Meddwl ar draws y cwricwlwm
Cyfathrebu ar draws y cwricwlwm
Datblygu TGCh ar draws y cwricwlwm
Datblygu rhif ar draws y cwricwlwm
Yn Ysgol Treganna rydym yn dysgu Medrau Allweddol i holl blant yr ysgol beth bynnag yw eu gallu neu anghenion unigol.
Rydym yn defnyddio y medrau allweddol fel un ffordd arall o gyflwyno cwricwlwm cyflawn ac i godi safonau a chyrhaeddiad y disgyblion.
Wrth gynllunio ar gyfer y cwricwlwm rydym yn ceisio darparu cyfleoedd dysgu ar gyfer pob disgybl yn cynnwys disgyblion sydd ag anghenion addysgol ychwanegol.
Disgwylir i’r Medrau Allweddol cael eu dysgu yn drawsgwricwlaidd trwy ddatblygu Meddwl, Cyfathrebu, TGCh a Rhif.
Amcanion y Medrau Allweddol
- I roi cyfle i bob disgybl i fod yn ddysgwr hyblyg
- I gynorthwyo disgyblion i fod yn fwy cyfrifol am eu dysgu
- I sicrhau y defnyddir y sgiliau allweddol yn effeithiol yn y cwricwlwm
- I sicrhau bod y cynllunio a dilyniant a pharhad yn effeithiol
Dysgir y Medrau Allweddol trwy holl bynciau’r cwricwlwm. Ceir dilyniant trwy ddilyn y Fframwaith Sgiliau o’r blynyddoedd cynnar hyd at ddiwedd Cyfnod Allweddol 2.
Cyfrifoldeb yr athrawon dosbarth yw cynllunio yn y canol dymor a’r byr-dymor ar gyfer y Medrau Allweddol.