Newyddion

Ysgol Gyfun Medi 2023

At sylw pob rhiant sydd â phlant ym mlwyddyn 5 ar hyn o bryd.

Annwyl Rieni,

Bydd angen i chi wneud cais am le i’ch plentyn mewn ysgol uwchradd yn ystod ei dymor/ei thymor cyntaf ym mlwyddyn 6.

Eich cyfrifoldeb chi yw cyflwyno cais eich plentyn mewn pryd. Dechreuwch ymchwilio’n gynnar a byddwch yn barod.

Dros yr haf, dylech ddechrau ystyried pa ysgolion uwchradd yr hoffech wneud cais amdanynt.  Rydym yn argymell eich bod yn nodi 5 dewis (neu 3 os am addysg cyfrwng Cymraeg yr ydych yn gwneud cais).  Mae gwybodaeth am yr ysgolion ar gael ar wefan y Cyngor: www.caerdydd.gov.uk

Sut mae’r broses ymgeisio’n gweithio

  • Er mwyn i’ch plentyn gael lle mewn ysgol uwchradd, RHAID i chi gyflwyno cais.
  • Rhaid i geisiadau gael eu gwneud ar-lein yn caerdydd.gov.uk/derbynuwchradd – gall eich Hyb lleol eich helpu gyda’r broses hon os hoffech ragor o arweiniad.
  • Gallwch wneud cais o ddydd Llun 26 Medi 2022 tan ddydd Llun 28 Tachwedd 2022 (y ‘dyddiad cau’).
  • Os gwnewch gais ar ôl y dyddiad cau, efallai y bydd yr ysgolion rydych yn eu ffafrio eisoes yn llawn.
  • Mae modd lanlwytho dogfennau ategol yr hoffech iddynt gael eu hystyried yn ystod eich cais.
  • Os ydych am i’ch cais gael ei ystyried yn ôl meini prawf sy’n cynnwys sail feddygol, cymdeithasol neu fod wedi derbyn gofal yn flaenorol, mae’n hollbwysig eich bod yn darparu dogfennau ategol cyn y dyddiad cau

A wyddech chi?

  • Nid yw byw yn y dalgylch neu’n agos at yr ysgol na brawd neu chwaer hŷn yn yr ysgol yn gwarantu lle.
  • Nid yw dewis un ysgol yn unig ar y ffurflen yn ei gwneud yn fwy tebygol y cewch le yn yr ysgol honno.
  • Bob blwyddyn mae nifer o ysgolion yn denu mwy o geisiadau nag y mae lleoedd ar gael.
  • Mae modd dysgu mwy am ysgol drwy fynd i’w nosweithiau agored, trefnu ymweliad â hi, edrych ar ei gwefan a darllen adroddiadau Estyn amdani.
  • Nid oes gwarant y cewch le yn eich dewis cyntaf. Gallwch, a dylech, nodi pum dewis ysgol wrth ymgeisio.   Ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg, mae tair ysgol yn y ddinas. Rydym yn argymell eich bod yn nodi’r tair, yn nhrefn eich dewis.

Gwybodaeth bwysig y dylech ei hystyried

  • Mae pob ysgol uwchradd yng Nghaerdydd fel arfer yn cynnal nosweithiau agored i chi ymweld â nhw, nid yw rhai ysgolion wedi cadarnhau dyddiadau eto ar gyfer tymor yr hydref 2022. Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â’r ysgol yn uniongyrchol os nad yw dyddiad wedi’i restru ar y llyfryn derbyn i ysgolion 2023/24, byddant yn gallu eich cynghori ar eu trefniadau.
  • Ymgyfarwyddwch â meini prawf gordanysgrifio pob ysgol. Rydym yn dilyn y meini prawf i benderfynu i bwy y gallwn gynnig lleoedd pan fo mwy o geisiadau nag y mae lleoedd mewn ysgol.  Rydym yn defnyddio’r un meini prawf ar gyfer pob ysgol uwchradd gymunedol ond mae ysgolion Sefydledig a Ffydd yn defnyddio eu meini prawf eu hunain. Mae manylion am y rhain yn y llawlyfr Gwybodaeth i Rieni – gellir lawrlwytho hwn yn caerdydd.gov.uk/derbynuwchradd.
  • Os ydych yn gwneud cais i Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf, Ysgol Uwchradd Corpus Christi neu Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, bydd angen i chi ymgeisio ar-lein A chwblhau a dychwelyd eu ffurflen ategol. Ar gyfer pob ysgol Ffydd arall yng Nghaerdydd, bydd angen i chi ymgeisio’n uniongyrchol i’r ysgol.

Gallai eich plentyn gerdded, beicio neu fynd ar fws i’r ysgol. Ydych chi wedi ystyried sut y bydd yn cyrraedd yr ysgol?

 

 

Newidiadau i brosesau derbyn i ysgolion uwchradd ar gyfer plant â datganiadau o anghenion addysgol arbennig (AAA)

Yn ystod y flwyddyn academaidd 2022-23, bydd disgyblion ym Mlwyddyn 6 sydd â datganiad AAA yn cael eu trosglwyddo i’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd.  (I gael rhagor o wybodaeth am y broses hon gallwch siarad â’ch Cydlynydd ADY yn yr ysgol, ewch i’r wefan cardiffeducationservices.co.uk neu cysylltwch â Llinell Cyngor a Chymorth ADY ar 029 2087 2731.)

Bydd angen i ddysgwyr Blwyddyn 6 sydd â datganiad wneud cais am le mewn ysgol brif ffrwd drwy’r broses derbyn i ysgolion uwchradd.   Bydd yr Awdurdod Lleol yn parhau i ystyried a chytuno ar leoliadau ysgol ar gyfer y dysgwyr hynny y nodwyd bod angen lleoliad arbenigol arnynt yn ystod eu Hadolygiad Blynyddol AAA Blwyddyn 5.

