaeth a hunan feio;
- Sgiliau astudio gwael;
- Ynysu cymdeithasol a chredu eu bod wedi’u camddeall ac yn wahanol i’w cyfoedion;
- Osgoi cyfundrefnau academaidd;
- Problemau gyda chanolbwyntio;
- Byw yn eu byd bach eu hunain.
Mae’r broses yn dechrau drwy gydgysylltu gyda’r ysgolion Meithrin sy’n ein bwydo. Mae’r Athro sy’n gyfrifol am gyswllt Meithrin yn ymweld â’r feithrin sy’n ein bwydo i gyfarfod â darpar ddisgyblion ac athrawon yn ystod y tymor cyn y byddant yn trosglwyddo i’r ysgol gynradd.
Yn ystod y tymor cyntaf yn yr ysgol caiff pob disgybl derbyn ei asesu. Caiff dynodiad disgyblion sydd angen cefnogaeth ei seilio’n bennaf ar ganlyniadau’r profion gwaelodlin. Hefyd ystyrir ceisiadau penodol am gefnogaeth o wahanol ffynonellau, yn cynnwys rhieni, athrawon ac ati.
Adran 4: Darpariaeth Strategol: Cyfoethogi ac Ehangu
- Cyfoethogi: Sicrhau bod cynnwys y cwricwlwm yn gyfoethog o ran ansawdd
- Ehangu: Sicrhau bod cynnwys y cwricwlwm yn ymestyn ac ehangu dealltwriaeth a phrofiad.
Bydd athrawon yn sicrhau bod disgyblion Mwy Abl a Thalentog yn cael eu herio’n briodol, yn addasu maint ac /neu ehangder a chynnwys y tasgau a gyflwynir iddynt. Caiff y disgyblion gyfle i ddarllen, ysgrifennu a siarad ynglŷn â’u gwaith ac i gyfranogi mewn trafodaethau a/neu i weithio gyda disgyblion eraill.
Bydd athrawon yn gosod targedau ac yn tracio cynnydd mewn ymgynghoriad â’r CADY gan ddefnyddio amrediad o arsylwadau/ profion mewnol a statudol.
Bydd rhai disgyblion yn derbyn cefnogaeth yn yr ystafell ddosbarth ac fe gaiff nifer fechan eu tynnu allan ar gyfer mwy o gymorth mewn ardal arall e.e sgwadiau iaith a mathemateg.
Y Cwricwlwm
Nid oes cwricwlwm manwl, safonol ar gyfer plant Mwy Abl a Thalentog, oherwydd bod eu hanghenion yn unigol iawn. Mae’r pwyslais ar ddatblygu gwaith wedi’i seilio ar dargedau er mwyn:
- Diwallu anghenion plant unigol;
- Adeiladu ar eu cryfderau unigol;
- Annog datblygiad mewn meysydd y mae angen cefnogaeth arnynt.
Ar gyfer pob disgybl mae cwricwlwm ysgol wedi’i strwythuro’n dda, ac yn ymgorffori gwahaniaethu yn sicrhau amgylchedd y gallant ffynnu ynddo. Fodd bynnag, mae’n hollbwysig cofio y gall plant mwy abl a thalentog fod sawl blwyddyn ar y blaen i’w cyfoedion yn academaidd ond yn dal i fod yn debyg i’w hoedran cronolegol yn emosiynol a chymdeithasol.
Mae’r ysgol yn gwneud defnydd o gydlynwyr y pynciau craidd i ddynodi a darparu ar gyfer y plentyn dawnus mewn meysydd sylfaen academaidd. Gellir darparu ar gyfer plant sy’n dangos gallu eithriadol mewn meysydd eraill a’u hannog gan y cyfoeth o bartneriaid sy’n gweithio’n agos gyda’r ysgol i roi profiad a hyfforddiant mewn meysydd y tu hwnt i gwricwlwm bob dydd yr ysgol. Ymhlith ein partneriaid mae:
- CRICC (Clwb Rygbi Ieuenctid Cymry Caerdydd)
- Urdd Gobaith Cymru: amrywiaeth o chwaraeon yn cynnwys nofio, trawsgwlad, criced; clwb Drama Ffwrnais Awen, cystadlaethau coginio a chelf.
