Newyddion

Canllawiau Newydd Covid-19 01/11/2021

Crynodeb o Ganllawiau Newydd Covid-19 01/11/2021

CARTREF

Wedi brechu’n llawn neu rhwng 5 ac 17 oed
Os bydd unrhywun yn y cartref â symptomau neu wedi profi’n bositif, rhiad hunanynysu a chymryd prawf PCR. Os yw’r prawf yn negatif,daw’r hunanynysu i ben. Bydd angen parhau’n wyliadwrus am unrhyw symptomau newydd, a cheisio osgoi cyswllt yn y tymor byr gyda phobl bregus.

Plant o dan 5 oed sydd â symptomau COVID-19 heb brawf
Mae’r Llywodraeth yn cynghori na ddylai’r plant hynny fynd i’r ysgol neu i leoliad gofal plant hyd nes y byddant yn gwella.
Gall blant 0 -4 oed gael prawf os yw rhieni’n teimlo bod angen prawf PCR

Rhieni
Plentyn sydd â symptomau neu sydd wedi cael canlyniad positif
Dylai rhieni a gwarcheidwaid osgoi symud plentyn sydd â symptomau COVID-19 neu sydd wedi cael canlyniad positif rhwng aelwydydd.

Os yw rhieni a gwarcheidwaid yn rhannu cyfrifoldeb dros y plentyn, dylai’r plentyn aros gydag un teulu am y cyfnod mae angen iddo hunanynysu.