Newyddion

Help os gwelwch yn dda!

Annwyl Riant / Warcheidwad ,

 

Help os gwelwch yn dda!

 

Gawn ni ofyn i chi anfon llun (fel isod) o’ch plentyn yn dal llun o’r enfys? Gwnewch yn siŵr ein bod yn medru gweld eu hwynebau. Mae’n bosib fod gennych un yn eich ffenest eisoes. A wnewch chi anfon ataf erbyn  4.00pm dydd Gwener os gwelwch yn dda? Hoffwn greu collage o’r dosbarth fel syrpreis i’r plant.

Athrawon Blwyddyn 3 Year teachers

Hwb Treganna

Annwyl Riant / Warcheidwad,

Oherwydd cynnydd mewn niferoedd fe fyddwn yn sefydlu hwb newydd yn Nhreganna wythnos nesaf 27/04/2020. Fe fydd amseroedd a threfniadau’r Hwb yn debyg iawn i Lan Ceubal ond fe fydd y lleoliad yn newid.

Er mwyn i ni gynllunio darpariaeth staff addas ar gyfer yr wythnos, ga’i ofyn i chi gwblhau’r ffurflen gais yma mor fuan ag y bo modd ond erbyn amser cinio dydd Gwener fan pellaf.

https://kwiksurveys.com/s/GtGpoE8W

Yn gywir,

Rh G Harries BA MSc

Pennaeth