Helo bawb. Mae’r gwaith cartref bellach ar teams yn wythnosol. Mae linc fan hyn at Teams
Mwynhewch!
Helo bawb. Mae’r gwaith cartref bellach ar teams yn wythnosol. Mae linc fan hyn at Teams
Mwynhewch!
Helo!
Yr wythnos hon rydym wedi bod yn dysgu am ddiwrnod mewn bywyd milwr Rhufeinig gan gyfuno hyn gyda’r hyn yr ydym wedi ei ddysgu am y cloc. Cofiwch ymarfer dweud yr amser a darllen y cloc analog a digidol bob dydd. Mae’r gȇm yma yn help i chi ymarfer. https://mathsframe.co.uk/en/resources/resource/116/telling-the-time
Dyma ddolen i lyfrau darllen Cymraeg.
Beth edrych ar rhai o rhain hefyd!
Mae gwaith cartref yr wythnos hon ar Teams y dosbarth unwaith eto. Ewch ati i ddilyn y cyfarwyddiadau yn yr Assignment er mwyn gweld beth sydd yn rhaid ei wneud.
Mwynhewch y penwythnos,
Miss Morris, Ms Hopkins a Mr Thomas-Williams
Helo!
Wel, diwedd wythnos arall brysur ym Mlwyddyn 3! Mae’r plant yn dechrau setlo i drefn Blwyddyn 3 bellach ac rydyn ni wrth ein boddau yn gweld eu gwaith a’u ymdrech gwych bob dydd. Fe wnaethon ni ddechrau cael blas ar wersi Saesneg heddiw, felly ail-edrych dros yr hyn a wnaethon ni yn y dosbarth fydd y gwaith cartref, a chyfle i chi’r rhieni gael blas ar weithgareddau StepStar. Mae gwaith cartref yr wythnos hon ar Teams y dosbarth unwaith eto. Ewch ati i ddilyn y cyfarwyddiadau yn yr Assignment er mwyn gweld beth sydd yn rhaid ei wneud.
Fe wnaethon ni gyfarfod ychydig o ffrindiau newydd sydd wedi bod yn ein helpu ni i ddysgu Saesneg am y tro cyntaf.
Mwynhewch y penwythnos, gan obeithio y bydd yr haul yn dal i wenu!
Diolch!
Miss Morris, Ms Hopkins a Mr Thomas-Williams
Annwyl blant,
Rydych wedi ymgartrefu yn anhygoel o dda ym mlwyddyn 3 serch y trefniadau a’r heriau newydd ac mae’r athrawon wedi mwynhau dod i’ch nabod. Mae’n siwr eich bod wedi blino’n lan ar ddiwedd bob dydd ac y byddwch yn edrych ymlaen at ymlacio dros y penwythnos.
Mae eich Gwaith Cartref yr wythnos hon ar y rhan aseiniadau (assignments) yn “TEAMS”. Fel esboniwyd yn y dosbarth dydd Gwener, ewch yma i weld eich tasg a’i gwblhau.
Teams: https://hwb.gov.wales/
Mae fideo help yma ar gyfer aseiniadau (assignments) ar teams.
DIOLCH!!
Mr T-W, Miss Hopkins a Miss Morris
Helo Blwyddyn 3,
Wel, rydyn ni mor gyffrous i’ch croesawu chi gyd yn ôl i’r ysgol yr wythnos hon, ac yn edrych ymlaen yn fawr at weld bob un ohonoch. Ar eich diwrnod yn yr ysgol, bydd cyfle i ni glywed newyddion ein gilydd, a chwblhau tasgau a gwahanol weithgareddau gyda’n gilydd. Ar gyfer gweddill yr wythnos, pan dydych chi ddim yn yr ysgol, rydyn ni wedi paratoi wythnos mabolgampau, iechyd a lles ar eich cyfer, gyda phob cymuned yn cystadlu yn erbyn ei gilydd! Felly, amdani Blwyddyn 3! Pwy fydd yn fuddugol tybed? Pwyll, Manawydan neu Branwen? Fe fyddwn ni hefyd yn dewis bachgen a merch o’r flwyddyn sydd wedi serennu yn y gweithgareddau ac wedi dangos ymdrech arbennig, a bydd gwobr i’r enillwyr. Gwyliwch y fideo yma cyn dechrau – efallai bydd ambell i wyneb cyfarwydd yno i’ch sbarduno/ysbrydoli!
