Newyddion

Ceisiadau am lleoedd mewn ysgolion cynradd ym mis Medi 2021

Derbynnir ceisiadau am lleoedd mewn ysgolion cynradd ym mis Medi 2021 heddiw ac mae ymgyrch newydd wedi’i lansio i roi arweiniad i rieni sy’n gwneud cais am le.Mae Tîm Derbyn i Ysgolion Cyngor Caerdydd wedi llunio 7 awgrym da i helpu teuluoedd gan esbonio sut mae’r broses dderbyn yn gweithio, pwysigrwydd defnyddio’r holl ddewisiadau sydd ar gael a pham y dylent wneud cais mewn pryd.

Mae’r ymgyrch yn cynnwys animeiddiad newydd ar gyfer plant a theuluoedd, sy’n helpu i esbonio’r 7 gair o gyngor. Mae’n ymdrin â phethau megis:

·         Pwysigrwydd gwneud cais yn brydlon, erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig.

·         Manteision ystyried yr holl ysgolion yn ardal y plentyn trwy edrych ar eu gwefannau a darllen eu hadroddiadau

·         Yr angen cynnwys rhestr lawn o ddewisiadau ysgol yn y ffurflen gais gyntaf er mwyn cynyddu’r posibilrwydd o gael lle yn ysgol eich dewis gan sicrhau bod y ffurflen gais yn cynnwys gwybodaeth hanfodol megis a oes gan y plentyn frawd neu chwaer yn yr ysgol neu unrhyw anghenion dysgu, meddygol neu gymdeithasol ychwanegol.

Ceir gwybodaeth hefyd am sut i wneud apêl os chewch gynnig lle yn ysgol eich dewis.

I weld y 7 gair o gyngor a’r animeiddiad ewch i

Bydd y cyfnod ceisiadau am le mewn ysgolion cynradd yn dod i ben ddydd Llun 11 Ionawr, 2021. I wneud cais am le mewn ysgol, ewch i: http://www.caerdydd.gov.uk/derbyniysgolion

Mae’r wybodaeth hefyd ar gael ar y dudalen we mewn sawl iaith gan gynnwys Arabeg, Tsieceg, Rwmaneg, Portiwgaleg, Pwyleg, Somalïeg a Bengaleg. Diolch yn arbennig i academyddion Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd sydd wedi cefnogi’r ymgyrch drwy drosleisio’r animeiddiad mewn ieithoedd eraill.