Diolch am eich ymdrechion i gwblhau’r gweithgareddau dysgu cartref. Rydym wrth ein bodd yn derbyn lluniau o’r plant yn cwblhau amrywiaeth o weithgareddau. Diolch am eich cefnogaeth barhaus yn ystod y cyfnod yma o ymgyfarwyddo gyda ffordd newydd o weithio.
Dros y pythefnos Pasg hoffem i’ch plentyn wneud dau beth.
- Dewis cymeriad j2stars ar Hwb – ffordd i’r athrawon roi pwyntiau i chi am eich gwaith adref (tebyg i Dojo)
- Cwblhau’r gweithgaredd ar j2homework
Dewis cymeriad j2stars
- Mewngofnodi i Hwb ar wefan www.hwb.gov
- Dewis just2easy
- Dewis j2stars
- Clicio ar y pensil er mwyn ‘golygu’ eich cymeriad
- Creu eich cymeriad j2stars
- Clicio ‘Cadw’ er mwyn arbed eich cymeriad
Cwblhau’r gweithgaredd ar j2homework
- Mewngofnodi i Hwb ar wefan www.hwb.gov
- Dewis just2easy
- Dewis j2homework
- Dewis y weithgaredd ‘Wy Pasg’
- Gwrando ar eich athrawes yn esbonio’r dasg drwy wasgu’r botwm meicroffon
- Cwblhau’r dasg
- Clicio’r botwm ‘Mark complete’ ar j2homework ar ôl cwblhau’r dasg.
Cysylltwch gyda Mrs Alaw ar alawe@hwbcymru.net os oes angen cymorth
Os hoffwch gwblhau heriau dyddiol rydym wedi creu ‘Calendr Her Pasg’ ar eich cyfer.
Cofiwch geisio ymlacio dros y pythefnos nesaf ac edrychwch ar ôl eich hunain.
Diolch,
Mrs Alaw, Miss Evans a Miss Thompson