- Chwaraeon y Ddraig (Cyfres ardderchog o weithgareddau yn yr ysgol a gweithgareddau allanol sydd â nod o roi sylfaen gadarn i ddisgyblion mewn nifer o chwaraeon)
- Gwasanaethau cerddoriaeth yr AALl a cherddorfa ieuenctid CAVMS neu’r Sir. Darperir hyfforddiant mewn sawl offeryn cerddorol o fewn oriau ysgol.
Menter Caerdydd:
Neuadd Llanofer:
Gweithgareddau Neuadd Llanofer
Chapter:
Canolfan Chapter
Clwb Iechyd Da:
Yoga i blant
Clybiau / gweithgareddau a ddarperir gan yr ysgol:
- Clwb Celf a chrefft
- Clwb yr Urdd
- Clwb perfformio
- Clwb pêl-rwyd
- Clwb rhedeg
- Clwb Criced
- Clwb Dawnsio disgo
Llyfrgell MAT
Mae’r ysgol wedi trefnu llyfrgell yn cynnwys llyfrau cyfrwng Saesneg a Chymraeg ar gyfer plant Mwy Abl a Thalentog. Lleolir y llyfrgell hon yn ystafell y CADY. Bydd plant sydd ar gofnod MAT yn dod i fenthyg neu ddychwelyd llyfrau yn ystod cyfnod darllen y bore neu ddechrau’r prynhawn. Cedwir cofnod o’r holl lyfrau a benthycir gan y plant. Gall ddarllen fod yn un o’r gweithgareddau hamdden mwyaf pleserus ar gyfer plant yn gyffredinol, ac yn fwy arbennig ar gyfer unigolion Mwy Abl a Thalentog, ac mae’r rhestr a ddewiswyd yn sicr o ddenu. Fodd bynnag weithiau bydd angen ychydig o arweiniad i ddod o hyd i’r llyfrau sydd fwyaf addas ar gyfer eu diddordebau a’u galluoedd.
Holiaduron
Mae llais y plentyn yn hollbwysig. Defnyddir holiaduron unigol a dosbarth er mwyn hunan arfarnu a chanfod gwybodaeth am sut mae’r plentyn yn dysgu. Mae plant yn ymelwa wrth berchnogi rheolaeth dros eu haddysg. Mae’r athrawon yn ymelwa trwy ddysgu am y ffordd mae plant yn hoffi dysgu.
PONTIO
Rydym bob amser yn sicrhau bod y disgyblion sydd ar gofrestr Mwy Abl a Thalentog yn hysbys i ysgolion eraill y gallant drosglwyddo iddynt. Darperir ffurflen benodol i nodi cryfderau’r plentyn Mwy Abl a Thalentog gan Ysgol Plasmawr ym mis Mai argyfer hwyluso trosglwyddo effeithiol a chysondeb o ran darpariaeth. Caiff y ffurflenni eu cwblhau ar y cyd rhwng yr athro dosbarth a’r Cydlynydd ADY. Trefnir cyfarfod gyda phennaeth a dirprwy bennaeth Blwyddyn 7 a’r Cydlynydd ADY o Blasmawr ar ddechrau mis Mehefin er mwyn trafod plant MAT.
Aelodaeth NACE CYMRU
Mae’r ysgol yn aelod o NACE (Cymdeithas Genedlaethol Plant Galluog Mewn Addysg) ac felly gall unrhyw aelod o’r staff addysgu geisio cyngor swyddogion NACE – mae hyn yn cynnwys ymgynghoriadau am ddim dros y ffôn neu lythyr ynglŷn ag unrhyw blentyn unigol.
Adran 5: Rolau a Chyfrifoldebau
A) Rôl yr AALl : Cydlynydd partneriaeth â chyfrifoldeb MAT- Julie Elliot
- Ysgogi a darparu cefnogaeth strategol ar gyfer rhaglen wella barhaus er mwyn codi safonau addysgu a dysgu ar gyfer plant Mwy Abl a Thalentog o’r cynllunio dechreuol i ddarpariaeth.
B) Rôl y Llywodraethwyr
- Sicrhau bod ffocws ar y plant Mwy Abl a Thalentog yn yr ysgol.
- Bod â throsolwg a chyfrifoldeb am ddarparu ar gyfer plant Mwy Abl a Thalentog o fewn yr ysgol ac i sicrhau adnoddau digonol.
