Achosion o’r frech goch ynf Nghaerdydd

Gwybodaeth i rieni a gofalwyr am achosion o’r frech goch a brechiad MMR

Ar 1 Tachwedd cyhoeddwyd bod achosion o’r frech goch yng Nghaerdydd. Mae saith o blant wedi cael cadarnhad bod ganddyn nhw’r frech goch dros y chwe wythnos ddiwethaf, ac mae’n bosib y bydd mwy o achosion yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf. Mae rhagor o wybodaeth am y frech goch ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. www.icc.gig.cymru/pynciau/y-frech-goch/

Mae cymhlethdodau oherwydd haint y frech goch yn gyffredin, gydag 1 o bob 10 plentyn angen mynd i’r ysbyty oherwydd cymhlethdodau difrifol fel niwmonia a meningitis.  Yn anffodus, ar gyfer pob 1000 o achosion o’r frech goch, mae o leiaf un farwolaeth oherwydd cymhlethdodau gyda’r haint.

Mae’r frech goch yn heintus iawn, a’r unig ffordd o atal achosion yw drwy frechiad MMR.  Mae’r brechlyn yn ddiogel, yn gyflym ac yn effeithiol.  Rhoddir dau ddos o’r brechlyn, y cyntaf yn 12 mis oed a’r ail ychydig ar ôl tair oed. Fodd bynnag, nid yw byth yn rhy hwyr i ddal i fyny, felly os yw plentyn wedi colli ei frechlyn MMR gall ei gael yn ei feddygfa.

Nid oes angen i blant sydd wedi cael un dos, ond nad ydynt eto’n ddigon hen i fod wedi cael ail ddos ar ôl 3 oed ei gael cyn hynny. Mae oedolion nad ydynt erioed wedi cael y frech goch neu’r brechlyn MMR ac sydd mewn cysylltiad agos â phlant yn cael eu hannog i siarad â’u meddyg teulu am gael eu brechu. Dyma rai cwestiynau cyffredin am y brechlyn MMR:

  • Beth mae’r brechlyn yn ei gynnwys ac a yw’n ddiogel?

Mae brechlynnau’n cynnwys nifer o gynhwysion gwahanol sy’n sicrhau eu bod yn gallu gweithio’n effeithiol.  Mae rhai brechlynnau’n cynnwys meintiau bach iawn o firysau neu facteria sydd wedi’u gwanhau. Nid oes perygl i bobl iach ddal unrhyw afiechyd o frechlyn.  Mae’r cynhwysion yn ddiogel ac yn cael eu rheoleiddio gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd.

  • A oes gelatin yn y brechlyn MMR?

Mae un brechlyn MMR a ddefnyddir yn y DU (MMR VaxPro) yn cynnwys symiau bach o gelatin o deulu’r mochyn (porc). Mae brechlyn MMR amgen heb gelatin (Priorix) ar gael, gofynnwch i’ch meddyg teulu. Mae mwy o wybodaeth am frechlynnau a gelatin o’r teulu mochyn ar gael yma.

  • A yw’r brechlyn MMR yn achosi sgîl-effeithiau?

Fel pob brechlyn, mae rhai sgîl-effeithiau ysgafn yn bosibl, fel braich tost neu dwymyn bach, ond ni ddylai’r rhain bara mwy nag ychydig ddyddiau.  Rhowch barasetamol hylifol i blant os bydd angen.  Noder: peidiwch â rhoi aspirin i blant o dan 16 oed oni bai y caiff ei ragnodi gan feddyg.

Anogir pob rhiant a gofalwr i wirio a yw eu plentyn wedi cael eu brechlyn MMR fel y dylent, ac os oes angen, dylent wneud apwyntiad gyda’u meddygfa.

Am ragor o wybodaeth am bob brechiad yn ystod plentyndod, gan gynnwys taflenni ac animeiddiadau am wahanol frechlynnau, ewch i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. https://bipcaf.gig.cymru/imiwneiddio-plentyndod/

Ffoniwch y Tîm Iechyd Plant i weld a yw’ch plentyn yn gyfredol. 029 2090 7664 / 029 2090 7661

CWESTIYNAU CYFFREDIN