Helo!
Wythnos brysur arall ym Mlwyddyn 3! Da iawn chi am eich ymdrech arbennig yn holl ymarferion y sioe, ac ar ben hynny, am ysgrifennu erthyglau papur newydd arbennig am Pompeii! Rydych chi’n wych!
SIOE NADOLIG – Daliwch ati i ymarfer y geiriau a’r caneuon ar Teams yn barod ar gyfer wythnos nesaf. GWISG – siwmperi Nadolig a jins / gwaelodion du. Dim penwisg – byddwn yn darparu rhain yn yr ysgol. Dewch a’r wisg erbyn dydd Llun (09/12/19), fan bellaf, os gwelwch yn dda.
Trip ysgol – mae ein Peiriant Amser yn paratoi i deithio i weld y Celtiaid, felly ar Ragfyr 19eg fe fyddwn ni’n mynd i Sain Ffagan. Os gwelwch yn dda fedrwch chi roi caniatad ar ParentPay.
Annwyl blant,
• Darllen
• Dysgu geiriau Step Star a Red Words
• Tablau – ymarfer TT Rockstars. Rydyn ni eisoes wedi dysgu tabl 2, felly rydyn ni’n barod i ddechrau dysgu tabl 4 bellach. Cofiwch mai dwbl 2 yw 4, felly os ydyn ni’n gwybod mai 3 x 2 yw dwbl 3, rydyn ni’n gwybod mai 3 x 4 yw dwbl 3 ac yna dwblu’r ateb eto. Felly – 3 x 2 = 6 sydd yn golygu bod 3 x 4 = 12
Geiriau Step Star – ay sound
day
bay
say
hay
play
way
stay
away
delay
Tuesday
Red words
of
your
by
Mwynhewch y penwythnos!
Staff Blwyddyn 3