Gwersi Rhyw a Pherthynas

Blwyddyn 3

  • Gwers 1: ‘Perthnasoedd – beth yw ffrind da?’
  • Gwers 2: ‘Cyfeillgarwch – Datblygu empathi’
  • Gwers 3: ‘Pethau tebyg ac annhebyg rhwng bechgyn a merched.’ Edrych ar ystrydebau bachgen/merch, cyflwyno’r brif wahaniaeth corfforol rhwng ‘bechgyn’ a ‘merched’ drwy luniau o fabanod, heb ddefnyddio iaith ffurfiol am organau rhywiol
  • Gwers 4: ‘Cyffwrdd priodol ac amhriodol’

Blwyddyn 4

  • Gwers 1: ‘Gwahaniaethau teuluol – Beth yw teulu?’
  • Gwers 2: ‘Cylch bywyd pobl’ a chyfrifoldebau’n newid
  • Gwers 3: ‘Gwahaniaethau corfforol rhwng bechgyn a merched.’ Enwi rhannau o’r corff. Defnyddio enwau cywir am rannau o’r corff gan gynnwys yr organau rhywiol
  • Gwers 4: ‘Tyfu i fyny a bod yn ddiogel’ – mae gan bob plentyn yr hawl i deimlo’n ddiogel, gwybod o le i gael cymorth a chyngor os yw’n teimlo’n anniogel

Blwyddyn 5

  • Gwers 1 – ‘Cyfeillgarwch’ – Mae pethau tebyg ac annhebyg rhwng pobl yn cyfrannu at amrywiaeth o ran cyfeillgarwch
  • Gwers 2 – ‘Newidiadau corfforol yn y glasoed’
  • Gwers 3 – Y Glasoed – Grwpiau Bechgyn/Merched – Y misglwyf, newidiadau i fechgyn. Gwersi ar wahân i fechgyn a merched fel bod modd ateb cwestiynau manylach
  • Gwers 4 – ‘Y Glasoed – systemau

Blwyddyn 6

  • Gwers 1 – ‘Perthnasoedd – Beth yw cariad?’
  • Gwers 2 – ‘Y Glasoed – pwysigrwydd hylendid corfforol’. Ystyried newidiadau emosiynol hefyd
  • Gwers 3 – ‘Atgenhedlu’ – Adolygu rhannau o’r corff, trafod cenhedlu
  • Gwers 4 – ‘Perthnasoedd, cenhedlu a beichiogrwydd’. Gweithgareddau mewn perthnasoedd,  adolygu cenhedlu, ystyried datblygiad babanod, bod yn iach yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth a bwydo’r babi