Yna, darllenwch y pwerbwynt yma ar gyfer cyfarwyddiadau’r wythnos, cyn mynd ati i ddechrau ar eich gweithgareddau gan ddilyn y cerdyn bingo yma Cofiwch dynnu lluniau ac anfon fideos ohonoch yn cwblhau’r gweithgareddau er mwyn i ni weld eich ymdrechion a gallu gwobrwyo’r bachgen a’r merch sydd wedi ceisio eu gorau glas drwy gydol yr wythnos. Bydd sianel newydd yn Teams er mwyn uwchlwytho’ch fideos a’ch lluniau. Bydd hefyd linc Flipgrid o fewn y sianel ar gyfer uwchlwytho fideos. Dewiswch chi y ffordd sydd orau gennych chi. Byddwch yn derbyn 5 pwynt i’ch cymuned ar gyfer pob gweithgaredd rydych chi’n ei gwblhau. Felly, y po fwyaf o weithgareddau y byddwch chi’n eu cwblhau, y mwyaf o bwyntiau y gallwch chi eu hennill! Uwchlwythwch lun o’ch cerdyn bingo gyda cylch neu groes drwy bob un gweithgaredd rydych chi wedi ei gwblhau i Assignments erbyn 12:00 dydd Gwener. Byddwn ni yna’n cyfri’r pwyntiau ac yn cyhoeddi’r cymuned buddugol, yn ogystal â’r plant sydd wedi ennill athletwr ac athletwraig y flwyddyn, cyn diwedd y tymor!
Gwrando ar a Darllen Llyfrau Cymraeg (Diolch Mr Chappell Penygroes)
NEWYDD – Darllen Llyfrau Cymraeg (Diolch Mrs Roberts Ysgol Gwaun Gyfi)
NEWYDD – Coeden Ddarllen Rhydychen
3 phrawf Rhifau Rhagorol – HELP AR GYFER YMARFER YMA
NEW AND UPDATED – English spellings 1,2,3
Pob lwc a mwynhewch y mabolgampau!
Welwn ni chi yn ystod yr wythnos,
Miss Morris, Ms Hopkins a Mr Thomas-Williams
PWYSIG – EDRYCHWCH YN OFALUS AR EICH GWEITHGAREDDAU WYTHNOSOL A DYDDIOL – WEDI DIWEDDARU.
Gwaith CYMRAEG fydd yr wythnos hon.
Cofiwch, peidiwch a theimlo’n gaeth i’r fformat rydyn ni’n ei osod i chi. Efallai hoffech chi argraffu’r daflen, ei gwblhau ar lein neu ysgrifennu’r gwaith mewn llyfr. Gwnewch beth sydd orau i chi. Cofiwch, os ydych chi’n ansicr ynghylch ysgrifennu rhywbeth ar bapur, mae croeso i chi drafod eich syniadau a gofyn i’ch rhieni eu hysgrifennu neu eu recordio fel gwaith ar lafar.
Angen help gyda dod o hyd i’r gwaith neu fformat y ffeiliau? Rhowch wybod drwy “TEAMS”neu e-bost.
Gwrando ar a Darllen Llyfrau Cymraeg (Diolch Mr Chappell Penygroes)
NEWYDD – Darllen Llyfrau Cymraeg (Diolch Mrs Roberts Ysgol Gwaun Gyfi)
NEWYDD – Coeden Ddarllen Rhydychen
3 phrawf Rhifau Rhagorol – HELP AR GYFER YMARFER YMA
NEW AND UPDATED – English spellings 1,2,3
Wythnos Gymraeg.
Wythnos hon mi fyddwn yn adeiladu ar waith wythnos ddiwethaf gan feddwl am y bobl sy’n dod a chariad i’n bywydau!
Os ydych chi’n gorffen yr holl dasgau, mae digon o syniadau fan hyn i’ch cadw’n brysur: GWEITHGAREDDAU HWYL!
Fel yn yr ysgol, dewisiwch y lliw sy’n gweithio i chi!
Peidiwch a mynd am ddim sy’n rhy hawdd nac yn rhy anodd.
Rydym yn parhau gyda’r galwadau ffrydio byw’r wythnos hon a chewch wybodaeth bellach wrth eich athro dosbarth ar ‘Teams’. Cyfarwyddiadau fan hyn.
Diolch yn fawr iawn am eich holl gefnogaeth yn ystod y cyfnod yma. Rydyn ni’n gwerthfawrogi’n fawr. Cofiwch ebostio neu anfon neges ar Teams os oes unrhyw broblemau / gwestiynau yn codi.
