Gwybodaeth bwysig i rieni a gofalwyr

Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae o ran sicrhau bod ein hysgolion yn gallu aros ar agor. 

Erbyn hyn mae rhestr estynedig o symptomau COVID-19 wedi’i llunio ac mae profion ar gael i blant a theuluoedd sy’n eu profi.  Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin diweddaraf i gael rhagor o wybodaeth am y symptomau estynedig a negeseuon pwysig eraill am ddechrau’r ysgol. https://www.cardiff.gov.uk/dychwelydirysgol

Wrth i bob disgybl ddychwelyd, helpwch i gadw ein hysgolion yn ddiogel ac yn agored. Er mwyn i hyn ddigwydd, cadwch eich hun, eich teuluoedd a staff ein hysgol yn ddiogel drwy ddilyn y rheolau hyn:

 

? Gwisgwch orchudd wyneb yn ystod amseroedd gollwng a chasglu

Cadwch 2️ fetr ar wahân i eraill

 Peidiwch â chyrraedd yn gynnar i ollwng/ codi eich plentyn er mwyn osgoi gormod o bobl yn casglu wrth gatiau’r ysgol

️Dylech osgoi ymgynnull gyda rhieni eraill o amgylch mynedfeydd yr ysgol a gadewch yn syth ar ôl yr amseroedd gollwng neu gasglu. Peidiwch â chael eich temtio i aros i sgwrsio

? Cerddwch neu ewch ar sgwter neu feic lle bo modd

? Os oes rhaid i chi yrru, parciwch ymhell i ffwrdd o’r ysgol a cherddwch weddill y ffordd

?️I helpu gyda diogelwch disgyblion a mesurau cadw pellter cymdeithasol, peidiwch â pharcio ar y palmant

? Peidiwch â derbyn cynnig o lifft i’r ysgol gan rieni eraill, oni bai nad oes gennych ddewis arall

? Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn deall pwysigrwydd golchi ei ddwylo’n rheolaidd

Cofiwch hefyd:

️ Peidiwch ag anfon eich plentyn i’r ysgol os yw’n teimlo’n sâl, hyd yn oed os nad ydych yn siŵr ai Coronafeirws ydyw.

️ Peidiwch ag anfon eich plentyn i’r ysgol os ydy e/hi neu unrhyw un arall yn yr aelwyd yn dangos unrhyw un o symptomau COVID-19

️ Peidiwch ag anfon eich plentyn i’r ysgol os ydy e/hi neu unrhyw un arall yn yr aelwyd yn aros am ganlyniad prawf

️ Peidiwch ag anfon eich plentyn i’r ysgol os ydy e/hi wedi’i nodi fel cyswllt agos ag achos COVID-19 a gadarnhawyd.

Er bod ysgolion yn ailagor i rai disgyblion, nid yw Coronafeirws wedi diflannu. Atgoffwn rieni a gofalwyr na chaniateir cymysgu y tu allan i’r ysgol o hyd, hyd yn oed os ydynt yn yr awyr agored a hyd yn oed os yw plant yn yr un swigod yn yr ysgol.

Mae hyn yn cynnwys cysgu dros nos, partïon a sesiynau chwarae gan y gallai hyn gynyddu lledaeniad y feirws ac arwain at fwy o gyfyngiadau.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gadw’n ddiogel a chadw ysgolion ar agor, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin i rieni a disgyblion sydd wedi’u diweddaru: https://www.cardiff.gov.uk/dychwelydirysgol