- Fe fydd nifer o gyfrifiaduron neu llyfrau chrome yn eich dosbarth wedi cysylltu â’r rhyngrwyd. Fe fydd eich athro/awes wedi trafod canllawiau defnyddio gyda chi. Dylech gofio y rheolau syml yma ar bob adeg
- Defnyddiwch eich ffeiliau personol yn unig
- Fe fydd pob defnydd o’r we yn cael ei fonitro a’i oruchwylio yn ofalus.
- Peidiwch ymgeisio i fynd ar lein heb ganiatad eich athro/awes
- Ni chaniateir E-bost unigol na defnydd o ystafelloedd sgwrsio ar lein ( ar wahan i Hwb) ar rwydwaith yr Ysgol. Peidiwch roi eich enw, cyfeiriad, rhif ffon neu drefnu cwrdd ag unrhywun ar lein
- Ni ddylech lawrlwytho o unrhywle arall heb ganiatâd eich athro/awes
- Mae’r rhyngrwyd yn fyd cyhoeddus iawn. Anfonwch negeseuon sydd yn gwrtais a synhwyrol ar bob adeg
- Dywedwch wrth eich athro/awes neu eich rhieni yn syth os byddwch yn derbyn unrhyw neges neu yn dod ar draws unrhyw ddefnydd ych a fi.
- Os nad ydych yn sïwr – dywedwch beth bynnag. Fe fydd Athrawon yn trin eich sylw yn dawel a chyfrinachol ac fe fyddwch wedi cyfrannu at wneud y rhyngrwyd yn lle gwell ar gyfer holl blant Caerdydd.
Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn Nhreganna