Cyn pob gwibdaith disgwylir i’r trefnydd gwblhau yr holiadur diogelwch ar system EVOLVE Caerdydd.
Mae’r canllawiau hyn yn amlinellu eich ymrwymiadau a’ch cyfrifoldebau ynglŷn ag ymweliadau a gwibdeithiau ysgol. Bydd yn gymorth i chi wrth drefnu a rheoli’r risgiau iechyd a diogelwch sy’n gysylltiedig â mynd â disgyblion allan o’r ysgol.
Pwrpas gwibdeithiau ysgol;
- Symbylu datblygiad meddyliol, ysbrydol a chorfforol y plentyn
- Rhoi cyfle i’r plentyn dreulio amser yn ddeallus ac yn hapus, gan rannu profiadau gydag eraill
- Datblygu, gweithredu a throsglwyddo sgiliau allweddol mewn amgylchedd real
- Rhoi cyfle i’r plentyn ennill dyfeisgarwch, menter a hunanddibyniaeth
- Rhoi cyfle i’r plentyn feithrin cwmniaeth dda ac anhunanoldeb
- Cyflawni gofynion gorchmynion y Cwricwlwm Cenedlaethol.
Rhaid cael caniatad ysgrifenedig rhieni ar gyfer pob ymweliad oddi ar safle’r ysgol, os gwelwch yn dda. Peidiwch â derbyn caniatad llafar.
Rhaid i bob gwibdaith gynnwys un person cymorth cyntaf cymwys.
Y cymarebau disgybl/arolygwr a argymhellir gan yr AALl yw:
Meithrin 1:3
Cyfnod Sylfaen 1: 10
Cyfnod Allweddol 2 1: 15.
Bydd y gymhareb yn dibynnu ar nifer o ffactorau megis – y graddau o gyfrifoldeb a disgyblaeth a ddangosir gan y grŵp; disgyblion gydag anghenion addysgol neu feddygol arbennig; y math o weithgaredd a drefnwyd, oed a nifer y disgyblion; profiad y staff arolygu sydd ar gael.
Ym mhob achos, dyletswydd y prifathro a’r arweinydd yw sicrhau arolygaeth ddigonol ar gyfer grŵp arbennig ac ar gyfer y gweithgaredd arbennig.
Cyn ymgymryd ag unrhyw wibdaith ysgol mae’n ofynnol, yn ôl y gyfraith, i gynnal asesiad risg, ac mewn unrhyw weithgaredd lle bo elfen o risg, bydd rhaid dangos eich bod wedi ystyried ac wedi cymryd pob gofal rhesymol.
Cyn ymgymryd ag unrhyw wibdaith ysgol mae’n ofynnol, yn ôl y gyfraith, i gynnal asesiad risg, ac mewn unrhyw weithgaredd lle bo elfen o risg, bydd rhaid dangos eich bod wedi ystyried ac wedi cymryd pob gofal rhesymol.
Swyddogion Cydlynnydd Teithiau Addysgiadol yw Mr Gareth Wyn Evans a Mrs Rhiannon Roberts. Cyn mynd ar drip, rhaid cofrestru’r ymweliad ar y system EVOLVE a derbyn caniatad y Pennaeth.
Athrawon:
- Mae’n ddyletswydd arnynt i ymddwyn fel rhiant cyfrifol
- sicrhau bod y wibdaith ysgol wedi’i chynllunio a’i pharatoi’n drylwyr, gan gynnwys asesiad risg .
- mae nhw’n gyfrifol am bob disgybl sydd yn eu gofal trwy gydol y daith, a rhaid iddynt ddiogelu iechyd a diogelwch eu disgyblion
- trefn a disgyblaeth dda bob amser
- cadw rhestr o holl aelodau’r grŵp
- dosbarthu cyfrifoldeb arolygu i bob oedolyn ar gyfer disgyblion a enwir
- sicrhau bod pob oedolyn yn gwybod am ba ddisgyblion y mae’n gyfrifol
- sicrhau bod pob disgybl yn gwybod pa oedolyn sy’n gyfrifol amdanynt
- sicrhau bod pob oedolyn yn deall eu bod yn gyfrifol i arweinydd y grŵp am arolygu’r disgyblion
- sicrhau bod pob oedolyn a disgybl yn ymwybodol o’r safonau ymddygiad a ddisgwylir
- sicrhau bod gwybodaeth lawn am y trefniadau arfaethedig gan ycyswllt ysgol a bod gan y cyswllt hwnnw rifau cyswllt ar gyfer rhaglen y dydd
- sicrhau bod unrhyw feddyginiaeth arbennig ganddynt ar y daith.
Dylai arweinwyr grŵp fod â gwybodaeth flaenorol ynglŷn â‘r lleoliad a dylent fod wedi cynnal ymweliad arbrofol, lle bo hynny’n ymarferol, a cheisio gwybodaeth ynglŷn â diogelwch pob lleoliad penodol a reolir. Bydd gan nifer o leoliadau wybodaeth ynglŷn â diogelwch wedi’i pharatoi ymlaen llaw i’ch helpu i wneud eich asesiad.
Dylai arolygwyr:
- Fod â gwybodaeth resymol ynglŷn â‘r disgyblion o flaen llaw gan gynnwys unrhyw rai sydd ag anghenion addysgol, anghenion meddygol neu anableddau arbennig.
- Fod â gwybodaeth flaenorol ynglŷn â ‘r lleoliad a’r gweithgareddau arfaethedig
- Fod â chanddynt restr o holl aelodau’r grŵp
- Arolygu’r disgyblion yn uniongyrchol
- Wirio’n rheolaidd bod y grŵp cyfan yn bresennol
- Fod ganddynt syniad clir o’r gweithgareddau yr ymgymerir â hwy
- Fod â modd o gysylltu â‘r arweinydd/arolygwyr eraill os oes angen
- Ragweld unrhyw risg posibl a chyrraedd unrhyw fan peryglus cyn i’r disgyblion wneud hynny
- Ddeall gweithdrefnau argyfwng yn glir
- Fod â mynediad at gymorth cyntaf
- Fod yn gymysg, gymaint â sy’n bosibl/rhesymol, o ran rhyw pan yn hebrwng parti cymysg
- Sicrhau bod disgyblion yn gwybod beth i’w wneud os byddant yn gwahanu oddi wrth weddill y grŵp
Teithio:
- Rhaid i bob disgybl wisgo gwregys diogelwch bob amser
- Dylid cadw seddau ar gyfer arolygwyr sy’n eu galluogi i arolygu’n dda
- Dylai arolygwyr gyfrif pennau wrth fynd i mewn ac allan o’r bws a chyn gadael safle’r ymweliad
- Dylai safonau ymddygiad fod yn uchel, ac ni ddylid ymyrryd â‘r gyrrwr
- Dylai allanfeydd argyfwng fod yn glir a dylai bagiau gael eu storio’n ddiogel
- Dylid arolygu’n ddigonol bob amser wrth deithio
- Dylai’r gyrrwr aros i orffwys yn ddigon aml
- Os nad yw arweinydd y grŵp yn ystyried bod y trefniadau teithio yn addas/ddiogel, ei g/chyfrifoldeb yw i stopio’r daith.