- Mae penodi llywodraethwr i gymryd diddordeb arbennig mewn plant Mwy Abl a Thalentog yn dangos y flaenoriaeth a roddir gan y Corff Llywodraethol i’r maes yma.
- Y llywodraethwrwyr sy’n gyfrifol am y plant Mwy Abl a Thalentog yw Mr Alun Davies a Mrs Denise Williams
- Mynychu hyfforddiant ar addysg plant Mwy Abl a Thalentog.
C) Rôl y Pennaeth/Uwch Dîm Rheoli
- Cynllunio a rheoli’n effeithiol ymagwedd tuag ar ragoriaeth drefniadol h.y. sicrhau bod amcanion dynodedig yn cael eu cyrraedd yn erbyn paramedrau cytunedig ar ansawdd, amserlen a chost. Dylai’r amcanion hyn fynd i’r afael ag anghenion yr unigolyn a’r ysgol drwy osod a chyflawni targedau penodol yng nghynllun datblygu’r ysgol.
- Dyrannu cyfran o’r gyllideb i addysgu a dysgu disgyblion Mwy Abl a Thalentog.
- Cynorthwyo i fapio ac archwilio sgiliau a rolau yn yr ysgol ac yna i ddarparu HMS priodol i staff a monitro perfformiad.
- Adolygu’r cwricwlwm yn flynyddol fel ei fod yn cadw parhad, datblygiad, ehangder a chydbwysedd.
- Bod â rôl yn strategol mewn hyrwyddo cydweithrediad a chydweithio rhwng adrannau ac ar draws y cwricwlwm cyfan o ran plant Mwy Abl a Thalentog.
- Sicrhau bod disgyblion dawnus a thalentog yn cael eu trafod mewn cyfarfodydd
- Staff/Gwella Ysgol a bod arfer gorau a phrofiadau yn cael eu rhannu ymhlith staff.
- Cychwyn polisi ysgol gyfan o wobrau a chydnabyddiaeth am waith a/neu gynnydd eithriadol. Dylai cydnabyddiaeth gyhoeddus o waith disgyblion Mwy Abl a Thalentog ddigwydd gan gofio bod rhai yn swil ac yn fewnblyg iawn ac y gellid gwneud niwed mawr i’w hunan hyder os oes rhaid iddynt fynd i’r blaen i dderbyn gwobr neu glod.
- Gwella dealltwriaeth rhieni o sut y gallent gefnogi addysg eu plentyn e.e trwy gynnal nosweithau DARLLEN.
CH) Rôl y CADY
- Darparu hyfforddiant ar gyfer arweinwyr ysgol, athrawon a staff cefnogi er mwyn eu cynorthwyo a’u galluogi i ddiwallu anghenion plant MAT
- Mae’r staff ADY wedi’u hyfforddi ac yn gyfarwydd gyda dynodi ac asesu anghenion dysgu ychwanegol a chysylltu gydag asiantaethau allanol, ac felly mae’r CADY yn gyfrifol am gydlynu’r ysgol gyfan tuag at ddisgyblion Mwy Abl a Thalentog. Mae’r CADY yn cynghori’r UDRh ar anghenion HMS.
- Cydweithio gyda’r athro dosbarth i lunio targedau a strategaethau ar gyfer diwallu anghenion disgyblion Mwy Abl a Thalentog.
- Defnyddio data i dracio cynnydd plant MAT.
- Cydlynu sgwadiau Mathemateg a iaith pan fydd yn briodol.
- Cydlynu gyda NACE a rhaeadru gwybodaeth berthnasol gydag aelodau’r staff.
D) Rôl y Cydlynydd Pwnc
- Sicrhau y caiff disgyblion Mwy Abl a Thalentog eu hystyried ac y cyfeirir atynt mewn polisi ysgol sy’n ymwneud ag addysgu a dysgu ac mewn cynlluniau gwaith a chynlluniau datblygu.
- Gwerthuso darpariaeth yr ystafell ddosbarth ar gyfer plant Mwy Abl a Thalentog yn y gylchred gynllunio a datblygu flynyddol.
- Cynorthwyo staff i gynllunio ac adeiladu ar sgiliau presennol ac i lunio targedau clir, perthnasol a chyraeddadwy ar gyfer disgyblion Mwy Abl a Thalentog.
- Cyfeirio achosion disgyblion dawnus a thalentog i’r CADY.