Teams App – https://www.microsoft.com/en-gb/microsoft-365/microsoft-teams/download-app
DIOLCH!!
Mr T-W, Miss Hopkins a Miss Morris
GWEITHIO GARTREF
GWAITH CYMRAEG WYTHNOS YMA.
Cofiwch, peidiwch a theimlo’n gaeth i’r fformat rydyn ni’n ei osod i chi. Efallai hoffech
chi argraffu’r daflen, ei gwblhau ar lein neu ysgrifennu’r gwaith mewn llyfr. Gwnewch
beth sydd orau i chi. Cofiwch, os ydych chi’n ansicr ynghylch ysgrifennu rhywbeth ar
bapur, mae croeso i chi drafod eich syniadau a gofyn i’ch rhieni eu hysgrifennu neu eu
recordio fel gwaith ar lafar.
Angen help gyda dod o hyd i’r gwaith neu fformat y ffeiliau? Rhowch wybod drwy “TEAMS”neu e-bost.
GWEITHGAREDDAU DYDDIOL AC WYTHNOSOL
POB DYDD: 5 i 10 munud yr un.
Gwrando ar a Darllen Lyfrau Cymraeg (Diolch Mr Chappell Penygroes)
Darllen Llyfrau Cymraeg (Diolch Mrs Roberts Ysgol Gwaun Gyfi)
POB WYTHNOS
3 phrawf Rhifau Rhagorol Sillafu Cymraeg
GWAITH YR WYTHNOS 15.06.2020
Yr wythnos hon, rydym ni am ddychmygu sut le fyddai ein Byd delfrydol. Yn ystod y cyfnod hwn, rydyn ni wedi cael amser i feddwl a mwynhau’r pethau bychain. Tybed sut le fydd y Byd wedi’r cyfnod hwn ddod i ben? Sut le hoffech chi i’r Byd fod? Beth fyddai eich Byd delfrydol chi tybed?
Os ydych chi’n gorffen yr holl dasgau, mae digon o syniadau fan hyn i’ch cadw’n brysur: GWEITHGAREDDAU HWYL!
DEWIS EICH GWAITH
Fel yn yr ysgol, dewisiwch y lliw sy’n gweithio i chi!
Peidiwch a mynd am ddim sy’n rhy hawdd nac yn rhy anodd.
FFRYDIO BYW
Rydym yn parhau gyda’r galwadau ffrydio byw’r wythnos hon a chewch wybodaeth bellach wrth eich athro dosbarth ar ‘Teams’. Cyfarwyddiadau fan hyn.
Diolch yn fawr iawn am eich holl gefnogaeth yn ystod y cyfnod yma. Rydyn ni’n gwerthfawrogi’n fawr. Cofiwch ebostio neu anfon neges ar Teams os oes unrhyw broblemau / gwestiynau yn codi.
Teams App – https://www.microsoft.com/en-gb/microsoft-365/microsoft-teams/download-app
DIOLCH!!
Mr T-W, Miss Hopkins a Miss Morris
Gwaith Saesneg fydd dros y bythefnos nesaf, felly bydd y canllwaiau a chyfarwyddiadau yn Saesneg.
Cofiwch, peidiwch a theimlo’n gaeth i’r fformat rydyn ni’n ei osod i chi. Efallai hoffech
chi argraffu’r daflen, ei gwblhau ar lein neu ysgrifennu’r gwaith mewn llyfr. Gwnewch
beth sydd orau i chi. Cofiwch, os ydych chi’n ansicr ynghylch ysgrifennu rhywbeth ar
bapur, mae croeso i chi drafod eich syniadau a gofyn i’ch rhieni eu hysgrifennu neu eu
recordio fel gwaith ar lafar.
Angen help gyda dod o hyd i’r gwaith neu fformat y ffeiliau? Rhowch wybod drwy “TEAMS”neu e-bost.
3 phrawf Rhifau Rhagorol Sillafu Cymraeg
This week we’re going to take some time to look at who we are and what makes us special, as well as what makes other people special. Let’s take some time to reflect, some time to discuss and some time to celebrate each other!
If you complete the tasks, there are plenty more to do here: GWEITHGAREDDAU HWYL!
Fel yn yr ysgol, dewisiwch y lliw sy’n gweithio i chi!
Peidiwch a mynd am ddim sy’n rhy hawdd nac yn rhy anodd. Coch yw’r lliw hawsaf.