 

Os ydych am wybod mwy am wneud cais am le mewn ysgol uwchradd, ewch i www.caerdydd.gov.uk/derbynuwchradd neu ewch i’ch Hyb lleol lle gall staff egluro mwy wrthoch chi am y broses dderbyn.

Twrnamaint Pêl droed yr Urdd £4 10/05/2022

Twrnamaint Pêl droed yr Urdd                                             £4                    10/05/2022

Fe fydd nifer o dimoedd yn cystadlu yn y twrnamaint pel droed ar ddydd Mawrth.  Cawsom glywed gan yr Urdd heddiw bod y rowndiau terfynol yn digwydd yn hwyrach yn ystod y prynhawn. Os digwydd i un o’r timoedd lwyddo i gyrraedd y rowndiau, fe fydd angen i rieni gasglu ar ddiwedd y cystadleuaeth. Byddwn yn anfon neges testun at eich ffon gyda manylion y trefniadau casglu Ocean Way.

Os nad oes modd i chi gasglu na threfnu lifft, gadewch i ni wybod er mwyn i ni drefnu eilyddion os gwelwch yn dda.

 

Rhys Harries

Canllawiau Diweddaraf Covid 31/03/2022

Annwyl Rieni/Warcheidwaid

Yn dilyn y newidiadau diweddar mewn deddfwriaeth yn ymwneud â Covid-19, dyma ysgrifennu atoch a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae ein hysgol yn parhau i gwrdd â’r her parhaus a gyflwynir gan y firws.

Mae cyfraddau achosion yn rhanbarth Caerdydd a’r Fro wedi bod yn cynyddu dros yr ychydig wythnosau diwethaf. Mae’r cynnydd mewn achosion yn parhau i gyflwyno heriau o ran staffio ac, fel y dewis olaf, efallai y bydd achosion o gau dosbarthiadau oherwydd hunan-ynysu a salwch ac ati. er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar ddisgyblion.

O ddydd Llun, 28 Mawrth, nid yw’r gofyniad cyfreithiol ar gyfer hunanynysu a defnyddio gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus bellach mewn grym. Fodd bynnag, er bod y ddeddfwriaeth wedi newid, nid yw’r Canllawiau Gweithredol cyfredol i ysgolion wedi newid. Nid yw Covid-19 wedi diflannu ac mae’n parhau i gyflwyno heriau. Er ein bod yn parhau i weithio drwy’r cyfnod pontio yn unol â strategaeth Llywodraeth Cymru o fyw gyda Covid-19, fe’ch cynghorir yn gryf o hyd i unrhyw un sydd â symptomau clasurol Covid-19 barhau i gymryd prawf, a hynny er budd iechyd y cyhoedd, mae unrhyw un sydd â phrawf positif yn parhau i hunan-ynysu. Gellir dod o hyd i fanylion y canllawiau cyfredol mewn perthynas â hunanynysu ar-lein yn www.gov.wales/self-isolation.

Ar hyn o bryd, gofynnir i unrhyw ddisgybl sy’n profi’n bositif gyda Covid-19 beidio â mynychu’r ysgol. Mae hyn oherwydd y bydd haint Covid-19 yn cael ei drin fel unrhyw glefyd trosglwyddadwy arall (e.e., Norofeirws) a gall yr ysgol argymell rhai mesurau i amddiffyn iechyd a diogelwch disgyblion a staff eraill. Nid yw hwn yn waharddiad ond yn absenoldeb awdurdodedig.

Mae ysgolion yn parhau i weithredu yn unol â Fframwaith Penderfyniadau Lleol Covid-19 Llywodraeth Cymru. Byddwn yn parhau i fonitro ac adolygu trefniadau Covid-19 yn rheolaidd ac rydym yn derbyn ymatebion cymesur yn seiliedig ar gyfraddau heintiau lleol, i gydbwyso’r angen am ddysgu wyneb yn wyneb, a chadw ein hysgolion yn amgylchedd diogel.

Gallwch ein helpu i barhau i darfu ar drosglwyddo’r feirws drwy:

  • Hunan-ynysu pan fyddwch chi’n teimlo’n sâl
  • Gwisgo masgiau mewn lleoliadau llawn a phrysur
  • Cadw eich brechiadau yn gy6redol

Mae parhau a threfniadau  amddiffynnol yn bwysig a bydd yn helpu i leihau amlygiad a lledaeniad Covid-19, yn ogystal â heintiau anadlol eraill a chlefydau eraill.

Os oes gennych unrhyw un o brif symptomau COVID-19, dylech hunan-ynysu a sefyll prawf llif ochrol (LFT). Gallwch archebu LFTs ar-lein yn www.gov.uk/order-coronavirus-rapid-lateral-flow-tests neu ffoniwch 119 rhwng 7am ac 11pm (mae galwadau am ddim).

Mae prif symptomau COVID-19 yn parhau i fod fel a ganlyn:

  • tymheredd uchel
  • peswch parhaus
  • colli neu newid blas neu arogl

Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf bydd rhagor o waith yn cael ei wneud wrth drosglwyddo i strategaeth Byw gyda Covid-19 Llywodraeth Cymru, a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau amgylchedd ysgol diogel. Rydym yn ddiolchgar am eich cefnogaeth barhaus a byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau wrth iddynt ddod ar gael. Os oes gennych unrhyw ymholiadau penodol ynghylch presenoldeb, cysylltwch â Threganna