Newyddion

Traffic ar y ffordd i’r Ysgol

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r Llywodraethwyr wedi bod yn trafod gyda swyddogion y Cyngor eu pryderon am agweddau ynglŷn â’r traffig ar y ffordd i’r Ysgol, tra bod yr Ysgol wedi bod yn gweithio ar ddatblygu Cynllun Ysgol Teithio Llesol.  Yn sgil y trafodaethau mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gweithio ar gynlluniau i wella’r strydoedd o gwmpas yr Ysgol ac yn barod nawr i dreialu cynllun dros dro er mwyn lledaenu’r palmant o dan y bont rhwng Heol Lansdowne a Broad Street fel ei fod yn fwy diogel ar gyfer disgyblion sy’n cerdded ac yn beicio i’r Ysgol.  Dyma  lythyr oddi wrth y Cyngor yn egluro bydd y cynllun dros dro yn cychwyn ar ddydd Llun 29 Mehefin am gyfnod o chwe mis.  Gobeithio bydd hyn yn eich annog i gerdded wrth ddod a’r plant i’r Ysgol yn ystod yr wythnosau nesaf.

 

TRA121320 Pavement Widening Parent’s Letter

Cyfarfodydd Arlein

Mae angen i chi logio mewn i J2E ar Hwb ac agor “Ffeiliau wedi’u rhannu”i weld amserlen cyfarfodydd arlein eich dosbarth