- Sicrhau y caiff disgyblion Mwy Abl a Thalentog eu trafod mewn cyfarfodydd staff neu gyfarfodydd cyfnod allweddol, ac y rhennir arfer gorau a phrofiadau ymhlith y staff.
- Defnyddio canlyniadau arfarnu dysgu ar gyfer datblygiad proffesiynol staff.
DD) Rôl yr Athro
- Mae’ n rhaid i bob aelod o’r staff fod yn ymrwymedig i wella’r ddarpariaeth ar gyfer plant Mwy Abl a Thalentog – ac yn bwysicach na dim, mae’n rhaid i’r holl staff addysgu gefnogi ei gilydd ac yn eu tro, dderbyn cefnogaeth y UDR.
- Cynorthwyo i ddynodi a chyfeirio plant sy’n Fwy Abl a Thalentog ac sydd angen cefnogaeth i’r Cydlynydd Pwnc/Cydlynydd Cyfnod Allweddol/CADY.
- Asesu anghenion datblygu personol mewn perthynas â datblygiad proffesiynol.
- Darparu amrywiaeth o gyfleoedd a dulliau dysgu e.e dysgu dosbarth cyfan / dysgu mewn grŵp, dysgu un wrth un, dysgu ar safle arall e.e y rhandir.
- Mae hi’n bwysig darparu gweithgareddau sydd yn defnyddio strategaethau sgiliau meddwl uwch e.e cynllunio cwestiynau agored heriol.
- Gosod tasgau sydd yn ymwneud â datrys problemau ac ymchwil trylwyr.
- Caniatau plant MAT i hepgor ymarfer y sgiliau sylfaenol y maent wedi’u meistroli er mwyn canolbwyntio ar ddysgu cyfoethocach ac ehangach.
- Hyfforddiant systematig o sgiliau darllen uwch, sgiliau ymchwil ac amrediad o sgiliau recordio/cofnodi.
- Darparu adnoddau sydd yn gofyn am sgiliau darllen uwch a sgiliau ymchwil. Mae hyn yn rhan annatod o addysg ddwieithog. Mae sgiliau megis trawsieithu yn cyfoethogi eu sgiliau darllen a dealltwriaeth.
- Gwahaniaethu gwaith cartef. Mae’r ysgol yn gweithredu system goleuadau traffig lle mae’r plant yn dewis y lefel briodol.
- Cyfranogi mewn gwneud addysgu yn fwy effeithiol o ran cynnwys pwnc a dull addysgu a thrwy hynny gyfoethogi addysg y disgybl.
- Hwyluso dysgu drwy ddefnyddio amrywiaeth o weithgareddau priodol ac ystyrlon sy’n cynnwys disgyblion yn y broses ddysgu.
- Helpu disgyblion i wneud synnwyr, a dehongli gwybodaeth a digwyddiadau er mwyn prosesu’r profiad a chreu gwybodaeth.
- Gosod nodau clir a’u cyfathrebu i bob disgybl ar ddechrau’r wers.
- Sicrhau bod gan blant Mwy Abl a Thalentog fynediad at y cwricwlwm drwy ddarparu’r sefyllfa lle bydd profiad pob disgybl o gynnwys a sgiliau yn cyfateb i’w raddfa dysgu ef/hi ac y defnyddir deunyddiau a strategaethau dysgu amgen, gwahaniaethol.
- Trafod targedau a strategaethau gyda’r plentyn sydd wedi’i adanabod fel plentyn MAT
E) Rôl y Rhieni/Gwarchodwyr
- Cynghori a rhannu syniadau / strategaethau gyda’r rhieni fel eu bod yn gallu cefnogi addysg y plentyn yn fwy effeithiol.
- Sicrhau cyfathrebu effeithiol rhwng y rhieni â’r athro er mwyn rhannu gwybodaeth am dalentau neu ddiddordebau arbennig y plentyn.
Mae’r plentyn Mwy Abl a Thalentog yn:
- Gofyn llawer o gwestiynau ac yn dysgu yn gyflymach a haws nag eraill.
- Meddu ar gôf cyflym iawn a phwerau galw i gôf da
- Dangos gallu da i arsylwi a rhesymu, a gweld cydberthnasau a chyffredinoli o’r ychydig o ffeithiau a roddwyd.
- Meddyliwr dychmygus neu greadigol.
- Qweithiwr annibynnol da iawn.