Rydym yn parhau gyda’r galwadau ffrydio byw’r wythnos hon a chewch wybodaeth bellach wrth eich athro dosbarth ar ‘Teams’. Cyfarwyddiadau fan hyn.
Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth gyda hyn oll. Mae’r adborth wedi
bod yn gadarnhaol tu hwnt gan blant a rhieni hyd yma.
Teams App – https://www.microsoft.com/en-gb/microsoft-365/microsoft-teams/download-app
DIOLCH!!
Mr T-W, Miss Hopkins a Miss Morris
HELO BLANT!
(English web page available for parents)
Gobeithio eich bod wedi cael wythnos wych yn yr haul. Pwy sydd wedi cwblhau’r fideo ymarfer corff newydd? Pwy welodd Eisteddfod T ar y teledu?
Mae 3 tasg yr wythnos hon Iaith, Mathemateg a Hanes.
Cofiwch, peidiwch a theimlo’n gaeth i’r fformat rydyn ni’n ei osod i chi. Efallai hoffech chi argraffu’r daflen, ei gwblhau ar lein neu ysgrifennu’r gwaith mewn llyfr. Gwnewch beth sydd orau i chi. Cofiwch, os ydych chi’n ansicr ynghylch ysgrifennu rhywbeth ar bapur, mae croeso i chidrafod eich syniadau a gofyn i’ch rhieni eu hysgrifennu neu eu recordio fel gwaith ar lafar.
Angen help gyda dod o hyd i’r gwaith neu fformat y ffeiliau? Rhowch wybod drwy “TEAMS”neu e-bost.
POB DYDD: 5 i 10 munud yr un.
TTRockstars BUGS Online Darllen Cymraeg
POB WYTHNOS
3 phrawf Rhifau Rhagorol Sillafu Cymraeg
DEWIS EICH GWAITH – Gwahaniaethu.
Fel yn yr ysgol, dewisiwch y lliw sy’n gweithio i chi!
Peidiwch a mynd am ddim sy’n rhy hawdd nac yn rhy anodd. Coch yw’r lliw haws.
Rydym yn parhau gyda’r galwadau ffrydio byw’r wythnos hon a chewch wybodaeth bellach wrth eich athro dosbarth ar ‘teams’. Cyfarwyddiadau fan hyn.
Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth gyda hyn oll. Mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol tu hwnt gan blant a rhieni hyd yma.
Teams App – https://www.microsoft.com/en-gb/microsoft-365/microsoft-teams/download-app
Gwaith Cymraeg wythnos yma.
Dydd Iau a Gwener / Thursday and Friday – Tasg Hanes
Os ydych chi’n gorffen y tasgau i gyd mae digonedd o syniadau fan hyn o bethau hwylus i’w gwneud – GWEITHGAREDDAU HWYL!
Cofiwch atgoffa eich rhieni i ddarllen y fersiwn Saesneg o’r dudalen yma.
DIOLCH!!
Mr T-W, Miss Hopkins a Miss Morris Twitter@Bl3Treganna
Hanner tymor 25/05/20 – 29/05/20
Wel, mae gwyliau’r hanner tymor wedi cyrraedd. Diolch i chi gyd am eich holl waith caled dros yr hanner tymor gwahanol diwethaf yma, a diolch i chi’r rhieni am eich holl gefnogaeth. Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r gefnogaeth ac ymdrech yn fawr iawn, ac wrth ein boddau yn derbyn gwaith y plant. Tasg opsiynol yw’r dasg hon, ac felly does dim pwysau i’w gwblhau. Gobeithio gewch chi gyfle i ymlacio, ac mi welwn ni chi ar ol y gwyliau. Fe fyddwn ni yn ol ar-lein 02/06/2020.
Dyma eich cyfle chi i fod yn greadigol! Gwyliwch rai o’r fideos myfyrdod isod redden ni’n arfer eu gwneud yn y dosbarth fel sbardun, ac yna ewch ati i greu eich myfyrdod eich hun.
Fe gewch chi:
Fideo opsiynol
https://www.youtube.com/watch?v=QQCnWvwrO8U
Sianel Youtube Cosmic Kids Yoga os hoffech ddewis fideo gwahanol
https://www.youtube.com/user/CosmicKidsYoga/videos
Hanner tymor hapus i chi gyd,
Cadwch yn saff,
Miss Morris, Ms Hopkins a Mr T-W
Heol y Feddygfa, Treganna, Caerdydd, CF11 8DG