Gwaith Cartref 6.11.20

Helo flwyddyn 6,

Mae wedi bod yn braf iawn eich croesawu yn ôl yr wythnos hon a gweld y cynnydd mawr rydych chi i gyd wedi ei wneud gyda’r gwaith ffracsiynau yn ein gwersi mathemateg.

Patagonia sydd wedi bachu’r diddordeb yn y dyddiau diwethaf ac mi rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu ein sgiliau ysgrifennu ymhellach wythnos nesaf wrth i ni ysgrifennu dyddiadur o berspectif y Cymry.

Eich gwaith cartref dros y penwythnos yma, ac y penwythnos nesaf, yw i baratoi ar gyfer tasg llafar Gymraeg. Rydym yn gofyn i chi ystyried pwy yw’r arwr mwyaf ysbrydoledig, yn eich barn chi, a pham?

Gall yr arwr yma fod yn rhywun rydyn ni wedi astudio yn ystod y tymor, neu yn rhywun o’r rhestr isod.

  • Malala
  • Paul Robeson
  • Martin Luther King
  • Rosa Parks
  • Michael D Jones
  • Shirley Bassey
  • Tanni Grey-Thompson
  • Betsi Cadwaladr

Os ydych yn awyddus iawn i gyflwyno am arwr gwahanol i’r rhestr uchod, gwnewch yn siwr nag ydych wedi gwneud gwaith cartref ar y person o’r blaen.

Hoffwn i chi ymchwilio i gefndir y person, a darganfod pa heriau maent wedi gorfod goresgyn er mwyn llwyddo. Pa rinweddau maent wedi datblygu ac arddangos? Pam ydych chi’n creu eu bod nhw’n ysbrydoledig? Yn eich barn chi, sut maen nhw’n cymharu gydag arwyr eraill? Pam ydyn nhw’n fwy ysbrydoledig i chi? Beth sydd yn eu gwneud yn unigryw?

Cofiwch: pan yn cyflwyno ar lafar, mae’n bwysig eich bod yn gyfarwydd gyda’r hyn rydych chi am ei rannu. Ceisiwch ddysgu’r hyn rydych eisiau dweud, a defnyddio ‘cerdiau fflach’ neu pwyntiau bwled byr ar sgrin er mwyn eich atgoffa. Dydyn ni ddim eisiau eich bod yn darllen o’r sgrin neu o sgript. Mae gwneud cyswllt llygad gyda’r gynulleidfa yn bwysig. Byddai’n well gennym petaech yn dweud llai, ond wedi dysgu’r hyn sydd gennych i’w rannu, yn hytrach na darllen sgript hir!

Byddwch yn ofalus iawn os ydych chi’n defnyddio Google Translate. Darllenwch dros yr hyn mae’n awgrymu.

 

Geirfa bosib i’ch helpu wrth fynegi barn a chymharu:

Yn fy marn i,…

Does dim amheuaeth mai….

Mae yna sawl rheswm….

Mae’n amlwg bod….

Er bod……,

Tra bod…..,

Yr hyn sydd fwyaf trawiadol am …[ENW]… yw…………

Y peth sydd yn fy ysbrydoli fwyaf am [ENW] yw………

 

Rydym yn gobeithio cynnal y dasg hon fel rhyw fath o ‘sgwrs / trafodaeth ddosbarth’ (debate). Felly bydd eich cyflwyniadau chi yn sbardun trafod i weddill y dosbarth ac felly bydd eich ffrindiau yn gallu gofyn cwestiynau ac eich herio ar ddiwedd eich cyflwyniad. Byddwch yn barod i sefyll dros yr hyn rydych chi’n ei gredu a, bwysicaf oll, rhoi rhesymau dros eich barn [felly defnyddiwch “oherwydd…”].

 

Mwynhewch y penwythnos ac ymlaciwch!

Athrawon blwyddyn 6