Cyfle Cyfartal


Mae dogfennau polisi eraill sydd yn cydredeg â ‘Pholisi Cyfleoedd Cyfartal’ yr ysgol, h.y. polisïau Gwahaniaethu a’r Nod ac Amcanion sydd yn llawlyfr yr ysgol. Yn ogystal â’r tri pholisi yma mae nifer o feysydd eraill y dylid eu nodi ar wahân mewn polisi cynhwysfawr ar Gyfleoedd Cyfartal, h.y.

  1. Arddulliau dysgu.
  2. Hawl hygyrchedd i gwrs astudio llawn.
  3. Cynnydd o fewn y cwrs astudio.

1. Arddulliau dysgu

Mae rhai dulliau yn sylfaenol i arddulliau dysgu yn yr ysgol:

  • Disgyblion yn profi amrywiaeth o brofiadau/weithgareddau yn ystod cwrs astudiaeth ac o fewn gwers os yn bosib.
  • Mae nifer o gyfleoedd i weithgareddau unigol a/neu grwp. Gall gwaith grwp cydweithredol wella sgiliau cyfathrebu, cymdeithasol a meddwl beirniadol.
  • Bydd adegau pan ddysgir yr un cysyniad sylfaenol i ddosbarth cyfan – mae hyn yn datblygu sgiliau gwrando sydd yn hanfodol i addysg lwyddiannus yn y sector cynradd, uwchradd ac ymhellach.
  • Bydd staff yn annog disgyblion i weithio ar ddarn o waith dros gyfnod o amser e.e. gwaith prosiect ac ymchwiliadau ymarferol, pan fydd gwaith ymchwil yn digwydd – gan ddefnyddio’r llyfrgell o bosib.
  • Bydd staff yn annog datblygiad uwch sgiliau gan gynnwys llunio damcaniaethau, profi eraill, tynnu casgliadau o dystiolaeth ac egluro eu gwerthoedd eu hunain.
  • Bydd staff yn annog disgyblion i lunio cwestiynau eu hunain a chwilio am atebion iddynt.

2. Yr hawl i hygyrchedd i’r cwrs cyfan

Bydd rhai disgyblion yn gweithio’n gynt neu/ac yn gwneud mwy o waith estynnol nac eraill. Gwahaniaethu yw’r modd y mae gwahanol ddisgyblion yn llwyddo i gael gwahanol ganlyniadau a gwahanol lefelau. Bydd penderfyniad yr athro/awes dosbarth i symud disgybl i lefel uwch yn dibynnu’n llwyr ar y datblygiad dirnadol a gyrhaeddir gan y disgybl ac nid gan oedran y disgybl.

3. Cynnydd o fewn y cwrs astudiaeth

Mae goblygiad i’r modd y trefnir y Cwricwlwm Cenedlaethol, yn hierarchaeth amlwg y lefelau, bod disgyblion yn dysgu cysyniadau sylfaenol mewn modd llinol. Nid yw hyn fodd bynnag wastad yn wir ac mae angen gofal mawr pan yn llunio cynllun gwaith. Rydym yn derbyn bod rhai disgyblion yn gwneud cynnydd trwy’r lefelau sy’n ymddangos yn eratig. Oherwydd hyn mae ein Cynllun Gwaith yn system sbiral/cynyddol sydd, cyn belled â bo hynny’n bosib, yn caniatáu ail ymweld â chysyniadau.