- Chwilfrydig iawn ac yn gallu canolbwyntio am gyfnodau hir ar bynciau o ddiddordeb.
- Yn dda wrth weld, gwneud, darlunio, adeiladu neu ddylunio er yn wael am siarad, gwrando ac ysgrifennu, h.y. maent yn ddawnus gyda sgiliau ‘gweledol-ofodol’ a gallant ddangos dyfeisgarwch mecanyddol ac artistig eithriadol. Mae cydlyniad llygad a llaw dda yn arwydd o’r ystod hon o sgiliau.
- Mwynhau datrys problemau, yn aml yn hepgor y cymalau canolraddol mewn dadl ac yn gwneud cydgysylltiadau gwreiddiol.
- Ymhell ar y blaen mewn mathemateg, yn arbennig datrys problemau yn meddu dychymyg anghyffredin a all gael ei amlygu yn y modd y bydd yn ymateb i gwestiynau.
- Meddu ar gryfder ewyllys a phwrpas rhyfeddol
- Meddu ar ystod eang o ddiddordebau a gwybodaeth gyffredinol a geirfa dda iawn ac yn aml y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir o ran ei oedran.
- Dangos teimladau a barn gref
- Gall feddu ar synnwyr digrifwch da ond treiddgar neu hynod.
- Gosod safonau uchel ac mae’n berffeithydd ac yn obsesiynol ynglŷn â chywirdeb.
- Dilyn diddordebau (a gysylltir yn aml â phlant hŷn neu oedolion) gyda brwdfrydedd mawr sydd weithiau yn ymylu ar fod yn obsesiwn.
- Yn well ganddo/ganddi yn aml gemau a gysylltir â phlant hŷn neu oedolion.
- Yn aml bydd am dreulio amser gyda phlant hŷn a hefyd oedolion.
- Yn ddawnus yn foesol, yn gymdeithasol ac o ran moeseg gyda synnwyr aeddfed o oblygiadau gweithredoedd neu sefyllfaoedd. Gall hyn amlygu ei hun fel lefel uchel o sensitifrwydd ac empathi tuag at eraill.
- Gall ymddangos yn drahaus iawn ac eto yn sensitif i’r hyn a wêl fel cael ei roi’n eile .
- Ymddangos yn allblyg neu’n fewnblyg o fewn grŵp cyfoedion
- Gallu dangos nodweddion arweinydd.
Os na wneir darpariaeth ddigonol ar eu cyfer gall disgyblion Mwy Abl a Thalentog dueddu i:
- Syrffedu oherwydd nad oes digon yn cael ei ofyn ohonynt
- Ymddangos yn ddioglyd, cysglyd, ddim yn canolbwyntio, mewn breuddwyd, colli diddordeb neu ymddangos fel pe bai ganddynt sgiliau canolbwyntio byr.
- Bod ag angen llai o gwsg na’r rhan fwyaf o blant eraill o’r un oed.
- Ymddangos yn dawel, yn fewnblyg a hyd yn oed yn isel ei ysbryd.
- Tarfu ar wersi drwy fod yn sarrug neu drwy chwarae o gwmpas.
- Amharod i gydweithredu, yn anodd ei ysgogi ac yn feirniadol o athrawon a’r grŵp cyfoedion.
- Bod â sgiliau llawysgrifen a chyflwyniad sydd efallai yn llai datblygedig na’i sgiliau darllen a’i sgiliau eraill.
- Cas ganddynt wneud gwaith ar bapur oherwydd y rhwystredigaeth a achosir wrth iddynt fethu cyrraedd eu safonau uchel ac amhosibl i’w cyrraedd hwy eu hunain, mewn llawysgrifen a darlunio. Dyma lle gall TGCh fod o gymorth.
- Osgoi mynychu ysgol oherwydd achosion o salwch dychmygol.
- Tan-berfformio mewn profion a hyd yn oed profion IQ – nid yw perthnasedd y profion yn amlwg ar unwaith i’r plentyn.
Cysylltiadau Defnyddiol
Mae’r canlynol yn gyrff gwirfoddol sy’n cefnogi plant Mwy Abl a Thalentog:
National Association for Able Children in Education (NACE)
Horticulture House
Manor Court
Chilton
Didcot
OX11 0RN
info@nace.co.uk / membership@nace.co.uk
Ffôn: 01235 425000
Potential Plus UK
01908 646433
amazingchildren@potentialplusuk.org