Cyflwyniad
Mae bwlio’n effeithio pawb nid yn unig y bwlis a’r dioddefwyr. Mae hefyd yn effeithio’r plant eraill hynny sy’n gwylio, a gall disgyblion llai ymosodol gael eu denu i mewn dan wasgedd grŵp. Nid yw bwlio’n rhan annatod o fywyd ysgol nac yn rhan hanfodol o dyfu i fyny, ac anaml iawn mae’n datrys ei hun.
Mae’n amlwg bod jôcs arbennig, sarhad, ymddygiad neu sylw hiliol, ymddygiad brawychus/ bygythiol enllib ysgrifenedig a thrais i’w canfod yn ein cymdeithas.
Ni ddylai un person neu grŵp, boed yn staff neu ddisgybl, orfod derbyn y math hwn o ymddygiad. Dim ond pan wynebir pob mater o fwlio y medra blentyn elwa orau o’r cyfleoedd sydd ar gael yn yr Ysgol.
Pam y mae polisi gwrth-fwlio’n angenrheidiol?
Mae’r Ysgol Treganna yn credu fod gan ein disgyblion yr hawl i ddysgu mewn awyrgylch cynhaliol, gofalgar a diogel, heb ofn cael eu bwlio.
Mae pob sefydliad, boed yn fawr neu’n fach, yn cynnwys ambell ddisgybl â’r potensial i fwlio. Os yw ysgol yn ddisgybledig ac yn drefnus iawn, mae’n gallu lleihau’r posibilrwydd o fwlio’n digwydd. Mae gan yr Ysgol hefyd, bolisi clir ynglŷn â hybu dinasyddiaeth dda, a gwneir yn eglur yn y polisi fod bwlio’n ffurf o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ni chaiff ei oddef.
Mae’n bwysig, felly, fod gan yr Ysgol bolisi ysgrifenedig clir i hyrwyddo’r gred hon, ble mae disgyblion a rhieni/gwarcheidwaid, yn ogystal, yn llwyr ymwybodol y caiff cwynion am fwlio eu trin yn gadarn, yn deg ac yn brydlon.
Adolygu Polisi Bwlio
Mae adolygu’r polisi bwlio yn flaenoriaeth yn y Cynllun Datblygu Ysgol presennol
Polisi Herio Bwlio a Hiliaeth 23