Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r Llywodraethwyr wedi bod yn trafod gyda swyddogion y Cyngor eu pryderon am agweddau ynglŷn â’r traffig ar y ffordd i’r Ysgol, tra bod yr Ysgol wedi bod yn gweithio ar ddatblygu Cynllun Ysgol Teithio Llesol. Yn sgil y trafodaethau mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gweithio ar gynlluniau i wella’r strydoedd o gwmpas yr Ysgol ac yn barod nawr i dreialu cynllun dros dro er mwyn lledaenu’r palmant o dan y bont rhwng Heol Lansdowne a Broad Street fel ei fod yn fwy diogel ar gyfer disgyblion sy’n cerdded ac yn beicio i’r Ysgol. Dyma lythyr oddi wrth y Cyngor yn egluro bydd y cynllun dros dro yn cychwyn ar ddydd Llun 29 Mehefin am gyfnod o chwe mis. Gobeithio bydd hyn yn eich annog i gerdded wrth ddod a’r plant i’r Ysgol yn ystod yr wythnosau nesaf.